Canllawiau Cysylltiadau Personol Agos a Pherthnasoedd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Egwyddorion
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
- 6. Diffinio Sefydliad neu Dîm Perthnasol neu Faes Gwaith
- 7. Recriwtio a Phenodi Gweithwyr
- 8. Gofyniad i Ddatgelu Cysylltiad Personol Agos
- 9. Perthynas Rhwng Ymgeisydd a Rheolwr neu Gydweithwyr yn y Tîm
- 10. Awdurdod i Benodi
- 11. Methu â Rheoli Materion yn Effeithiol
- 12. Perthynas yn Dirwyn i Ben
- 13. Materion o Ran Ymddygiad neu Berfformiad
- 14. Cysylltiadau Personol Agos Rhwng Gweithiwr a Phlentyn/Person Ifanc neu Oedolyn sy'n Agored i Niwed
- 15. Cydweithwyr sy'n Cael eu Heffeithio Gan Gysylltiad Personol Agos
- 16. Llunio Geirdaon
- 17. Rheoliadau Ariannol
- 18. Cysylltiadau â Chontractwyr neu Ddarpar Gontractwyr
- 19. Methu â Datgelu Cysylltiadau Personol Agos
- 20. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- ATODIAD 1 - Datganiadau Buddiannau Personol Swyddogion
- ATODIAD 2 - Protocol Perthynas
5. Diffiniad o Gysylltiadau / Perthnasoedd Personol Agos
Wrth ystyried a ddylid datgan cysylltiad personol agos, dylai'r gweithiwr ystyried a allai fod unrhyw ddylanwad neu ragfarn canfyddedig. Yn y canllaw hwn, diffinnir cysylltiadau/perthnasoedd personol agos fel gweithwyr sy'n:
Briod a'i gilydd, mewn Partneriaeth Sifil, mewn Partneriaeth neu'n cyd-fyw.
Aelodau o deulu agos yr ymgeisydd neu'r gweithiwr e.e. Rhieni, Mab / Merch, Brawd / Chwaer, Mam-gu / Tad-cu.
Perthynas arall yr ymgeisydd neu'r gweithiwr e.e. teulu estynedig megis Modrybedd / Ewythrod / Cefndryd / Nithod / Neiod ac unrhyw unigolion eraill y mae gennych gysylltiad personol agos â nhw e.e. drwy gysylltiadau a pherthnasoedd agos, neu drwy fusnes (y tu allan i'r awdurdod). Mae hefyd yn cynnwys perthynas flaenorol e.e. cyn ŵr/wraig, lle gallai fod rhywfaint o ragfarn.
Plentyn / person ifanc neu oedolyn / cleient sy'n agored i niwed y mae gweithiwr yn cwrdd ag ef yn rhinwedd ei gyflogaeth.
Person yr ydych mewn anghydfod ag ef/wedi bod mewn anghydfod ag ef.
Os oes unrhyw weithiwr yn ansicr ynghylch a ddylid datgan perthynas ai peidio, yna dylai, yn unol â'r Weithdrefn Datganiad Gweithiwr, weithredu yn unol â'r rhybudd a'i ddatgan. Yr hyn sy'n allweddol yw a ellid ystyried bod cysylltiad agos o'r fath yn effeithio ar y modd y daw unigolyn i benderfyniadau personol.
