Cynllun Gweithredu

Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024

Y cynllun gweithredu yw lle byddwch yn cadarnhau'r ffordd orau o gau'r bylchau o ran sgiliau a gallu a nodwyd rhwng y cyflenwad a'r galw.

Mae'r fframwaith mwyaf cyffredin yn defnyddio'r saith elfen ganlynol: prynu, adeiladu, benthyca, rhwymo, adlamu, defnyddio robot a chydbwyso.

 

Y dalent allanol angenrheidiol (recriwtio, cynlluniau mynediad, graddedigion, prentisiaid, tâl a buddion).

Talent fewnol (dilyniant, cynllunio ar gyfer olyniaeth, dysgu a datblygu, cynlluniau talent, potensial uchel, amrywiaeth, diwylliant).

Contractio, ffynonellau allanol neu ddod â staff i mewn (secondiadau, gweithwyr asiantaeth, gwasanaethau proffesiynol, staff dros dro tymhorol).

Cadw gweithwyr a galluoedd allweddol (tâl marchnad atodol, adolygu buddion staff (beth mae staff yn gofyn amdano?), cynnig hyblygrwydd cytundebol, archwilio ymddeoliad hyblyg, ystyried dychwelyd i wasanaeth).

Ailffocysu gweithwyr a defnyddio rheoli perfformiad (ailhyfforddi, adleoli, secondiadau, cynlluniau partneriaeth a diswyddo yn ddewis olaf).

Cyfuniad priodol o'r gweddill (trawsnewid gweithredol, cyllideb, lefelau gwasanaeth, gwella perfformiad, technoleg, dylunio trefniadaeth).

Defnyddio awtomeiddio i gynyddu neu ddisodli'r gallu presennol (awtomeiddio robotig, dysgu peirianyddol, awtomeiddio gwybyddol).

 

Ystyriwch pa elfennau fydd yn eich cynorthwyo wrth gynllunio camau gweithredu. Cofiwch y rolau critigol a nodwyd gennych yn gynharach a chydnabod sut rydych yn defnyddio neu sut y gallech ddefnyddio'r dulliau i reoli rolau critigol yn well.

Ystyriwch pwy yw'r prif randdeiliaid y mae angen i chi ddylanwadu arnynt, gofyn am gyngor ganddynt, ymgynghori a chydweithio â nhw i'ch helpu gyda'ch cynlluniau gweithlu.

Mae rhanddeiliaid nodweddiadol yn cynnwys y canlynol:

  • Eich timau
  • Arweinwyr gweithredol
  • Partneriaid busnes adnoddau dynol
  • Cyllid
  • Caffael
  • TG/digidol
  • Ystadau/cyfleusterau
  • Undebau llafur cydnabyddedig.

Ar ôl i chi gadarnhau'r hyn sydd ei angen arnoch yn eich cynllun, gallwch ddod â'r cyfan at ei gilydd. Defnyddiwch y templed cynllun gweithredu sydd ynghlwm i wneud hynny (gallwch ail-greu ac addasu'r tabl i weddu i'ch anghenion). Mae templed cynllun gweithredu yn eich helpu i ddeall beth yw prif faterion a bylchau eich gweithlu drwy eu cydgrynhoi mewn un man.

Drwy wneud hynny, bydd yn eich helpu i ateb cwestiynau fel a ganlyn:

  • Beth yw'r bylchau a'r materion o ran y gweithlu y mae angen mynd i'r afael â nhw?
  • Pa ymyriadau o ran talent y byddwch chi'n eu defnyddio i fynd i'r afael â'r rhain?

Bydd Cam 3 y daenlen dadansoddi rolau critigol ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn rhoi arweiniad i chi ynghylch y dadansoddiad hwn.

 

cym-Critical Role Analysis Template.xlsx

 

Adnoddau Dynol