Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026

7. Gweithwyr yn Dewis Peidio ag Ymgymryd â Rhai Dyletswyddau Gwaith Penodol

Efallai y bydd rhai gweithwyr yn awyddus i beidio ag ymgymryd â rhai o'u dyletswyddau ar sail eu crefydd neu eu cred. Gwrthwynebydd cydwybodol yw'r term a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio rhywun sy'n arddel seiliau tebyg. Caniateir hyn yn benodol yn ôl y gyfraith mewn rhai sefyllfaoedd penodol, er enghraifft gall staff meddygol ddewis peidio â chynnal erthyliadau, neu gynnal ymchwiliad o embryo neu driniaeth ffrwythlondeb.

Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn glir, pan fydd rhywun yn darparu gwasanaeth cyhoeddus, na allant, oherwydd eu crefydd neu gred, wahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn cwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth.

Dylai rheolwyr ystyried amgylchiadau pob cais gan weithiwr sy'n dewis peidio â chyflawni rhai o'i ddyletswyddau yn ofalus, ac ni ddylent dderbyn na gwrthod cais o'r fath yn syth bin. Mae rhai cyflogwyr yn caniatáu i weithwyr ddewis peidio â chyflawni rhai o'u dyletswyddau ar sail gwrthwynebiadau crefydd neu gred mewn rhai amgylchiadau megis pryd y gall gweithwyr eraill gyflenwi ar ran y gweithiwr sy'n gwneud y cais lle nad yw'n effeithio ar effeithiolrwydd y sefydliad na'r gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd.