Amharu ar drefniadau gwaith

Diweddarwyd y dudalen: 09/01/2024

Derbynnir na allwn gynllunio ar gyfer popeth a all ddigwydd, ac o bryd i'w gilydd gall amgylchiadau godi a fydd yn amharu ar gyfran sylweddol o'r gweithlu. Gallai'r rheswm dros yr amharu fod yn un mewnol megis lefelau staffio, colli safleoedd, methiant TG / colli data, methiant cyfleustod neu ddylanwad allanol fel tywydd eithafol, llifogydd, tân neu ffrwydriad, pandemig ffliw neu ddamwain drafnidiaeth, ac nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol.

Mewn achos o amharu ar y gweithlu, bwriedir i'r polisi Amharu ar drefniadau gwaith gael blaenoriaeth ar y polisïau a'r arferion cyflogaeth sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn berthnasol i'r holl weithwyr, heb gynnwys staff a gyflogir gan ysgolion a reolir yn lleol, lle bydd y corff llywodraethu’n pennu’r polisi.

Mewn achosion o amharu, ein nod yw ceisio sicrhau bod cysondeb o ran y ffordd y rheolir hyn, gan sicrhau ar yr un pryd bod adnoddau digonol gan y meysydd gwasanaeth sy'n cael blaenoriaeth. Mae'r Polisi yn ceisio helpu rheolwyr llinell i gael cydbwysedd rhwng yr angen am gynnal gwasanaethau hanfodol a rheoli'r materion pobl sy'n deillio o'r amharu. Mae'r Polisi yn darparu opsiynau i'w hystyried o ran cefnogi'r egwyddor hon a sicrhau tegwch a chysondeb wrth ei chymhwyso.

Bydd rheolwyr llinell yn:

  • Sicrhau bod cysondeb o ran gweithredu'r Polisi hwn
  • Cyfathrebu'r Polisi a'r Weithdrefn hyn i'r gweithwyr presennol a gweithwyr newydd
  • Dilyn unrhyw ganllawiau cenedlaethol a roddir adeg yr amharu
  • Sicrhau eu bod yn gwybod am y wybodaeth a roddir gan y Cyngor am reoli'r amharu
  • Sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw o absenoldeb gweithwyr o'r gwaith o achos yr amharu

Bydd gweithwyr yn:   

  • Hyblyg o ran helpu i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor
  • Dilyn unrhyw ganllawiau cenedlaethol a roddir adeg yr amharu
  • Sicrhau bod eu rheolwr llinell yn gwybod am unrhyw absenoldeb newydd neu barhaus a'r rheswm drosto, ac yn cadw unrhyw gyfnod absenoldeb cyn fyrred ag sy'n ddiogel er mwyn helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau
  • Sicrhau eu bod yn gwybod am y wybodaeth a roddir gan y Cyngor am reoli'r amharu
  • Sicrhau bod gan y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf o ran manylion cyswllt a manylion perthynas agosaf
  • Darparu manylion i'w rheolwr llinell am unrhyw drefniadau teithio a/neu gyfrifoldebau gofalu a allai effeithio ar eu gallu i weithio yn ôl yr arfer yn ystod achos o amharu. 

Bydd y timau yn:

  • Cynnal y Polisi hwn
  • Datblygu unrhyw ddogfennau cyfarwyddyd cysylltiedig
  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd i Reolwyr Llinell a Gweithwyr

Dyma’r polisïau a’r gweithdrefnau allweddol o ran Adnoddau Dynol y bydd angen ichi gyfeirio atynt oherwydd yr amharu.

Mewn achos o amharu, bydd egwyddorion y Polisi Rheoli Absenoldeb Salwch yn dal i fod yn berthnasol. 

Mae'n ofynnol ichi roi gwybod i'r adran yn ddiymdroi am unrhyw absenoldeb salwch newydd neu barhaus a'r rheswm drosto, yn unol â'r Polisi Rheoli Absenoldeb Salwch a chadw unrhyw gyfnod absenoldeb cyn fyrred ag sy'n ddiogel er mwyn ei gwneud yn haws cynnal gwasanaethau.

Mae'r gofynion o ran ardystio salwch yn aros fel a ganlyn ar hyn o bryd:

  • Hunan-ardystiad ar gyfer absenoldeb salwch hyd at 7 diwrnod calendr.
  • Ardystiad meddygol drwy'r Meddyg Teulu ar gyfer absenoldeb salwch hwy na 7 diwrnod calendr.

