Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026

1. Cyflwyniad

Mae'r canllaw hwn wedi'i lunio yn unol â gofynion deddfwriaethol ac mae felly'n berthnasol i bawb sy'n cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin a gweithwyr ysgol.

Mae'r Awdurdod yn dathlu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ei gymuned. Fel rhan o'i ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu gweithlu goddefgar a chynhwysol, mae'r Awdurdod yn cydnabod ei bod yn bwysig bod pawb yn cael eu trin â’r un urddas a pharch, gan gynnwys parch at eu credoau crefyddol neu gredoau eraill.

Nod y canllaw hwn yw helpu Rheolwyr i ddeall sut i gydymffurfio â deddfwriaeth wrth gydnabod a rheoli mynegiant crefydd neu gred yn y gweithle.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd:

  • Gwahaniaethu uniongyrchol - trin pobl yn llai ffafriol nag eraill ar sail crefydd neu gred.

  • Gwahaniaethu anuniongyrchol - cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer sy'n rhoi pobl o grefydd neu gred benodol dan anfantais ac nad oes modd cyfiawnhau hynny fel ‘ffordd gymesur o gyflawni nod dilys’.

  • Aflonyddu - ymddygiad nas dymunir sy'n tarfu ar urddas pobl neu'n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, gwaradwyddus neu sarhaus.

  • Erledigaeth - trin pobl yn llai ffafriol oherwydd gweithred warchodedig e.e., cwyn ffurfiol am wahaniaethu neu dystiolaeth benodol mewn achos tribiwnlys.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn cyflwyno darpariaethau gwahaniaethu trwy ganfyddiad a gwahaniaethu trwy gysylltiad. Mewn geiriau eraill, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eich bod yn ystyried bod ganddo/ganddi grefydd neu gred benodol, ni waeth a yw’n arddel y gred honno ai peidio e.e. yn credu bod rhywun ag enw Asiaidd yn Fwslim ac yn ei drin yn llai ffafriol o achos hynny. Yn yr un modd, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhywun sy'n arddel crefydd neu gred benodol e.e., pe bai rhywun yn briod â Christion ac yn cael ei drin yn llai ffafriol o achos hynny.

Gellir diffinio crefydd neu gred fel a ganlyn:

Unrhyw gred grefyddol os oes gan y grefydd strwythur neu system glir. Gellir ystyried enwadau neu sectau oddi mewn i grefydd yn gred neu'n grefydd warchodedig.

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn person am beidio ag arddel rhyw gred grefyddol neu athronyddol arbennig (neu am beidio ag arddel un o gwbl), yn yr un modd ag y mae gwahaniaethu yn erbyn rhywun am arddel cred grefyddol neu athronyddol.

Gall camwahaniaethu ddigwydd er bod yr un sy'n gwahaniaethu a'r un sy'n cael ei wahaniaethu yn arddel yr un gred grefyddol neu athronyddol.

Bydd ymddygiad sy'n digio, yn dychryn, yn elyniaethus, yn ddiraddiol neu'n bychanu person arall ar sail ei ffydd neu sut mae’n ymarfer ei ffydd, neu dybiaethau am yr un peth, yn gyfystyr ag aflonyddu a gall arwain at gamau disgyblu.

I gael eich amddiffyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid cydnabod bod crefydd neu gred yn rymus, yn ddifrifol, yn gydlynol ac yn gydnaws ag urddas dynol. Mae credoau gwleidyddol wedi'u heithrio'n benodol. Mae'r Ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl heb grefydd na chred. Isod mae rhai o'r crefyddau a chredoau sy’n cael eu harfer fwyaf ym Mhrydain. Serch hynny, ceir llawer mwy felly ni ddylid ystyried bod y rhestr hon yn cynnwys popeth.

  • Anffyddiaet

  • Baha'i

  • Bwdhaeth

  • Cristnogaeth

  • Hindŵaeth

  • Dyneiddiaeth

  • Islam (Mwslimiaid)

  • Janiniaeth

  • Iddewiaeth

  • Rastaffariaeth

  • Sikhiaeth

  • Zoroastriaeth (Parsi)