Gweithio hyblyg

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024

Dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, mae gan yr holl gyflogeion hawl statudol i ofyn am newid i'w hamodau a thelerau cyflogaeth contractiol, er mwyn gweithio dan drefniant hyblyg, yn unol â'r amodau cymhwystra a nodir isod.

Gall ceisiadau am drefniadau gweithio hyblyg gael eu gwneud am unrhyw reswm, ac nid ydynt wedi'u cyfyngu i gyflogeion y mae ganddynt ymrwymiadau gofalu am deulu.

Mae'r term 'gweithio hyblyg' yn disgrifio unrhyw drefniant gwaith lle y mae nifer yr oriau neu'r amser a gyflawnir y gwaith hwnnw yn amrywio o'r arfer cyffredin.

Mae gweithio hyblyg yn gallu cynnig manteision i'r cyflogai ac i ni trwy

  • Helpu rhywun i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau yn y cartref ac yn y gwaith
  • Helpu rhywun i aros yn y gwaith pan allai amgylchiadau fod wedi eu hatal rhag gwneud hynny
  • Strwythuro patrymau gwaith a lefelau staffio ar sail cyfnodau prysur a thawel o ran y galw

Eich hawliau

  • I ofyn bod eich oriau gwaith, eich diwrnodau gwaith neu'ch lleoliad gwaith yn cael ei/eu newid.
  • Pan wrthodir cais, i gael esboniad am y sail dros ei wrthod.

Eich cyfrifoldebau

  • Sicrhau bod y cais yn cael ei wneud ymhell cyn yr amser pan fyddwch yn dymuno iddo ddod i rym, fel yr amlinellir yn y polisi hwn.
  • Darparu digon o wybodaeth er mwyn galluogi'ch Rheolwr Llinell i roi ystyriaeth gywir i'ch cais.
  • Bod yn barod i drafod eich cais mewn ffordd agored ac adeiladol.
  • Yn ôl yr angen, bod yn barod i fod yn hyblyg er mwyn dod i gytundeb â'ch Rheolwr Llinell.

Hawliau cyflogwyr

  • Gwrthod cais pan fo Sail Busnes Cydnabyddedig dros wneud hynny.

Cyfrifoldebau cyflogwyr

  • Ystyried ceisiadau mewn ffordd gywir yn unol â'r broses benodedig, ac mae hyn yn cynnwys ateb ceisiadau cyflogeion yn ysgrifenedig.
  • Cydymffurfio â'r terfynau amser yn y broses.
  • Rhoi cymorth a gwybodaeth briodol i'r cyflogai yn ystod y cais.
  • Gwrthod cais dim ond pan geir Sail Busnes Cydnabyddedig dros wneud hynny, gan roi esboniad ysgrifenedig i'r cyflogai pam bod hyn yn berthnasol.
  • Sicrhau bod unrhyw amrywiad i'r broses yn cael ei gytuno ymlaen llaw gyda'r cyflogai, a'i fod yn cael ei gofnodi.

Nid oes gennych yr hawl i weithio mewn ffordd hyblyg ond mae gennych yr hawl i ofyn am gael gwneud hynny. Er mwyn gwneud cais:

  • Rhaid eich bod yn gyflogai
  • Rhaid eich bod wedi bod yn gyflogedig am gyfnod parhaus o 26 wythnos o leiaf
  • Ni ddylech fod yn weithiwr asiantaeth
  • Ni ddylech fod wedi gwneud cais arall yn ystod y 12 mis blaenorol

Sicrhau Triniaeth Gyfartal

Ystyrir eich cais am drefniadau gweithio hyblyg beth bynnag fo eich hil, eich lliw, eich cenedligrwydd, eich cefndir ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), eich iaith, eich anabledd, eich crefydd, eich credo neu'r ffaith eich bod heb gredo, eich oedran, eich rhyw, eich statws ailbennu rhywedd, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich statws fel rhiant, eich statws priodasol neu os ydych chi mewn partneriaeth sifil neu beidio (gan gynnwys parau o'r un rhyw).

Rhannu Swydd

Mae hwn yn gytundeb lle y bydd dau gyflogai rhan-amser yn rhannu'r cyfrifoldeb dros un swydd.

Gweithio Rhan-Amser

Gweithio llai o oriau na chyfanswm yr oriau amser llawn.

Oriau Blynyddol

Mynegir eich oriau gwaith cytundebol fel cyfanswm yr oriau i'w gweithio mewn blwyddyn, gan ganiatáu i batrymau gweithio hyblyg gael eu dilyn trwy gydol y cyfnod hwn. Telir y cyflogai mewn 12 rhandaliad cyfartal.

Oriau Cywasgedig

Caniateir i chi weithio cyfanswm eich oriau cytundebol dros lai o ddiwrnodau gwaith, e.e. cywasgir wythnos waith pum diwrnod i bedwar diwrnod.

Gweithio yn ystod y Tymor Ysgol

Rydych yn gweithio dan gontract parhaol, ond mae modd i chi gymryd gwyliau blynyddol gyda thâl a chael caniatâd i fod yn absennol yn ddi-dâl yn ystod y gwyliau ysgol. Fel arfer, telir y cyflog ar ffurf 12 rhandaliad misol cyfartal.

Oriau Hyblyg

Mae hyn yn rhoi'r hyblygrwydd i chi o weithio oriau ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd. Rhaid i chi gwblhau nifer gytunedig o oriau dros gyfnod o 8 wythnos cytunedig. Ni fydd modd cynnig oriau hyblyg mewn rhai rhannau o'r Awdurdod o ganlyniad i natur ac anghenion y gwasanaeth.

Gwaith Sifft

Mae trefniadau gwaith sifft yn cynnwys amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol a chylchdroi sifftiau, gan gynnig cwmpas i ddarparu gwasanaeth. Mae modd i chi gael oriau gwaith penodedig neu wahanol bob wythnos.

Gweithio Gartref

Efallai y bydd modd gwneud rhywfaint o waith gartref neu mewn man arall ac eithrio'r lleoliad gwaith arferol. Bydd gofyn cynnal asesiad risg o'r gweithgareddau a gyflawnir cyn ymgymryd â'r patrwm gwaith hwn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Ystwyth.

Oriau Gwasgarog

Mae gan y Cyflogai amser cychwyn, amser gorffen ac amser egwyl gwahanol i weithwyr eraill.

Oni bai y nodir y bydd y cais am drefniant gwaith newydd yn un a fydd yn berthnasol am gyfnod penodedig, bydd y cais yn newid parhaol i'r amodau a thelerau cyflogaeth.

Nid oes gennych chi na'r Rheolwr Llinell yr hawl i ddychwelyd i'r trefniant gwaith blaenorol oni bai y cytunir fel arall. Felly, er enghraifft, os bydd y trefniant gweithio hyblyg newydd yn cynnwys gweithio llai o oriau, nid oes gennych chi yr hawl i ddychwelyd i'r oriau yr oeddech chi'n eu gweithio'n flaenorol.

Mae gwneud newid parhaol i gytundeb cyflogaeth yn gam mawr ac ni ddylid ei wneud ar chwarae bach.

Gall cyfnodau prawf eich helpu chi a'ch Rheolwr Llinell i brofi patrwm gwaith penodol er mwyn gweld a yw'n gweithio er bodlonrwydd y ddwy ochr.

Mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig pan fyddwch yn gofalu am oedolyn, efallai nad newid parhaol fydd y datrysiad gorau, e.e. os byddwch yn dod yn ofalwr oedolyn sy'n dioddef salwch angheuol yn sydyn, efallai y bydd eich Rheolwr Llinell yn ystyried trefniant gweithio hyblyg dros dro, y cytunir arno mewn ffordd anffurfiol y tu allan i'r weithdrefn ffurfiol, neu'n cytuno ar newid am gyfnod penodol, ac ar ôl y cyfnod hwn, bydd modd i chi ddychwelyd i'r patrwm gwreiddiol.

