Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Egwyddorion
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
- 6. Diffinio Sefydliad neu Dîm Perthnasol neu Faes Gwaith
- 7. Recriwtio a Phenodi Gweithwyr
- 8. Gofyniad i Ddatgelu Cysylltiad Personol Agos
- 9. Perthynas Rhwng Ymgeisydd a Rheolwr neu Gydweithwyr yn y Tîm
- 10. Awdurdod i Benodi
- 11. Methu â Rheoli Materion yn Effeithiol
- 12. Perthynas yn Dirwyn i Ben
- 13. Materion o Ran Ymddygiad neu Berfformiad
- 14. Cysylltiadau Personol Agos Rhwng Gweithiwr a Phlentyn/Person Ifanc neu Oedolyn sy'n Agored i Niwed
- 15. Cydweithwyr sy'n Cael eu Heffeithio Gan Gysylltiad Personol Agos
- 16. Llunio Geirdaon
- 17. Rheoliadau Ariannol
- 18. Cysylltiadau â Chontractwyr neu Ddarpar Gontractwyr
- 19. Methu â Datgelu Cysylltiadau Personol Agos
- 20. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- ATODIAD 1 - Datganiadau Buddiannau Personol Swyddogion
- ATODIAD 2 - Protocol Perthynas
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod bod nifer o gysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn cael eu creu yn y gwaith. Mae'r awdurdod yn gyflogwr mawr ac mae'n bosibl y cyflogir rhiant a phlentyn, tad-cu neu fam-gu ac ŵyr neu wyres, brodyr a chwiorydd neu berthnasau eraill yn yr un tîm, sefydliad neu faes gwaith.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n annhebygol y byddai cysylltiad/perthynas rhwng cydweithwyr yn cael effaith ar waith yr awdurdod. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd, gall cysylltiad/perthynas bersonol agos yn y gwaith amharu ar y gwaith neu'r gwasanaeth a ddarperir a/neu ei beryglu.
Gall goblygiadau cysylltiadau/perthnasoedd personol agos yn y gwaith gynnwys:
Effaith ar ymddiriedaeth a ffydd cydweithwyr o ran gwrthdaro buddiannau. triniaeth deg a'u gallu i drafod materion yn agored mewn tîm neu gyda'u rheolwr llinell.
Canfyddiad o’r defnyddwyr gwasanaeth neu'r cyhoedd mewn perthynas â phroffesiynoldeb a thegwch yr awdurdod a'i weithwyr.
Materion gweithredol sy'n effeithio ar y gallu i ddarparu'r gwasanaeth yn effeithiol.
Teyrngarwch sy'n gwrthdaro a thorri cyfrinachedd.
Felly, diben y canllawiau hyn yw helpu rheolwyr a'r Tîm Adnoddau Dynol yn yr Is-adran Pobl, Digidol a Pholisi, i ddelio'n sensitif ond yn effeithiol â sefyllfaoedd lle mae cysylltiad/perthynas bersonol agos yn bodoli neu'n datblygu rhwng gweithwyr â'i gilydd.
Bwriad y darpariaethau hyn yw osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu gyhuddiad o ragfarn neu ffafriaeth. Maent hefyd yn ceisio sicrhau bod yr holl weithwyr yn teimlo'n hyderus eu bod yn cael triniaeth deg heb ofni y bydd cysylltiad personol agos yn dylanwadu ar eu triniaeth nhw eu hunain neu driniaeth gweithwyr eraill neu berthynas waith ehangach.