Mewn achos o amharu sy'n gysylltiedig ag iechyd, bydd unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan yr Adran Iechyd yn cael eu hadolygu a bydd y cyngor diweddaraf yn cael ei gyhoeddi'n unol â hynny.

 

Adleoli gwasanaethau rheng flaen hanfodol

O ran gwirfoddolwyr nad yw eu rôl/dyletswyddau contractiol yn cwmpasu'r gwaith dan sylw fel arfer, gellir gofyn iddynt ymgymryd â rolau eraill, ond dylai'r rhai sy'n gwirfoddoli dderbyn gwybodaeth a hyfforddiant sylfaenol digonol i'w galluogi i ymgymryd â'r dasg yn ddiogel ac yn effeithiol. Os bydd gweithwyr o rannau eraill o'r awdurdod yn gwirfoddoli i gyflenwi mewn meysydd gwasanaeth hanfodol eraill, bydd yn rhaid iddynt fodloni gofynion sylfaenol y rôl o hyd, ac os na ellir bodloni'r rhain bydd yn rhaid i'r sefyllfa fod yn destun asesiad risg perthnasol y cytunir arno gan Bennaeth Gwasanaeth.

Bydd yn rhaid i reolwyr llinell glustnodi unrhyw feysydd hanfodol lle mae'n debygol y bydd prinder gweithwyr wrth i'r amharu ddatblygu, yn unol â'r Cynllun Dilyniant Busnes.

Disgwylir ichi fod yn hyblyg er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn cael eu cynnal. Mae'n ofynnol inni wneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael er mwyn cefnogi ein cymunedau ac felly bydd y flaenoriaeth o ran ein hadnoddau staffio yn cael ei rhoi i gynnal gwasanaethau hanfodol. Lle bo'r angen, gellir gofyn i weithwyr sydd â'r hyfforddiant a'r sgiliau addas ymgymryd â thasgau dros dro er mwyn cyflenwi os na fydd digon o'r gweithwyr sy'n darparu'r gwasanaeth fel arfer ar gael i weithio. Gallai hyn fod yn berthnasol ar draws adeiniau/adrannau hefyd, yn enwedig i'r gweithwyr nad oes modd iddynt weithio yn eu maes eu hunain gan fod y gwasanaeth wedi'i atal dros dro. Yn yr amgylchiadau eithriadol sydd ynghlwm wrth amharu, yr egwyddor waelodol yw ei bod yn rhesymol disgwyl i rywun gyflawni tasg sylfaenol os yw'n meddu ar y sgiliau a'r gwybodaeth i wneud hynny neu os yw wedi cael hyfforddiant o lefel dderbyniol.

Wedi dweud hynny ni ddylid, mewn unrhyw achos, ofyn ichi ymgymryd â dyletswyddau eraill nad ydych yn gyfarwydd â hwy a/neu os nad ydych yn meddu ar y wybodaeth neu'r sgiliau sylfaenol i gwblhau'r tasgau gofynnol. Fodd bynnag, os ydych yn gwrthod mewn modd afresymol fynychu'r gwaith neu ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n rhesymol, gallai hyn fod yn gyfystyr ag absenoldeb heb ganiatâd neu danberfformio bwriadol a allai fod yn fater disgyblu o bosibl.

Os cewch eich adleoli dros dro i rôl ar radd is byddwch yn dal i gael eich cyflog presennol.  Bydd gweithwyr sy'n cyflawni 'dyletswyddau uwch' ar radd uwch yn derbyn honorariwm yn unol â Pholisi Dyletswyddau Uwch a Honoraria y Cyngor.

Telir treuliau teithio yn unol â Rheoliadau Ariannol a Pholisi Teithio yr Awdurdod i weithwyr y mae'n rhaid iddynt deithio pellter ychwanegol yn sgil cael eu hadleoli at ddibenion y Polisi hwn.

Rheoli Risg ac Adleoli

Y prif gamau ar gyfer pawb fydd ceisio sicrhau, mewn achos o amharu, fod risgiau'n cael eu hystyried a mesurau'n cael eu cymryd i leihau'r risgiau. Er enghraifft:

  • Yn ystod achos o bandemig ffliw, os ydych yn iach, yn osgoi cysylltiad neu'n lleihau cysylltiad ag unigolion â symptomau sy'n debyg i rai'r ffliw ac yn mabwysiadu arferion sy'n lleihau'r risg o ddal yr haint (er enghraifft mesurau ymbellhau cymdeithasol a hylendid dwylo effeithiol);
  • Mewn tywydd eithafol, dylech bwyso a mesur a yw'n rhesymol rhoi cynnig ar ddulliau trafnidiaeth arferol neu a yw opsiynau eraill yn fwy priodol h.y. cerdded (ystyriwch esgidiau addas), rhannu ceir neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Os na allwch fynd i'ch gweithle, a oes modd ichi gyrraedd canolfan arall yn nes at eich cartref a gwneud gwaith defnyddiol yno?

Mae'n bosibl y byddwch mewn perygl penodol yn ystod achos o amharu e.e. os ydych yn feichiog neu â chyflwr iechyd cronig, ac felly dylai eich rheolwr reoli risg y sefyllfa yn dibynnu ar y digwyddiad na ragwelwyd a, lle bo'r angen, eich adleoli i feysydd lle gellir lleihau'r risg.

Os penderfynir atal gwasanaeth dros dro a/neu gau adeilad neu leoliad arall o achos yr amharu, bydd oriau'r contract yn cael eu credydu ichi os ydych yn cael eich anfon adref yn gynnar. Yn yr un modd, bydd oriau'r contract ar gyfer y cyfnod hwnnw yn cael eu rhoi ichi os ydych yn cyrraedd eich gweithle ac yn canfod ei fod wedi cael ei gau.

Yn ystod y cyfnod o amharu mae'n bosibl y bydd yn rhaid canslo neu aildrefnu absenoldebau a gynlluniwyd megis gwyliau blynyddol, absenoldeb arbennig, absenoldeb amser hyblyg, neu absenoldeb ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, a hynny er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cyflenwi digonol ar gael. Bydd yn rhaid i unrhyw achosion o ganslo fod yn unol ag unrhyw gyngor neu gyfarwyddyd cenedlaethol pellach ac wedi'u seilio ar yr angen am gynnal gwasanaethau angenrheidiol. Rhoddir gwybod i weithwyr a rheolwyr llinell am newidiadau i weithdrefnau presennol lle bo'n briodol. Hefyd bydd angen blaenoriaethu ceisiadau am wyliau ac ni ellir eu gwarantu, e.e. yn amlwg, bydd ceisiadau am absenoldeb arbennig mewn achosion o brofedigaeth a dyletswyddau cyhoeddus, y mae'n rhaid eu caniatáu yn ôl y gyfraith, yn cael blaenoriaeth dros geisiadau am wyliau blynyddol neu amser hyblyg nad ydynt yn rhai hanfodol.

Mae'r polisi Amser o'r Gwaith yn nodi mae hyd at uchafswm o 5 niwrnod o'r gwaith, gyda thâl, (pro rata i gyflogeion rhan-amser) ar gael i gyflogeion os bydd un o blith aelodau agosaf teulu’r cyflogai’n marw, yn cael anaf neu salwch critigol. Yn achos marwolaeth plentyn, rhiant neu bartner, gellir estyn hyn i 10 diwrnod. Dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, rhaid gofyn i Bennaeth y Gwasanaeth awdurdodi’r absenoldeb.

At ddiben y polisi hwn, y diffiniad o aelodau agosaf y teulu yw priod, partner sifil, partner, rhiant, plentyn, brawd/chwaer, mam-gu/dad-cu'r cyflogai.

Os nad yw gweithwyr yn gallu mynychu'r gwaith oherwydd bod angen iddynt ofalu am ddibynyddion yn ystod yr amharu neu os terfir ar eu trefniadau gofal oherwydd yr amharu, gall y gweithwyr wneud cais am gymryd gwyliau blynyddol, amser hyblyg yn unol â Chynllun Amser Hyblyg y Cyngor neu amser o'r gwaith heb dâl yn unol â Pholisi y Cyngor ynghylch Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion

Fel yr eglurwyd uchod mae gan y Cyngor ddarpariaethau Absenoldeb o'r Gwaith Tosturiol, y gellir ei ganiatáu pan fydd aelod o deulu agos y gweithiwr wedi marw neu'n ddifrifol wael.  Mae'r darpariaethau hyn yn annibynnol ar y Rheoliadau mewn perthynas ag Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion ac yn ychwanegol atynt.