Mae'n bosibl y gall cyfnodau prawf ddigwydd yn ystod dau gam cyn dod i gytundeb ffurfiol:

  • Gallai eich Rheolwr Llinell roi cytundeb anffurfiol i gyfnod prawf cyn y gwneir cais ffurfiol am drefniadau gweithio hyblyg; os bydd hyn yn digwydd, mae'r weithdrefn ffurfiol ar gael i chi o hyd ar ryw adeg yn y dyfodol; neu
  • Os gwneir cais ffurfiol, byddai modd cytuno ar estyniad i'r amser er mwyn i'ch Rheolwr Llinell wneud penderfyniad, a byddai modd cynnal cyfnod prawf cyn i gytundeb terfynol ddigwydd; yn yr achos hwn, byddai gweddill y weithdrefn ffurfiol ar gael i chi o hyd.

Mae'r camau sylfaenol fel a ganlyn:

  • Rydych yn cwblhau'r cais am drefniadau gweithio hyblyg.
  • Bydd eich Rheolwr Llinell yn ystyried y cais ac yn gwneud penderfyniad cyn pen 3 mis neu gyfnod hwy os bydd y ddau ohonoch yn cytuno ar hyn.
  • Os bydd eich Rheolwr Llinell yn cytuno â'r cais, rhaid iddo newid amodau a thelerau'ch contract.
  • Os bydd eich Rheolwr Llinell yn anghytuno, rhaid iddo ysgrifennu atoch gan nodi'r rhesymau busnes dros wrthod.
  • Mae gennych yr hawl i apelio.

Dylid gwneud gwneud pob cais am drefniadau gweithio hyblyg yn ysgrifenedig trwy lenwi ffurflen gais FW (A).

Rhaid cyflwyno'r cais ffurfiol a gwblhawyd i'ch Rheolwr Llinell.

Rhaid i'r cais gynnwys:

  • dyddiad y cais
  • y newidiadau yr ydych yn eu ceisio i'ch amodau a thelerau
  • y dyddiad yr ydych yn dymuno i'r amodau a thelerau ddod i rym
  • yn eich barn chi, pa effaith y byddai'r newid y gofynnir amdano yn ei gael ar y tîm ac ar gydweithwyr
  • sut y byddai modd delio ag unrhyw newid o'r fath yn eich barn chi
  • a ydych chi wedi gwneud cais blaenorol am drefniadau gweithio hyblyg ac os ydych, pryd y gwnaethoch y cais

Mae angen i chi baratoi achos sy'n bodloni eich anghenion chi ac anghenion y tîm/adran. Gallai'r canllaw canlynol – ‘Sut i helpu ni i ystyried eich Cais’ eich cynorthwyo i lenwi'r rhan hon o'r cais.

Pethau y bydd angen i chi eu hystyried:

  • Fel arfer, bydd trefniant gwaith newydd yn newid parhaol, oni bai y gwneir cais fel arall ac y cytunir fel arall.
  • Os cymeradwyir eich cais, ni fydd modd i chi ddychwelyd i'ch oriau gwaith blaenorol pryd bynnag y byddwch yn dymuno gwneud hynny.
  • Dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith y bydd eich cyflog a'ch gwyliau blynyddol yn cael ei gyfrifo ar sail pro rata os byddwn yn cytuno bod modd i chi weithio llai o oriau.
  • Ystyriwch sut y bydd eich cydweithwyr yn ymdopi os byddwch yn newid eich trefniant gwaith.
  • Meddyliwch yn ofalus am yr effaith y bydd newid eich trefniant gwaith yn ei gael ar eich swydd.
  • Efallai y bydd modd i chi gytuno ar gyfnod prawf cyn cwblhau newid parhaol.

Mae gennym ddyletswydd statudol i ystyried cais am drefniadau gweithio hyblyg yn ofalus, gan archwilio os a sut y byddai modd caniatáu'r patrwm gwaith a ddymunir o fewn swyddogaeth neu faes gwasanaeth penodol.

