Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
8. Enghreifftiau o Geisiadau
Fe luniwyd yr enghreifftiau canlynol gan y comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gyfleu arferion da a fydd yn cynorthwyo cyflogwyr i gydymffurfio â'r gyfraith. Efallai y bydd yr enghreifftiau hyn yn helpu rheolwyr i benderfynu sut i ddelio â sefyllfa benodol, ond nid ydynt yn cynrychioli cyngor cyfreithiol ar sut y bydd llysoedd neu dribiwnlysoedd yn pennu'r materion hyn neu faterion tebyg. Dylid gofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol mewn perthynas ag achosion penodol.
Mae newidiadau i ddyletswyddau gwaith, gan gynnwys gofyniad i weithwyr lanhau'r gegin waith, yn arwain at weithiwr llysieuol sy'n gweithio mewn swyddfa yn dweud wrth ei gyflogwr nad yw'n dymuno trin cig yn y gwaith yn unol â'i grefydd neu gred. Mae'r cyflogwr yn cydnabod nad oes gan bob llysieuwr yr un gwrthwynebiad ond mae'n derbyn yn yr achos hwn bod y cais wedi'i ysgogi'n wirioneddol gan gred y gweithiwr a'i fod yn ddiffuant. Ar ôl siarad â gweithwyr eraill, mae'r cyflogwr yn penderfynu y gellir rheoli'r effaith ar weithwyr eraill yn hawdd ac mae'n penderfynu eithrio’r gweithiwr llysieuol rhag ymgymryd â dyletswyddau glanhau oergell lle mae cig yn cael ei storio.
Mae gweithredwr desg dalu, sy'n Iddew, mewn archfarchnad fach wedi cael caniatâd i orffen ei waith yn gynnar bob prynhawn dydd Gwener i baratoi ar gyfer y Saboth. Mae rheolwr newydd, nad yw wedi cael gwybod am y sefyllfa gan reolwr y gangen, yn llunio rota waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gweithiwr Iddewig (a gweithwyr eraill) weithio'n hwyr ar ddydd Gwener. Ar ôl cael gwybod am hyn, mae'r gweithiwr Iddewig yn gofyn i'r rheolwr newydd newid y rota i ddiwallu ei anghenion crefyddol. Wrth ystyried ei gais, mae'r rheolwr newydd yn edrych ar y rotas i weld a oes staff eraill a allai weithio yn ei le bob dydd Gwener. Wedyn mae'n trafod y canlyniadau ymarferol gyda'r gweithiwr Iddewig a chydag aelodau eraill y tîm i weld a fydd y newid yn arwain at ganlyniadau anffafriol iddynt. Mae'n dod i'r amlwg na fydd aelodau eraill y tîm yn cael eu heffeithio'n anffafriol ac felly'n cytuno i'r cais.
Mae merch Fwslimaidd sy'n ymgeisio am swydd wedi cael cynnig swydd mewn cartref gofal ac mae'n cael gwybod bod yn rhaid iddi fod ar gael i weithio ar ddydd Gwener, ac yn ystod amseroedd gweddi hefyd. Mae hi'n gofyn i'r cyflogwr a oes modd iddi gael amser i ffwrdd o'r gwaith yn rheolaidd ar ddydd Gwener i fynd i addoli mewn mosg lleol. Mae ei chyflogwr, sy'n darparu gofal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn rhoi sylw i'r cais ond yn cael anhawster sylweddol newid rotas gwaith gweithwyr eraill i ddiwallu ei hanghenion crefyddol. Nid oes digon o ddarpariaeth cyflenwi ar gael o blith y nifer fach o weithwyr eraill i alluogi darparu'r gwasanaeth a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyfnod teg o amser i ffwrdd o'r gwaith. Mae'r cyflogwr yn cynnig amser i ffwrdd o'r gwaith yn achlysurol ar ddydd Gwener heb gyfaddawdu ar ddarparu gwasanaeth ac anghenion gweithwyr eraill, ond mae'r person Mwslimaidd sy'n ymgeisio am swydd yn penderfynu peidio â derbyn y cynnig hwn o gyflogaeth, gan od yn well ganddi chwilio am waith arall a fydd yn cwrdd â'i gofynion crefyddol yn llawn.
Yn y gwaith, mae dau weithiwr yn dechrau siarad am faterion amgylcheddol. Yn ystod y sgwrs, dywed un gweithiwr, yn seiliedig ar ei chredoau ecolegol dwfn, ei bod yn credu ei bod yn hollol anghywir i unrhyw un yrru i'r gwaith a bod unrhyw un sy'n gwneud hyn yn anghyfrifol. Mae ei chydweithiwr, sy'n gyrru i'r gwaith yn rheolaidd, yn cael ei chythruddo gan y sylw hwn ac yn cwyno i'w chyflogwr am aflonyddu yn y gwaith. Mae'r cyflogwr yn gwrthod y gŵyn, gan ddweud bod y drafodaeth yn fynegiant rhesymol o gred athronyddol yn y gweithle.
