Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Dull y Cyngor
- 3. Sicrhau Bod y Grefydd neu'r Gred yn Ddilys
- 4. Camau y Dylai Rheolwyr eu Cymryd i Ddelio â Chais
- 5. Cwestiynau i'w Gofyn i Sicrhau bod Ymagwedd Gweithwyr at Gais Crefydd neu Gred Wedi’i Chyfiawnhau
- 6. Hyrwyddo Crefydd neu Gred Benodol yn y Gwaith?
5. Cwestiynau i'w Gofyn i Sicrhau bod Ymagwedd Gweithwyr at Gais Crefydd neu Gred Wedi’i Chyfiawnhau
Dylai rheolwyr geisio cydbwyso anghenion crefydd neu gred gweithiwr gydag anghenion dilys y busnes a buddiannau eraill. Yn gyffredinol, oes nad yw rhywun arall o bosib yn rhannu crefydd neu gred neu'n ei wrthwynebu, nid yw hyn yn golygu y dylai'r gweithiwr gael ei wahardd yn awtomatig rhag cael ei gais wedi'i ganiatáu.
Er mwyn dod i gasgliad ystyriol, cytbwys a rhesymol, dylai Rheolwr ystyried, ymhlith ffactorau eraill:
Y gost, y tarfu a'r effaith ehangach ar ddarparu gwasanaeth neu waith os derbynnir y cais.
A oes goblygiadau iechyd a diogelwch ynghlwm wrth y newid arfaethedig.
Yr anfantais i'r gweithiwr yr effeithir arno os gwrthodir y cais effaith y byddai unrhyw newid yn ei chael ar weithwyr eraill, gan gynnwys ar y rhai sydd â chrefydd neu gred wahanol, neu ddim crefydd na chred e.e., efallai y bydd caniatáu i rai staff adael yn gynnar ar ddydd Gwener am resymau crefyddol yn cael effaith andwyol ar staff eraill sydd â chyfrifoldebau gofalu, ac efallai y bydd ceisiadau i beidio â gweithio rota ar ddydd Sul yn golygu bod yn rhaid i staff eraill weithio yn aml iawn ar ddydd Sul. Mae’n bwysig na ddylid rhoi amser i ffwrdd neu wyliau ychwanegol i bobl oherwydd eu ‘crefydd neu gred’ gan y byddai hyn yn gwahaniaethu yn erbyn staff sy’n arddel ‘crefydd neu gred’ wahanol neu sydd â chredoau anghrefyddol.
Effaith unrhyw newid ar gwsmeriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth, a
A oes modd cyfiawnhau polisïau ac arferion gwaith i sicrhau unffurfiaeth a chysondeb.
Mewn llawer o achosion, efallai y bydd Rheolwyr a gweithwyr yn gallu cael hyd i atebion i reoli materion crefyddol yn y gweithle. Yn gyffredinol, mae'n well ceisio datrys y mater na mynd ar drywydd cyfreitha. Bydd angen i reolwyr ofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol cyn gwrthod cais.
