Profion llygaid

Diweddarwyd y dudalen: 20/02/2024

Os ydych yn defnyddio offer sgrin arddangos fel rhan o'ch swydd (bob dydd/am gyfnodau o awr neu fwy) cwblhewch Hunanasesiad Cyfarpar Sgrin Arddangos cyn cael gwahoddiad i wneud prawf golwg cychwynnol.​ Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan prawf golwg yn cael ei ddarparu hefyd pan fo defnyddiwr yn profi anawsterau gyda’i olwg y gellir yn rhesymol ystyried eu bod yn gysylltiedig â’r gwaith gyda sgrîn arddangos.

Byddwn yn cwrdd â'r gost gytunedig prawf golwg ar yr amod y cafwyd cymeradwyaeth ymlaen llaw gan swyddog awdurdodi o fewn eich hadran.

Os canfyddir, o ganlyniad i’r prawf golwg, bod angen sbectol yn benodol i’w defnyddio gyda chyfarpar sgrîn arddangos byddwn yn cyfrannu tuag at ei phrynu. Bydd y cyfraniad hwn yn ddigon i alluogi’r gweithiwr i gael ffrâm a lensys safonol neu gellir ei roi tuag at brynu math drutach o'ch ddewis. Mae’n rhaid dangos tystiolaeth bod y sbectol wedi cael ei phrynu mewn gwirionedd.

Mae taliadau am ddyfeisiau cywirol, lle y bo’n briodol, yn gyfyngedig i £40 ar gyfer lensys un olwg a £60 ar gyfer lensys dwy olwg.

Byddwch yn bersonol gyfrifol am gadw’r sbectol yn ddiogel. Fe’i darperir yn unol â gofyniad statudol ac er mwyn Iechyd a Diogelwch ac mae disgwyl ichi ddangos gofal rhesymol am eich sbectol.

Os oes newid yn eich presgripsiwn, byddwn yn ysgwyddo cost sbectol newydd yn amodol ar y pwyntiau uchod. Os ydych yn cael anhawster gyda chostau cychwynnol am brofion golwg neu sbectol trafodwch hyn gyda'ch rheolwr llinell.

Sut i hawlio'r gost am brawf llygaid / sbectol

  • Sicrhewch eich bod yn bodloni'r meini prawf fel defnyddiwr sgrîn arddangos (gweler isod) cyn cwblhau'r ffurflen.
  • Mae taliadau am ddyfeisiau cywirol, lle y bo’n briodol, yn gyfyngedig i £40 ar gyfer lensys un olwg a £60 ar gyfer lensys dwy olwg.
  • Sicrhewch eich bod yn cael derbynneb ar gyfer eich prawf llygaid / sbectol a'i ddarparu i'ch rheolwr llinell ar eich ffurflen.
  • Dychwelwch eich ffurflen wedi'i chwblhau at eich rheolwr llinell, a fydd yn gwneud y penderfyniad ynghylch prosesu taliad(au).

Gellir ail-brofi ac ad-dalu bob 2 flynedd, oni bai bod yr optometrydd yn darparu amserlenni amgen.

Awgrym defnyddiol: Gallwch sganio derbynneb yr optegydd o'ch ffôn symudol a'i e-bostio at eich Rheolwr Llinell!

Rheolwyr: Sut i brosesu taliadau am brawf llygaid / sbectol

I brosesu taliadau, bydd angen i'ch Rheolwr Llinell i e-bostio CRPayroll@sirgar.gov.uk gyda’r wybodaeth ganlynol;

  • Enw llawn yr hawlydd
  • Rhif y Gweithiwr
  • Adran
  • Swm i’w ad-dalu
  • Derbynneb o’ch optegwyr

SYLWCH: Dylai'r ffurflen hon gael ei chadw'n lleol am gofnod gan eich Rheolwr Llinell oni bai bod yr optometrydd yn nodi hynny.

Meini prawf: Defnyddiwr Sgrîn Arddangos

(Detholiad o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Cyfarpar Sgrîn Arddangos) 1992. Canllawiau ynghylch y Rheoliadau)

Bydd yn briodol yn gyffredinol ystyried bod gweithiwr yn Ddefnyddiwr Sgrîn Arddangos os yw’r rhan fwyaf neu’r cyfan o’r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • mae’r unigolyn yn dibynnu ar ddefnyddio cyfarpar sgrîn arddangos i wneud y swydd, gan nad oes dull arall ar gael yn rhwydd i gael yr un canlyniadau
  • nid oes gan yr unigolyn unrhyw ddisgresiwn ynghylch defnyddio neu beidio â defnyddio’r cyfarpar sgrîn arddangos
  • mae ar yr unigolyn angen hyfforddiant sylweddol a/ neu sgiliau penodol mewn defnyddio cyfarpar sgrîn arddangos i wneud y swydd
  • mae’r unigolyn fel arfer yn defnyddio cyfarpar sgrîn arddangos am gyfnodau parhaus o awr neu fwy ar y tro
  • mae’r unigolyn yn defnyddio offer sgrîn arddangos yn y ffordd yma fwy neu lai’n ddyddiol
  • mae trosglwyddo gwybodaeth yn gyflym rhwng y defnyddiwr a’r sgrîn yn un o ofynion pwysig y swydd
  • canolbwyntio gan y defnyddiwr, er enghraifft lle gallai canlyniadau gwallau fod yn dyngedfennol.

Dylai unrhyw ymholiadau wrth ystyried a yw unigolyn yn gymwys fel defnyddiwr sgrîn arddangos gael eu cyfeirio at yr Adain Adnoddau Dynol.

Adnoddau Dynol