Ymddygiad a safonau

Diweddarwyd y dudalen: 18/10/2023

Rydym yn ceisio darparu amgylchedd gwaith sy'n gwerthfawrogi cyfraniad ein holl weithwyr o ran darparu gwasanaethau o ansawdd. I'r perwyl hwnnw ein gobaith yw creu a meithrin perthnasoedd gwaith da a diwylliant sy'n parchu eich hawliau chi fel unigolyn a'ch urddas yn y gwaith.

Nid yw bwlio ac aflonyddu yn fathau derbyniol o ymddygiad a bydd achosion o'r rhain yn cael eu rheoli drwy ein canllawiau Safonau yn y Gweithle.  Os ydych yn cael eich bwlio neu'ch aflonyddu yn y gwaith, cysylltwch â'ch Rheolwr Llinell, Tîm Rheoli Pobl a Pherfformiad, Undeb Llafur, Iechyd Galwedigaethol neu gydweithiwr.

Rydym yn ymroddedig i hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth  i chi a'r gymuned rydym yn ei wasanaethu drwy ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Rydym yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i chi am ein hymrwymiad a'n cyfrifoldebau unigol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'n nodau. Fel gweithiwr, golyga hyn y dylech ddisgwyl cael eich trin yn deg ymhob agwedd ar eich cyflogaeth ac na ddylid gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (yn cynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran bod yn rhiant neu o ran priodas/partneriaeth sifil.

Os bydd gennych unrhyw bryderon o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod eich cyflogaeth gyda'r Cyngor, cysylltwch ag aelod o'r Tîm Adnoddau Dynol a fydd yn cynnig cyngor i chi.

Ni chaniateir yfed alcohol pan fydd staff ‘yn y gwaith'. Hefyd rhaid rhoi ystyriaeth i ganlyniadau yfed alcohol dyweder yn dilyn "noson fawr’’, neu ar ôl dychwelyd i'r gwaith ar ôl egwyl amser cinio, ac ati.  Gall defnyddwyr gwasanaeth oglau'r alcohol ar anadl staff neu sylwi arno mewn rhyw ffordd arall, efallai yn eu gweithredoedd/ymddygiad/agwedd.

Mae'n rhaid ystyried camddefnyddio cyffuriau yn yr un modd â'r uchod, a gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y tudalennau Iechyd a Diogelwch ar y fewnrwyd.

Gellir canfod neu ffurfio nifer helaeth o gysylltiadau/perthnasoedd agos yn y gwaith. Gall sefyllfaoedd godi lle cyflogir rhiant a phlentyn, tad-cu neu fam-gu ac ŵyr neu wyres, brodyr a chwiorydd neu berthnasau eraill yn yr un tîm, sefydliad neu faes gwaith.

Yn y mwyafrif o achosion, mae'n annhebygol y byddai hyn yn cael unrhyw effaith ar ein gwaith. O bryd i'w gilydd fodd bynnag, gall amharu ar y gwaith neu'r gwasanaeth a ddarperir a/neu ei beryglu.

Os ydych yn ansicr a ddylech ddatgan cysylltiad/perthynas bersonol agos ai peidio, gwell yw bod yn ofalus a gwneud hynny. Yr hyn sy'n allweddol yw a ellid ystyried bod cysylltiad agos o'r fath yn effeithio ar y modd y daw unigolyn i benderfyniadau personol.

Mae'n ofynnol ichi ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau. Dylech nodi bod hyn hefyd yn cynnwys gwaith ychwanegol a wnaed (â thâl neu heb dâl) y tu allan i'ch cyflogaeth gyda'r Cyngor. Mae'n ofynnol i chi gael caniatâd ymlaen llaw i gymryd rhan yn y gweithgaredd allanol hwn (â thâl neu heb dâl) drwy gyflwyno ffurflen Datganiad Buddiant i'ch rheolwr llinell.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor a'i weithwyr yn cadw at y Côd Ymddygiad a'i fod yn cael ei weld yn ymddwyn yn agored a thryloyw, mae'n rhaid ichi ddatgan unrhyw fuddiannau ariannol neu anariannol a allai yn eich barn chi greu gwrthdaro gyda buddiannau'r Cyngor, ac Aelodaeth o unrhyw fudiad neu gorff nad yw'n agored i'r cyhoedd heb aelodaeth ffurfiol ac ymrwymiad o deyrngarwch ac sy'n cynnwys elfen gyfrinachol ynghylch ei rheolau neu aelodaeth neu ymddygiad.

Yn ogystal, mae Adran 117 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn mynnu "na ddylai swyddog awdurdod lleol, o dan liw ei swydd neu ei gyflogaeth, dderbyn unrhyw ffi neu wobr o gwbl heblaw ei dâl priodol”.

Ni ddylech dderbyn rhoddion personol, benthyciadau, ffioedd, gwobrau neu fantais gan ddefnyddwyr gwasanaeth, contractwyr, darpar gontractwyr gan gynnwys y rheiny sydd wedi gweithio i'r Cyngor yn flaenorol, neu gyflenwyr allanol, waeth beth fo'u gwerth

Ewch i'n tudalen Cod Ymddygiad Swyddogion i gael rhagor o wybodaeth am pryd a sut i ddatgan buddiant.

Os yw cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnoch, gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod wedi ymrwymo i sicrhau gweithle diogel sy'n diogelu eich iechyd a'ch llesiant.

Mae'r rheiny yr effeithir arnynt yn cynnwys:

  • dioddefwyr/goroeswyr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol;
  • ffrindiau, teulu neu gydweithwyr dioddefwyr/goroeswyr;
  • cyflawnwyr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Mae gennym bolisi dim goddefgarwch i drais a chamdriniaeth, gan gydnabod mai’r cyflawnydd sy’n gyfrifol am gam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Rydym yn gweithredu polisi dim ysmygu.  Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno ysmygu wneud hynny y tu allan i'r gweithle a bydd disgwyl iddynt "glocio allan" ar gyfer seibiannau ysmygu.  Noder bod yn rhaid i staff ysmygu yn ddigon pell i ffwrdd o unrhyw brif ddrysau, mynedfeydd, ffenestri agored neu sianeli aer, sy'n gysylltiedig ag adeiladau'r Cyngor neu adeiladau eraill.

Erbyn hyn, mae'r mwyafrif o'r safleoedd y mae'r Awdurdod yn berchen arnynt/yn eu rhedeg yn 'safleoedd di-fwg’.  Gofalwch rhag gollwng sbwriel, niferoedd o staff yn 'grwpio', a chofiwch fod mwy o berygl o dân.  Trowch at y polisi ar ysmygu i gael rhagor o fanylion.

Mae angen i chi wybod fel gweithiwr, bod yn rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am unrhyw beth yr ydych yn ei bostio ar-lein – yn rhinwedd eich gwaith ac yn eich amser hamdden ar eich cyfrifon personol. Rydym ni, ynghyd â chydweithwyr o'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau a thîm y Gyfraith, wedi datblygu polisi i'ch helpu a'ch amddiffyn pan fyddwch yn postio gwybodaeth neu'n rhoi sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw'r polisi hyn yn berthnasol i Aelodau'r Cyngor. Dylai'r Aelodau gyfeirio at eu Côd Ymddygiad.

Os hoffech ystyried defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol i hyrwyddo eich gwasanaeth, cysylltwch â'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau drwy anfon neges e-bost at: digidol@sirgar.gov.uk.

Rhaid ateb y ffôn yn ddwyieithog â chyfarchiad e.e. "Bore Da, Good Morning" a dweud enw'r adran. Mae canllawiau ychwanegol ynghylch ateb y ffôn ar gael ar yr adran o'r fewnrwyd sy'n rhoi sylw i weithio'n ddwyieithog.

At ddefnydd busnes yn unig y mae'r ffonau.  Fodd bynnag, os ydych am ddefnyddio'r ffôn ar gyfer galwad bersonol, cysylltwch â'ch rheolwr a fydd yn rhoi gwybod ichi beth yw'r drefn ar gyfer trefnu galwadau o'r fath.

Mae'n bwysig eich bod yn ail-gyfeirio eich ffôn os nad ydych yn y swyddfa.  Er mwyn cael gwybodaeth ar sut i wneud hyn, gofynnwch i'ch rheolwr llinell neu gydweithiwr.

Os cewch eich hunan yn y sefyllfa anodd o orfod rhoi gwybod am gamweithredu difrifol yn y gwaith, er enghraifft camdrin unrhyw berson yn gorfforol neu rywiol, mae ein Polisi Datgelu Camarfer yn gyfle ichi leisio eich ofnau yn gyfrinachol a heb ofni unrhyw erledigaeth, gwahaniaethu nac anfantais.

Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o Gyngor Sir Caerfyrddin. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud lleoliadau gwirfoddoli gyda ni yn bleserus ac yn werth chweil.
Disgwyliwn i chi ddilyn ein polisïau, gweithdrefnau a safonau, gan gynnwys y rhai ar gyfer iechyd a diogelwch a chyfle cyfartal.
Byddwn yn eich cefnogi i ymgymryd â'ch lleoliad gwirfoddoli ac yn gwneud ein gorau i'ch helpu i ddatblygu eich rôl wirfoddoli gyda ni. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau posibl i'ch lleoliad gwirfoddoli ac yn ymgynghori â chi ar y rhain lle bo'n briodol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Adnoddau Dynol