Dylid cydnabod pob cais. Caiff slip cydnabod ei gynnwys ar waelod Ffurflen FW (A): Cais am Drefniant Gweithio Hyblyg.

Dylech nodi y gall gymryd hyd at 3 mis i gwblhau'r broses, o'r adeg pan gyflwynir y cais i'r adeg pan gaiff ei weithredu'n derfynol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen cytuno i ymestyn y cyfnod hwn.

Bernir bod cais wedi cael ei wneud ar y diwrnod pan fyddwn yn ei gael. Ar gyfer ceisiadau a anfonir mewn neges e-bost neu ffacs, cymerir mai'r diwrnod hwn yw'r diwrnod trosglwyddo. Ar gyfer ceisiadau a anfonir yn y post, hwn yw'r diwrnod pan fydd y cais yn cyrraedd.

Dylai eich Rheolwr Llinell ystyried y cais yn ofalus, gan ystyried manteision y newidiadau i'r amodau gwaith y gofynnwyd amdanynt i chi ac i'r tîm/adran, a chan bwyso'r rhain yn erbyn unrhyw effaith niweidiol ar y tîm/adran o weithredu'r newidiadau.

Mae modd i'ch Rheolwr Llinell gytuno ar gais am drefniant gweithio hyblyg ar sail y cais ei hun yn unig, ac os felly, dylent ysgrifennu atoch cyn pen 28 diwrnod, gan nodi eu bod yn cytuno a chan nodi'r dyddiad cychwyn.

Os na fyddwch yn darparu'r holl wybodaeth ofynnol, dylai eich Rheolwr Llinell roi gwybod i chi yr hyn nad ydych chi wedi'i gynnwys, gan ofyn i chi ailgyflwyno'r cais cyn pen 7 diwrnod calendr. Dylech gael eich hysbysu hefyd nad oes rheidrwydd arnom i ystyried y cais nes y bydd yn gyflawn ac yn cael ei ailgyflwyno.

Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth y bydd angen i'ch Rheolwr Llinell ei chael er mwyn asesu a oes modd cytuno ar y newid, e.e. nid ydych chi wedi disgrifio'r patrwm gwaith dymunol, bydd gennym yr hawl i drin y cais fel cais a dynnwyd yn ôl. Yna, ni fydd modd i chi wneud cais arall dan y Polisi Gweithio Hyblyg am 12 mis pellach. Felly, mae'n bwysig eich bod yn darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani.

Cyn pen 28 diwrnod o gael cais ffurfiol dan y Polisi Gweithio Hyblyg, bydd eich Rheolwr Llinell yn trefnu cael cyfarfod gyda chi.

Diben y cyfarfod yw rhoi'r cyfle i'r ddau barti ystyried y patrwm gwaith a ddymunir yn fanwl, ac i drafod y ffordd orau o ymdopi ag ef. Yn ogystal, bydd yn gyfle i archwilio patrymau gwaith amgen eraill os bydd unrhyw broblemau gyda'r cynnig a wnaethpwyd gennych chi. Bydd modd gohirio'r cyfarfod er mwyn rhoi amser i chi a/neu'ch Rheolwr Llinell i ystyried datrysiadau neu batrymau gwaith amgen a bydd modd dod i gytundeb ar y dyddiad cyfarfod nesaf.

Mae eich Rheolwr Llinell yn gyfrifol am gymryd nodiadau yn ystod yr holl gyfarfodydd a gynhelir gyda chi i drafod y cais am drefniadau gwaith hyblyg, a bydd yn gyfrifol am gadw'r nodiadau hyn.

Yr Hawl i Drefnu bod rhywun Yno gyda chi

Mae gennych yr hawl i drefnu bod cynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr yn mynychu gyda chi. Gall yr unigolyn sy'n mynychu gyda chi ddarparu cyngor ac fe all annerch y cyfarfod/cyfarfod apêl, ond ni chaniateir iddo/iddi ateb cwestiynau ar eich rhan. Os byddwch yn dewis trefnu bod rhywun yn mynychu'r cyfarfod gyda chi ac os na fydd modd i'r unigolyn hwn fynychu, dylid ad-drefnu'r cyfarfod a'i gynnal cyn pen 7 diwrnod calendr o'r dyddiad gwreiddiol a gynigiwyd ar gyfer y cyfarfod.

