Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Rydym yn falch iawn o gynnig cymorth yn y gweithle i rieni sydd â babanod cynamserol a babanod sâl. Pan fydd baban yn cael ei eni'n gynnar, neu'n cael ei dderbyn i'r ysbyty yn syth ar ôl cael ei eni, gall fod yn adeg anodd i rieni. Er mwyn eich cefnogi, mae'n bosibl y gallwn gynnig absenoldeb ychwanegol â thâl ar ôl genedigaeth plentyn y mae angen iddo aros am gyfnod estynedig yn yr ysbyty. 

Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i'n holl weithwyr ac eithrio staff ysgolion a reolir yn lleol, y bydd y polisi a fabwysiadwyd gan eu hysgolion priodol yn berthnasol iddynt.

Nid oes angen isafswm o wasanaeth i fod yn gymwys.

Er mwyn gwneud cais am Absenoldeb Babanod Cynamserol a Babanod sydd yn yr Ysbyty â Thâl, rhaid bod y gweithiwr yn gyfrifol am blentyn h.y. bod yn un o'r canlynol:

  • Rhiant biolegol sy'n disgwyl y plentyn
  • Rhiant mabwysiadol neu riant benthyg y plentyn
  • Partner sifil y gweithiwr sy'n disgwyl y plentyn
  • Gofalwr enwebedig y plentyn (gweithwyr sydd wedi'i ddewis gan y rhiant sy'n disgwyl/prif fabwysiadwr fel y gofalwr enwebedig)

Hefyd, gofynnir am y ddogfennaeth ganlynol i gefnogi cais:

  • Ffurflen Gais (gellir ei llenwi a'i chyflwyno drwy e-bost)
  • Tystysgrif MAT B1
  • Copi o dystysgrif geni

Gall gweithwyr â babanod sy'n cael eu geni cyn 37 wythnos wneud cais am Wythnos o Absenoldeb Babanod cynamserol â thâl ar gyfer pob wythnos y mae'r baban cynamserol yn yr ysbyty cyn y dyddiad geni disgwyliedig.

Absenoldeb Baban Cynamserol - Bydd y cyfnod hwn yn dechrau ar ddiwedd hawl y gweithiwr i absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth.

Tâl Baban Cynamserol - Gallwch ddewis derbyn tâl baban cynamserol fel a ganlyn:

  • Yn ystod y cyfnod Absenoldeb Baban Cynamserol; neu
  • Fel cyfandaliad ar ddechrau'r absenoldeb drwy'r gyflogres nesaf sydd ar gael (ar ôl rhoi gwybod i'r Tîm Presenoldeb) yn ychwanegol at eich absenoldeb a'ch tâl mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth a thadolaeth. Bydd hawl arferol y gweithiwr i dâl absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth a thadolaeth yn parhau ac ni effeithir arni gan y cynllun hwn (yn amodol ar dreth incwm, yswiriant gwladol a didyniadau pensiwn, yn unol ag enillion y gweithiwr). (Noder, lle mae gweithiwr wedi dewis cael cyfandaliad ar gyfer tâl babanod cynamserol, bydd y cyfnod ychwanegol hwn o absenoldeb babanod cynamserol heb dâl).

Bydd y Tâl Babanod Cynamserol yn cael ei dalu yn ystod y cyfnod o Absenoldeb Babanod Cynamserol ar ôl i gyfnod absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth y gweithiwr ddod i ben oni bai bod y gweithiwr wedi dewis cael cyfandaliad.

Os yw gweithiwr yn dewis cael cyfandaliad ar gyfer cyfnod o absenoldeb babanod cynamserol ac yn dewis dychwelyd i'r gwaith cyn diwedd y cyfnod absenoldeb, bydd angen ad-dalu unrhyw wythnosau sy'n weddill. Bydd cyflog arferol yn ailddechrau o'r dyddiad dychwelyd i'r gwaith.

 

 

Bydd rhieni â babanod sy'n gorfod aros yn yr ysbyty yn union ar ôl genedigaeth tymor llawn (ar ôl 37 wythnos) oherwydd salwch yn gallu gwneud cais am Absenoldeb Baban Tymor Llawn yn yr Ysbyty â thâl am gyfnod o hyd at bedair wythnos. Bydd y cyfnod hwn o absenoldeb baban yn yr ysbyty yn dechrau ar ddiwedd hawl y gweithiwr i gyfnod o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth.

Absenoldeb Baban yn yr Ysbyty - Bydd y cyfnod hwn yn dechrau ar ddiwedd hawl y gweithiwr i gyfnod o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth, neu dadolaeth.

Tâl Baban yn yr Ysbyty - Gallwch ddewis derbyn tâl baban yn yr ysbyty fel a ganlyn:

  • Yn ystod y cyfnod Absenoldeb Baban Cynamserol yn yr Ysbyty; neu
  • Fel cyfandaliad ar ddechrau eich absenoldeb drwy'r gyflogres nesaf sydd ar gael ar ôl rhoi gwybod i'r Tîm Presenoldeb yn ychwanegol at eich absenoldeb a'ch tâl mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth a thadolaeth. Bydd hawl arferol y gweithiwr i dâl absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth a thadolaeth yn parhau ac ni fydd yn cael ei effeithio gan y cynllun hwn (yn amodol ar dreth incwm, yswiriant gwladol a didyniadau pensiwn, yn unol ag enillion y gweithiwr). (Noder, lle mae rhiant wedi dewis cael cyfandaliad bydd y cyfnod ychwanegol hwn o absenoldeb heb dâl).

Os yw gweithiwr yn dewis cael cyfandaliad ar gyfer y cyfnod o absenoldeb baban yn yr ysbyty ac yn dewis dychwelyd i'r gwaith cyn diwedd yr absenoldeb, bydd angen ad-dalu unrhyw wythnosau sy'n weddill. Bydd cyflog arferol yn ailddechrau o'r dyddiad dychwelyd i'r gwaith.

 

Defnyddiwch y ddolen gyswllt a atodir i weld y ffurflen gais

Gofynnir am y ddogfennaeth ganlynol i gefnogi cais:

  • Ffurflen gais wedi'i hanfon at y Tîm Absenoldeb
  • Copi o dystysgrif MATB1
  • Copi o dystysgrif geni

Dylid anfon ffurflenni cais e-bost ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth ategol angenrheidiol at y tîm absenoldeb.


E-bost: TimAbsenoldebAdnoddauDynol@sirgar.gov.uk

Bydd eich cais yn cael ei brosesu gan y Tîm Absenoldeb ac anfonir neges e-bost i gadarnhau dyddiadau eich cais am dâl ac absenoldeb.

Gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl o ran dyddiadau rhyddhau neu unrhyw newidiadau a allai effeithio ar yr absenoldeb a'r tâl a dderbynnir.

 

 

Adnoddau Dynol