Mae cyflogwr yn arddel polisi sy'n gwahardd pobl rhag gwisgo'r holl emwaith. Pwrpas y polisi hwn yw sicrhau bod gweithwyr yn cyflwyno delwedd gorfforaethol i'r cyhoedd. Mae gweithiwr Cristnogol, sydd fel arfer yn gwisgo croes fach ar gadwyn o amgylch ei wddf, yn gofyn i'w gyflogwr newid y polisi hwn, fel y gall barhau i wisgo ei groes. Mae'r cyflogwr yn ailedrych ar y rhesymau dros y polisi ac yn penderfynu darparu eithriad ar gyfer mathau o emwaith sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr a wisgir gan weithwyr am resymau crefyddol. Mae'r cyflogwr yn penderfynu bod yr eithriad hwn yn dal i olygu y gall gyflwyno delwedd gorfforaethol. Nid oes unrhyw effaith andwyol ar eraill wrth wneud y newid hwn i'r polisi.
Mae meddyg Sikhaidd yn gofyn i'r ysbyty y mae'n gweithio ynddo ganiatáu iddo wisgo twrban gan ei fod bellach yn teimlo y dylai ei wisgo i gydymffurfio â'i rwymedigaethau crefyddol. Nid yw gofynion cod gwisg yr ysbyty yn nodi dim byd ynglŷn â gwisgo twrban (neu orchuddion pen eraill) yn y gwaith. Mae ei gyflogwr yn cydnabod nad yw pob Sikh yn rhannu'r un credoau nac arferion. Mae'n ystyried y cais o ddifri ac yn dod i'r casgliad y dylid caniatáu gwisgo twrban yn lliwiau'r ysbyty o dan ei god gwisg er mwyn i bobl wybod mai meddyg ydyw a gan nad yw'n peri risg i iechyd a diogelwch. Mae'r meddyg Sikhaidd yn cytuno i wisgo twrban yn y gwaith sy'n bodloni'r gofynion hyn.
Mae gan ynad sydd newydd ei benodi gred athronyddol bod amddiffyn llesiant plant yn golygu na ddylent gael eu magu gan rieni sy'n gyplau o’r un rhyw. Mae hi'n gofyn i'w chyflogwr ei heithrio rhag delio â gwaith cyfraith teulu sy'n cynnwys cyplau o'r un rhyw. Mae'r cyflogwr yn ystyried y cais hwn ond yn penderfynu ei wrthod ac yn ei gwneud yn ofynnol iddi gyflawni ei dyletswyddau gwaith ar y sail bod y gred yn anghydnaws â chynnal urddas a hawliau sylfaenol cyplau o'r un rhyw o dan ei bolisi cyfle cyfartal.
Yn ystod ymweliad cartref, mae gweithiwr cymdeithasol Hindŵaidd yn cynniggweddïo dros ddefnyddiwr gwasanaeth mewn ymgais i helpu'r unigolyn hwnnw i oresgyn rhai materion iechyd. Mae'r defnyddiwr gwasanaeth, nad yw'n rhannu'r credoau hynny, yn teimlo'n anghyfforddus ynglŷn â hyn yn digwydd yn ei chartref ond mae'n ofni beth fydd yn digwydd pe bai hi'n gwrthod. Mae hi'n derbyn y cynnig er nad yw hi’n hollol fodlon, ond ar ôl hynny mae'n cwyno i'r cyflogwr, sy'n disgyblu'r gweithiwr cymdeithasolam ymddygiad amhroffesiynol amhriodol sy'n gyfystyr â chamddefnyddio pŵer dros ddefnyddiwr gwasanaeth bregus. Rhybuddir y gweithiwr cymdeithasol i beidio ag ymddwyn fel hyn yn y gwaith heb ganiatâd y cyflogwr a defnyddiwr y gwasanaeth.
Mae nyrs ysbyty, sy'n Gristion, yn cynnig gweddïo dros glaf, gan ddweud yn glir nad oes pwysau na rhwymedigaeth ar y claf i gytuno ac na fydd yn gweld o chwith os bydd y claf yn gwrthod. Mae'r claf yn penderfynu yr hoffai i'r nyrs weddïo gan y bydd yn cael rhywfaint o gysur o hynny. Mae cydweithwyr y nyrs, sy'n dyst i'r gweddïau, yn codi pryderon gyda'u rheolwr sydd, ar ôl ymchwilio, yn penderfynu na ddigwyddodd unrhyw beth amhriodol o dan yr amgylchiadau hyn. Roedd hyn oherwydd bod y nyrs wedi trafod a chytuno ymlaen llaw gyda'i gyflogwr y gallaweddïo, pan nad oedd caplan yr ysbyty ar gael, i gleifion a oedd wedi nodi anghenion ysbrydol ac a dderbyniodd y cynnig heb unrhyw bwysau na chamddefnyddio pŵer.