Pan gaiff cais ei gymeradwyo, dylai eich Rheolwr Llinell:

  • Cyn pen 14 diwrnod calendr o'r cyfarfod, cadarnhau'r ffaith ei bod/fod yn cytuno â'r patrwm gwaith amgen neu arfaethedig yn ysgrifenedig, a chadarnhau dyddiad cychwyn.
  • Bydd eich Rheolwr Llinell yn llenwi Ffurflen FW (B) ac yn anfon copi atoch.
  • Dylid cyflwyno copi i'ch Ymgynghorydd AD hefyd, ynghyd â ffurflen 'Amrywio Contract' (diwygio cyflog).

Bydd amgylchiadau wastad yn codi lle na fydd modd i ni dderbyn cais o ganlyniad i anghenion y gwasanaeth.

  • Cyn pen 14 diwrnod calendr o'r cyfarfod, rhoi'r rheswm dros wrthod y cais yn ysgrifenedig. Yn ogystal â darparu Sail Busnes Cydnabyddedig, rhaid i'ch Rheolwr Llinell gynnwys esboniad ynghylch pam na ellir derbyn y cais a'i resymau pam bod y sail(seiliau) yn berthnasol yn yr amgylchiadau dan sylw.
  • Dylai eich Rheolwr Llinell lenwi Ffurflen FW (C) Gwrthod Cais am Drefniadau Gweithio Hyblyg a dylid anfon copi ohoni atoch chi.

Seiliau busnes cydnabyddedig dros wrthod cais

Mae modd i ni wrthod cais am drefniadau Gweithio Hyblyg ar un neu fwy o'r Seiliau Busnes Cydnabyddedig canlynol:

  • Baich costau ychwanegol
  • Effaith niweidiol ar y gallu i fodloni'r galw gan gwsmeriaid
  • Methiant i ad-drefnu gwaith ymhlith y staff presennol
  • Methiant i recriwtio staff ychwanegol
  • Effaith niweidiol ar ansawdd (y gwasanaeth)
  • Effaith niweidiol ar berfformiad
  • Dim digon o waith yn ystod y cyfnodau pan fo'r cyflogai'n cynnig gweithio
  • Newidiadau strwythurol y bwriedir eu gwneud

Pan wrthodir cais am Drefniadau Gweithio Hyblyg, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig, i'r Cyfarwyddwr priodol neu ei gynrychiolydd enwebedig, gan nodi'r sail dros apelio, cyn pen 14 diwrnod calendr o gael yr hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad.

Dylech lenwi Ffurflen FW (D).

Bydd y Cyfarwyddwr priodol neu gynrychiolydd enwebedig yn gwrando ar yr apêl ac yn cael cyngor gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) neu gynrychiolydd enwebedig.

Y Cyfarfod Apêl

Caiff cyfarfod apêl ei gynnull cyn pen 14 diwrnod calendr o gael y llythyr apêl - Ffurflen FW (D).

Pan gyflwynir gwybodaeth newydd i'r apêl, sy'n cefnogi'r sail(seiliau) dros yr apêl, ystyrir y wybodaeth hon, e.e. pan wrthodwyd y cais gwreiddiol gan nad oedd modd ad-drefnu gwaith ymhlith staff presennol neu gan nad oedd modd recriwtio staff ychwanegol; ac mae cyflogai arall wedi dewis dychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o absenoldeb mamolaeth dan drefniant rhan-amser ac maent yn barod i weithio'r oriau.

Mewn amgylchiadau pan na fyddwch yn mynychu cyfarfod apêl heb roi gwybod ac nid ydych yn rhoi esboniad rhesymol cyn pen 7 diwrnod calendr, dylai'r Cyfarwyddwr neu'r cynrychiolydd enwebedig ysgrifennu atoch yn cadarnhau bod yr apêl yn cael ei drin fel apêl a dynnwyd yn ôl.