Dylai'r rheolwr llinell ystyried y canlynol wrth benderfynu faint o amser o'r gwaith sy'n rhesymol:

  • Beth sydd i'w wneud yn ymarferol?
  • Faint o amser byddai hynny'n cymryd fel arfer?
  • A oes unrhyw amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau caniatáu rhagor o amser ar gyfer y gweithiwr dan sylw? Er enghraifft, ydy'r dibynnydd yn byw bellter i ffwrdd, ac felly nid yw'n ymarferol i'r gweithiwr ddychwelyd i'r gwaith rhwng gwneud trefniadau?
  • A oes unrhyw anghenion gwasanaeth a fyddai'n effeithio ar faint o amser a ganiateir i weithiwr penodol ar adeg benodol?

Wedyn dylid cydbwyso'r ystyriaethau uchod wrth benderfynu beth sy'n rhesymol.

Gall cais am weithio gartref yn y tymor byr gael ei gyflwyno gennych chi a'i ystyried gan eich rheolwr llinell fel ateb tymor byr os nad ydych chi'n gallu mynychu'r gwaith gan fod angen ichi ofalu am ddibynyddion o ganlyniad i'r amharu, e.e. oherwydd bod ysgol neu ganolfan ddydd wedi cau neu yn ystod tywydd garw pryd nad yw'n bosibl teithio. Wrth ystyried ceisiadau, dylai rheolwyr llinell  ystyried yn gyntaf:

  • A all y gweithiwr rannu trefniadau neu wneud trefniadau eraill o ran gofal plant neu ofalu a hynny ar gyfer y cyfnod cyfan y gwnaed cais amdano neu ar gyfer rhan ohono?
  • A yw'n ymarferol ac yn rhesymol i'r gweithiwr weithio gartref am y cyfnod cau yn ei gyfanrwydd neu am ran ohono?
  • A yw rôl y swydd yn caniatáu i dasgau gael eu cyflawni'n effeithiol o gartref?
  • A ellir ystyried trefniant gweithio hyblyg arall yn y tymor byr?

Mewn achos o amharu dylai rheolwyr llinell, drwy ymgynghori â gweithwyr, glustnodi unrhyw waith y gellir ei gwblhau gartref dros dro fel modd o gynnal y gwasanaeth a ddarperir. Gan taw trefniant gweithio gartref yn y tymor byr fydd hwn, nid ad-delir unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â gweithio gartref i'r gweithwyr.

Yn y sefyllfa hon ni fydd yn bosibl asesu'r weithfan, er y bydd y gweithiwr yn gyfrifol am sicrhau arferion gweithio diogel yn y cartref. 

Rhaid i'r rheolwr llinell a'r gweithiwr sicrhau y cedwir at egwyddorion y Polisïau Diogelwch TG a'r Polisïau Llywodraethu Gwybodaeth.

Mae'r hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg yn berthnasol i weithwyr sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn 16 oed neu iau neu blentyn anabl dan 18 oed.  Hefyd mae'n berthnasol i weithwyr sy'n gofalu am oedolion penodol. Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ystyried pob cais o’r fath o ddifrif. 

Gallwch wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg yn y tymor byr i'ch galluogi i gydbwyso eich dyletswyddau gwaith a gofal yn ystod y cyfnod o amharu. Bydd y rheolwr llinell yn ystyried ceisiadau yn unigol a bydd yn rhaid iddo/iddi gydbwyso anghenion y gwasanaeth â rhesymoldeb y cais am hyblygrwydd gennych chi. 

Gall opsiynau posibl gynnwys gwneud cais dro dro am:

  • Oriau gwaith cywasgedig, e.e. gweithio oriau wythnosol y contract dros 4 diwrnod yn hytrach na 5
  • Lleihau oriau gwaith
  • Debyd o ran amser hyblyg (gweler isod)
  • Newid patrymau sifft neu drefniadau gwaith (gweler isod)

Bydd unrhyw leihad dros dro o ran yr oriau a weithir yn rhoi bod i ostyngiad cyflog yn unol â'r trefniant gwaith a gytunir rhyngoch chi a'ch gweithiwr llinell. Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rhoi gwybod i'r Tîm Adnodau Dynol am unrhyw newidiadau fel y gellir gwneud yr addasiad.

Yn ystod y cyfnod o amharu, bydd mwyafswm yr oriau debyd yn y Cynllun Amser Hyblyg y gellir gwneud cais am eu trosglwyddo o un cyfnod cyfrifo i'r nesaf yn cynyddu i 16 awr (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser). Rhaid gweithio'r oriau debyd yn ôl cyn pen tri chyfnod cyfrif. Bydd pob cais yn amodol ar gael cymeradwyaeth y rheolwr llinell a gwneir hyn er mwyn helpu gweithwyr sydd angen rhagor o hyblygrwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r amharu.

Sylweddolir nad ydych o bosib yn rhan o'r Cynllun Amser Hyblyg o achos natur eich swydd. Er mwyn bod yn gyson, anogir rheolwyr llinell i ystyried ceisiadau gan weithwyr am gymryd hyd at 16 awr o'r gwaith y gellir eu gweithio'n ôl drwy ddyddiau ychwanegol/sifftiau dros gyfnod y cytunir arno heb fod yn hwy na 26 wythnos os yw'r gwasanaeth yn caniatáu.

Yn y naill sefyllfa neu'r llall, mae'n rhaid i gofnod o'r amser mewn debyd gael ei gadw gennych a'i fonitro gan eich rheolwr llinell yn rheolaidd.  Os byddwch yn gadael eich swydd cyn gweithio'r amser mewn debyd yn ôl, mae'n rhaid i'ch rheolwr llinell roi gwybod i'r gyflogres am yr oriau mewn debyd er mwyn eu didynnu o'ch cyflog terfynol.

Os na fydd dim o'r opsiynau uchod yn bosibl, fel cam olaf oll, bydd didyniad yn cael ei wneud o gyflog y gweithiwr am yr amser a gollwyd.

Gan ei bod yn ofynnol i gydbwyso'r angen am weithio a gorffwys yn ystod cyfnod hirfaith o amharu, gellir canslo gwyliau a gwrthod ceisiadau newydd lle ystyrir bod gwneud hynny'n angenrheidiol yn weithredol, a bydd yn rhaid cytuno ar ddyddiadau eraill pan fydd y cyfnod o amharu wedi dod i ben.

Gallai hyn olygu y bydd angen inni roi ystyriaeth ôl-weithredol i ganiatáu trosglwyddo mwy o wyliau na'r arfer i'r flwyddyn wyliau nesaf; rheolir hyn yn ôl pob achos unigol. Yn unol â gofynion cyfreithiol, dylai unigolion gymryd o leiaf 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (yn cynnwys gwyliau cyhoeddus) - pro rata fel y bo'n briodol. Dylai unrhyw geisiadau am wyliau a wnaed ar gyfer y cyfnod o amharu neu a wneir yn ystod y cyfnod o amharu gael eu cymeradwyo'n benodol ymlaen llaw gan y rheolwr llinell priodol.

Os yw'r gwasanaeth yn caniatáu ac os yw'r rheolwr llinell yn cymeradwyo, gallwch wneud cais am drosglwyddo hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser) o'r flwyddyn wyliau nesaf er mwyn cael amser â thâl i ofalu am ddibynyddion.

Os byddwch yn gadael yr Awdurdod cyn gweithio'n ôl y dyddiau hyn o wyliau blynyddol a drosglwyddwyd, bydd addasiad yn cael ei wneud i'r taliad cyflog terfynol er mwyn ystyried y gwyliau ychwanegol a gafwyd.

Bydd angen ichi fod yn hyblyg o ran eich oriau gwaith lle bo'n bosibl er mwyn hwyluso darparu gwasanaethau. Lle bo angen lefelau ychwanegol i gyflenwi adeg absenoldeb, dylai'r rheolwyr llinell ofyn am wirfoddolwyr o blith y gweithwyr presennol sy'n barod i weithio oriau ychwanegol mewn meysydd gwasanaeth hanfodol, a chytuno ar oriau gweithio ychwanegol o'r fath yn amodol ar yr ymrwymiadau yn y Rheoliadau Amser Gweithio (cysylltwch â'r timau Adnoddau Dynol i gael cyfarwyddyd pellach).

Dylid gofalu nad yw'r rhai sy'n gweithio oriau ychwanegol yn peryglu eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain ac iechyd a diogelwch eraill, a'u bod yn cael seibiannau'n rheolaidd.  Os gofynnir i weithwyr weithio, dylent gael eu rheoli drwy drefniadau amser yn ôl megis amser hyblyg neu amser yn lle oriau a weithiwyd, neu dylid talu goramser neu lwfansau sifft iddynt yn amodol ar gymeradwyaeth arferol.

Adnoddau Dynol