Canllawiau i Reolwyr Ynghylch Crefydd neu Gred - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
2. Dull y Cyngor
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwneud pob ymdrech i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae ganddo rwymedigaeth o dan y rheoliadau i sicrhau nad yw gwahaniaethu yn digwydd yn y gweithle o ran hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil. Gweler ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr, ni waeth beth yw ei gred grefyddol neu ddiffyg cred, weithio yn unol â'i gontract cyflogaeth. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith. Dylai rheolwyr llinell ystyried anghenion y rhai y mae gofyn iddynt weddïo ar adegau penodol o'r dydd ar sail eu crefydd. Yn ogystal, dylid darparu ar gyfer staff sydd angen, er enghraifft, awr ychwanegol ganol dydd ddydd Gwener, neu beidio â gweithio ar ôl machlud haul nos Wener neu beidio â gweithio ddydd Sadwrn, neu ddydd Sul, os yw'n ymarferol. Er nad yw'r rheoliadau yn rhoi unrhyw hawl gyfreithiol i gael amser o'r gwaith, gyda thâl neu heb dâl, ar gyfer rhesymau crefyddol, gellir ystyried defnyddio gwyliau blynyddol, oriau gweithio hyblyg neu absenoldeb heb dâl, yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac os yw’r holl wyliau blynyddol wedi cael eu defnyddio. Gweler ein polisïau amser i ffwrdd o'r gwaith a gweithio hyblyg.
Wrth ystyried cais ynghylch crefydd neu gred gan weithiwr, dylai cyflogwr asesu a yw'r grefydd neu'r gred yn ddilys a hefyd a yw'n gyfreithlon i dderbyn neu wrthod y cais o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol.
