Gofyn Cwestiynau Anodd

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Os yw rheolwr yn amau bod gweithiwr yn dioddef cam-drin domestig, dylai gael sgwrs â'r gweithiwr i allu trafod hyn a nodi a gweithredu cymorth priodol. Gall osgoi’r pwnc beri ofn stigma a chynyddu teimladau o bryder. Fodd bynnag, os yw'r gweithiwr yn gweithio o bell gartref, byddwch yn ofalus iawn oherwydd gallai'r camdriniwr fod yn monitro'r dioddefwr yn agored neu'n gudd. Os yw’n bosibl ac yn ddiogel gwneud hynny, trefnwch gwrdd â’r gweithiwr yn un o adeiladau’r Cyngor lle nad oes gan y camdriniwr fynediad a gallwch gynnal trafodaeth breifat a chyfrinachol.

Dylai rheolwyr ofyn cwestiynau anuniongyrchol i'r gweithiwr, er mwyn helpu i feithrin perthynas â'r gweithiwr a datblygu empathi. Yn aml ni fydd gweithwyr yn teimlo'n hyderus wrth siarad, felly gall fod yn allweddol i rywun arall gymryd y cam cyntaf i ddechrau sgwrs.

Dyma rai enghreifftiau o gwestiynau y gellid eu defnyddio ond defnyddiwch  synnwyr cyffredin a byddwch yn sensitif i’r amgylchiadau penodol cyn dechrau'r sgwrs –

  • Sut ydych chi ar hyn o bryd?
  • A oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod gyda mi?
  • Rwyf wedi sylwi yn ddiweddar eich bod yn ymddwyn yn wahanol. A oes rhywbeth o'i le?
  • A oes unrhyw broblemau neu resymau a all fod yn cyfrannu at eich absenoldeb salwch/tanberfformiad aml yn y gwaith?
  • A yw pob dim yn iawn gartref?
  • Pa gymorth ydych chi'n credu allai helpu? Beth hoffech chi ei weld yn digwydd? Sut?

Dylech osgoi beio'r dioddefwr. Mae'n bwysig bod rheolwyr yn gallu cynnal amgylchedd anfeirniadol a chefnogol.

Mae parchu ffiniau a phreifatrwydd y gweithiwr yn hanfodol.

Dylech barchu penderfyniadau gweithiwr am eu perthynas a deall y gall dioddefwr cam-drin domestig wneud nifer o ymdrechion i adael eu partner cyn y gall wneud hynny o’r diwedd. Mae’n bwysig bod rheolwyr yn ymwybodol o effeithiau rheolaeth drwy orfodaeth.

Nid delio â’r gamdriniaeth ei hun yw eich rôl fel rheolwr ond mynd i’r afael ag effeithiau cam-drin domestig yn y gweithle drwy sicrhau gweithwyr y cânt eu cefnogi, cyflwyno polisi’r gweithle iddynt, amlinellu pa gymorth sydd ar gael, a'u cyfeirio at ffynonellau cymorth proffesiynol.

Pan fo gweithiwr yn dangos arwyddion o ymosodiad corfforol neu anaf, dylai’r rheolwr ofyn cwestiynau uniongyrchol i annog y gweithiwr i drafod unrhyw brofiadau posibl o gam-drin domestig.

Rhaid gofyn y cwestiwn canlynol gyda sensitifrwydd a gofal mawr -

  • “Mae’n ddrwg gen i ofyn hyn i chi a dydw i ddim am achosi unrhyw dramgwydd i chi, ond rwy’n sylwi bod gennych chi nifer o gleisiau/briwiau/llosgiadau ac ati. Ydych chi’n gallu dweud wrthyf sut y cawsoch yr anafiadau?”

Ar ôl cadarnhau bod problem neu y gallai fod problem yn ymwneud â cham-drin domestig, efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn y cwestiynau uniongyrchol canlynol i’r gweithiwr –

  • A yw eich partner erioed wedi eich taro/cicio/dyrnu ac ati?
  • A yw eich partner neu rywun arall gartref yn gwneud i chi deimlo'n ofnus?
  • A ydych chi mewn perthynas ar hyn o bryd lle rydych chi'n cael eich cam-drin?
  • A yw eich partner yn colli eu tymer gyda chi? Os felly, beth yw'r canlyniadau?
  • A yw eich partner wedi bygwth eich brifo chi neu'ch plant?
  • A yw eich partner yn teimlo'n genfigennus pan fyddwch yn gweld ffrindiau, yn siarad â phobl eraill neu'n mynd allan? Os felly, beth sy'n digwydd?
  • A yw eich partner yn rhoi'r bai ar alcohol neu gyffuriau am yr ymddygiad tuag atoch chi?

 

P’un a ydych yn rheolwr neu’n gydweithiwr, gallwch gynnig cymorth pan wneir datgeliad -

Gwrando – ceisiwch ddeall a byddwch yn ofalus i beidio â rhoi bai.

Dweud – dywedwch wrthynt nad ydynt ar eu pen eu hunain a gallwch chi helpu.

Cydnabod – mae’n rhaid bod yn gryf i ymddiried yn rhywun digon i siarad â nhw am ddioddef cam-drin. Mae’n sefyllfa frawychus ac yn un anodd iawn.

Amser – caniatewch amser i’r dioddefwr siarad, ond peidiwch â phwyso arnynt i roi gormod o fanylion.

Rhoi sicrwydd – dylech roi sicrwydd nad oes neb yn haeddu cael eu bygwth na’i guro, er gwaethaf yr hyn y mae’r camdriniwr wedi’i ddweud wrtho. Ni all unrhyw beth y gallant ei wneud na’i ddweud gyfiawnhau ymddygiad y camdriniwr.

 

Adnoddau Dynol