Adrodd

Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024

Darperir fframwaith adrodd awgrymedig os bydd angen cynllun manylach.

Defnyddiwch yr offeryn hwn i gasglu'r gweithgareddau'n ymwneud â chynllunio gweithlu a dysgu sy'n deillio o'r broses asesu. Dylech gynnwys o leiaf y manylion canlynol:

  • Naratif sy'n egluro'r prif newidiadau yn eich gwasanaeth a beth fydd hynny'n ei olygu i'r gweithlu yn ystod y cyfnod cynllunio busnes.

  • Y camau gweithredu sydd i'w cymryd er mwyn ymateb i'r rhain a nodi'r anghenion dysgu a datblygu a fydd yn cyfrannu i'r fframwaith dysgu a datblygu corfforaethol.

Cwestiynau allweddol i'w hateb:

  • Beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol ar sail eich dadansoddiad o'r cyflenwad a'r galw?
  • Beth yw anghenion dysgu a datblygu y gwasanaeth?
  • Pa gamau penodol sydd eu hangen i gyflawni pob blaenoriaeth?
  • Pwy sy'n gyfrifol am gyflawni pob cam gweithredu?
  • Pwy arall sydd angen eu cynnwys?
  • Beth yw'r cyfnodau cyflawni?

 

Strategic Workforce Plan Report Template terfynol.pdf

 

Adnoddau Dynol