Dychwelyd yn Raddol

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Mewn achosion o absenoldeb salwch tymor hir, efallai y bydd Iechyd Galwedigaethol yn argymell bod y gweithiwr yn dychwelyd i'r gwaith yn raddol. Diben dychwelyd yn raddol i'r gwaith yw adsefydlu'r gweithiwr i'w ddyletswyddau llawn ac adeiladu'n raddol yn ôl i fyny i ymgymryd â'i oriau gwaith arferol.

Cytunir ar fanylion y dychwelyd yn raddol fel y mae IG wedi'i argymell rhwng y rheolwr llinell a'r gweithiwr, gan ystyried anghenion y gwasanaeth. Bydd dychwelyd yn raddol ar gyfer uchafswm o bedair wythnos ac yn gallu cymryd amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys:

  • Gweithio ar ddyddiau penodol o'r wythnos yn unig
  • Gweithio nifer lai o oriau
  • Ymgymryd â dyletswyddau cyfyngedig am gyfnod o amser

Yn dilyn cyfnod o absenoldeb salwch tymor hir pan nad yw'r Cynghorydd Iechyd Galwedigaethol wedi argymell dychwelyd yn raddol ac mae gan y Rheolwr Llinell rai pryderon, yna dylid ail-atgyfeirio'r mater i Iechyd Galwedigaethol er mwyn sicrhau ni ragwelir unrhyw effaith andwyol ar iechyd y gweithiwr.

Ni fydd angen tystysgrifau meddygol ar gyfer cyfnod y dychwelyd yn raddol i'r gwaith oherwydd ni fydd y gweithiwr ar absenoldeb salwch bellach ac ni fydd tâl salwch yn berthnasol.

Dylai'r Rheolwr Llinell adolygu cynnydd y gweithiwr bob wythnos a dylai gydnabod ei bod yn annhebygol y bydd y gweithiwr yn gallu ailgychwyn ei ddyletswyddau ac oriau gwaith arferol cyn diwedd y cyfnod pedair wythnos yna bydd angen atgyfeiriad pellach i Iechyd Galwedigaethol er mwyn pennu ffitrwydd yr unigolyn ar gyfer gwaith.

Bydd y gweithiwr yn cael ei dalu yn llawn hyd at uchafswm o bedair wythnos yn ystod y cyfnod dychwelyd yn raddol i'r gwaith. Os cytunir ar ddychwelyd yn raddol am gyfnod hirach na phedair wythnos, bydd angen rheoli'r cyfnod ychwanegol trwy ddefnyddio, er enghraifft, gwyliau blynyddol/hyblyg/heb gyflog/gostyngiad dros dro mewn oriau ac ati.

Efallai y bydd gweithiwr angen i addasiadau rhesymol gael eu gwneud pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith. Gall addasiadau o'r fath gynnwys y canlynol:

  • Cytuno ar oriau gwaith hyblyg
  • Mân addasiadau i ddyletswyddau
  • Gostyngiad mewn oriau gwaith
  • Addasiadau i'r ffordd y mae gwaith yn cael ei drefnu
  • Addasu gorsaf waith - darparu cyfarpar newydd neu addasedig

Cyfrifoldeb y Rheolwr Llinell yw sicrhau bod yr holl addasiadau rhesymol wedi cael eu rhoi ar waith a'u heffeithiolrwydd wedi'i asesu cyn bwrw ymlaen trwy gamau pellach y polisi absenoldeb salwch.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi rhwymedigaeth gyfreithiol glir ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol i ddyletswyddau/amodau staff anabl.

  • Os na fydd gweithredu ‘addasiadau rhesymol’ yn galluogi gweithiwr i ddychwelyd i'w swydd bresennol, bydd y Rheolwr Llinell yn gweithio gydag AD a'r gweithiwr i ystyried swydd wag amgen addas. Mae hyn yn addasiad rhesymol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

    Pan fydd Iechyd Galwedigaethol yn argymell adleoli, bydd y gweithiwr yn cael ei roi ar y gofrestr adleoli am gyfnod 4 wythnos yn gychwynnol. Bydd y gweithiwr yn cael ei gefnogi'n briodol i edrych am swyddi gwag a allai cyfateb i'w sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwyseddau.

    Os na ddeuir o hyd i gyflogaeth amgen addas o fewn y cyfnod 4 wythnos, bydd y Rheolwr Llinell a'r cynghorydd AD yn cyfarfod â'r unigolyn i roi rhybudd am ddiswyddo oherwydd gallu iechyd gwael. Bydd y gweithiwr yn parhau ar y gofrestr adleoli ar gyfer ei gyfnod rhybudd llawn.

Mae gennym ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen atal gweithiwr yn feddygol dros dro o'r gwaith, yn aros am asesiad meddygol, os oes risg penodol i iechyd. Bydd y penderfyniad hwn ar sail asesiad risg. Os bydd gweithiwr yn cael ei atal dros dro am resymau meddygol, bydd ganddo hawl i gyflog llawn. Dylid adolygu'r atal dros dro ar ôl derbyn yr asesiad oddi wrth Iechyd Galwedigaethol. Fodd bynnag, os caiff y gweithiwr gynnig gwaith addas ac nid yw'n ei dderbyn, efallai y bydd yn colli'r hawl i gael ei dalu.

Adnoddau Dynol