Hysbysu'r Cyflogai o'r Canlyniad

Fe'ch hysbysir o benderfyniad y cyfarfod apêl cyn pen 14 diwrnod calendr o'i gynnal. Bydd y Cyfarwyddwr priodol neu eu cynrychiolydd enwebedig yn cyfleu hyn i chi yn ysgrifenedig trwy lenwi Ffurflen FW (E).

Bydd y penderfyniad a wneir am yr apêl yn derfynol ac yn terfynu'r weithdrefn fewnol

Os penderfynir cadarnhau'r apêl, rhaid i'r penderfyniad ysgrifenedig:

  • Gynnwys disgrifiad o'r patrwm gwaith newydd
  • Nodi'r dyddiad pan fydd y patrwm gwaith newydd yn dod i rym; a
  • Nodi'r dyddiad

Os gwrthodir yr apêl, rhaid i'r penderfyniad ysgrifenedig:

  • Nodi'r sail dros y penderfyniad sy'n briodol i sail y cyflogai dros wneud yr apêl
  • Rhoi esboniad ynghylch pam bod y sail dros ei gwrthod yn berthnasol yn yr amgylchiadau; a
  • Nodi'r dyddiad

Bydd achlysuron eithriadol yn codi pan na fydd modd cwblhau rhan benodol o'r weithdrefn o fewn y terfyn amser penodedig. Dim ond os bydd eich Rheolwr Llinell a chithau yn cytuno iddynt y bydd modd ymestyn terfynau amser yn y fath ffordd. Rhaid i'ch Rheolwr Llinell wneud cofnod ysgrifenedig o'r cytundeb hwn ac anfon copi atoch. Dylid llenwi Ffurflen FW (F).

Pan fyddwch chi neu'ch Rheolwr Llinell sy'n gyfrifol am ddelio â'r cais i ffwrdd o'r gwaith ar wyliau neu oherwydd salwch, rhoddir estyniad awtomatig i'r terfyn amser. Bydd y cyfnod a fydd gan eich Rheolwr Llinell i drefnu'r cyfarfod yn cychwyn naill ai ar y diwrnod y byddwch chi neu'ch Rheolwr Llinell yn dychwelyd neu 28 diwrnod ar ôl y gwnaethpwyd y cais. Pan fydd eich Rheolwr Llinell yn dychwelyd i'r gwaith, dylid cydnabod y cais fel eich bod yn ymwybodol o'r ffaith bod yr estyniad wedi digwydd a'r cyfnod pan fydd modd i chi ddisgwyl cael cyfarfod gyda'ch Rheolwr Llinell.

Bydd achlysuron yn codi pan gaiff cais ei drin fel cais a dynnwyd yn ôl. Ym mhob sefyllfa, rhaid gwneud cofnod ysgrifenedig.

Dan y ddeddfwriaeth, os byddwch yn tynnu cais yn ôl ar ôl ei gyflwyno i'ch Rheolwr Llinell, ni fydd modd i chi wneud cais arall am 12 mis o ddyddiad y cais gwreiddiol. Dylech lenwi Ffurflen FW (G) a'i chyflwyno i'ch Rheolwr Llinell.

Ceir tri rheswm pam y gellir trin cais fel cais a dynnwyd yn ôl:

  • Byddwch yn penderfynu tynnu'r cais yn ôl
  • Ni fyddwch yn mynychu dau gyfarfod er mwyn trafod eich cais
  • Byddwch yn gwrthod rhoi'r wybodaeth ofynnol i'ch Rheolwr Llinell mewn ffordd afresymol

Bydd y Rheolwr Llinell priodol, y Pennaeth Gwasanaeth, y Cyfarwyddwr, y Prif Weithredwr neu eu cynrychiolydd enwebedig yn ysgrifennu at y cyflogai i gadarnhau hyn.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol