Oriau Hyblyg

Diweddarwyd y dudalen: 02/04/2024

Mae’r cynllun oriau hyblyg yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ichi yng nghyswllt eich oriau gwaith. Mae’n cynnwys amseroedd cychwyn a gorffen hyblyg, o boptu ‘oriau gwaith creiddiol’ (pan fo’n rhaid bod yn bresennol) ac y tu mewn i gyfyngiadau’r ‘lled band’ (sef yr amseroedd cynharaf a hwyraf y gellir gweithio oriau rhyngddynt), gan roi mwy o ddewis ichi o ran eich oriau gwaith, gan ddibynnu ar ofynion gweithredol.

Mae’n anochel na fydd rhai gweithwyr yn gallu bod yn rhan o’r cynllun hwn oherwydd y math o waith y maent yn ei wneud, neu oherwydd nad yw patrymau gwaith yn golygu bod modd gweithio’n hyblyg.

Rhaid i’ch rheolwr llinell gytuno o flaen llaw ag unrhyw geisiadau i weithio oriau hyblyg y tu allan i’r diwrnod gwaith safonol. Yn rhesymol ddigon, byddai hyn yn cynnwys trafod cael peth hyblygrwydd y gallai unigolion neu dîm weithio yn unol ag ef heb orfod cael cymeradwyaeth o flaen llaw ar bob achlysur.

Wyth wythnos yw’r cyfnod cyfrifo, sydd wedi’i seilio ar 296 o oriau gwaith contractiol llawn amser dros y cyfnod hwnnw, a pro rata yn achos gwaith rhan-amser.

Budd yn ôl disgresiwn yw’r cynllun hwn, sy’n cael ei gynnig i’r holl weithwyr y mae eu trefniadau gwaith yn cynnwys rhywfaint o hyblygrwydd, ac felly efallai na fydd yn addas i weithwyr y mae eu dyletswyddau’n gofyn am batrwm gwaith sefydlog. Ni ddylid cymryd bod unrhyw ran o’r cynllun hwn yn rhoi hawl gontractiol i oriau hyblyg i unrhyw gyflogai.  Fodd bynnag, cytunir yn gyffredinol y bydd y sefydliad a’r staff fel ei gilydd yn cael cryn fudd o’r cynllun.

Os ydych wedi cronni oriau dros ben, gallwch ddefnyddio’r rhain i gymryd gwyliau hyblyg nad ydynt i’w tynnu oddi ar y gwyliau blynyddol contractiol y mae gennych hawl iddynt. Gellir cymryd uchafswm o ddiwrnod, neu ddau hanner diwrnod, o wyliau yn ystod pob cyfnod cyfrifo o 8 wythnos.

Ni ellir cymryd gwyliau hyblyg os ydynt yn arwain at ddebyd o fwy na 8 awr.

Gellir trosglwyddo uchafswm o 16 awr o gredyd neu 8 awr o ddebyd o un cyfnod cyfrifo i’r un nesaf. Bydd unrhyw oriau uwchlaw 16 yn cael eu colli ar ddiwedd cyfnod cyfrifo oni bai y cytunwyd y gellir eu cymryd ar ffurf amser o’r gwaith yn lle cyflog.  Os yw mwy nag 8 awr o ddebyd yn cael eu cronni heb drefniadau rhesymol o flaen llaw, gall y weithdrefn ddisgyblu fod yn gymwys.

Ar bob diwrnod gwaith, rhaid cwblhau isafswm o 4 awr o waith, sydd i gynnwys o leiaf awr o waith cyn 1:00 pm ac awr o waith ar ôl 1:00 pm. 

Os cytunwyd eich bod yn cael cymryd hanner diwrnod o wyliau oriau hyblyg, rhaid ichi gwblhau o leiaf 2 awr o waith cyn 1:00 pm yn achos gwyliau’r prynhawn ac o leiaf 2 awr o waith ar ôl 1:00 pm yn achos gwyliau’r bore. Er enghraifft, gallech weithio o 9am tan 11am ac o 1pm tan 3 pm neu 10am tan 2pm heb orfod trefnu gwyliau oriau hyblyg.

Pan fo patrymau gwaith yn dod i’r amlwg sy’n peri eich bod yn gweithio’n rheolaidd y tu allan i’r patrwm gwaith safonol o dan y cynllun hwn, ni ddylech chi na’ch rheolwr llinell gymryd bod hawl i barhau i wneud hynny.  Gall newidiadau i anghenion busnes neu gydbwysedd timau beri bod angen newid patrymau gwaith. Yn yr un modd, nid yw’r cynllun hwn yn rhoi unrhyw hawl i’r rheolwr llinell newid patrymau gwaith heb ymgynghori’n llawn â chi ac undebau llafur.

Rhaid peidio â gweithio am fwy na 6 awr heb egwyl sy’n para o leiaf hanner awr.

Mae gennym Bolisi Dim Smygu, sy’n datgan yn glir bod rhaid ichi ‘allgofnodi’ neu gofnodi unrhyw egwyl smygu a gymerir yn amser y tu allan i’r gwaith.

Bwriedir i’r cynllun oriau hyblyg gynyddu’r gallu i weithio’n hyblyg i’r graddau y gellir, ym mwyafrif yr amgylchiadau, fynd i apwyntiadau meddygol yn eich amser eich hun, a’r oriau’n cael eu cyflawni yn ystod y cyfnod cyfrifo presennol.  

Rhaid i oramser neu amser o’r gwaith yn lle cyflog gael ei awdurdodi gan eich rheolwr llinell o flaen llaw, ac fel arfer bydd yn cael ei dalu dim ond am oriau sy’n cael eu gweithio y tu allan i’r ‘lled band’. Os bydd hyn yn creu anawsterau gweithredol gan fod angen ichi ymdrin â chyfnod prysur penodol o ran llwyth gwaith ac nad ydych yn gallu cydbwyso hyn drwy gymryd gwyliau hyblyg yn ystod y cyfnod cyfrifo, gellid ystyried talu neu amser o’r gwaith yn lle cyflog yn unol â’n polisi. 

Dylai pob lleoliad weithredu systemau cofnodi amser electronig. Os nad yw hynny’n ymarferol, bydd eich rheolwr yn penderfynu ar system briodol. Disgwylir ichi ddefnyddio’r system cofnodi amser a ddarparwyd. Gall peidio â gwneud hynny arwain at gamau disgyblu gan gynnwys cael gwared ar y cynllun oriau hyblyg.

Dylai Rheolwyr Llinell sicrhau bod manylion y cynllun yn cael eu cyfleu i weithwyr cymwys, fod ganddynt y dogfennau priodol i’w cwblhau, a’u bod yn cael y taflenni amser priodol i’w cydlofnodi a’u bod yn gofnod cywir.

Gall camddefnyddio’r cynllun hwn arwain at gamau disgyblu a chael gwared ar y budd oriau hyblyg i’r gweithiwr.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol