Cyflawnwr

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Ydych chi'n cyflawni cam-drin domestig, trais domestig a/neu drais rhywiol?

Ni fydd cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol a gyflawnir gan weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael eu goddef dan unrhyw amgylchiadau.

Dylech wybod bod cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn fater difrifol a allai arwain at euogfarn droseddol. Mae'r Cyngor yn mynnu bod cyflawnwyr cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn datgan unrhyw erlyniadau cysylltiedig.

Bydd aflonyddu ac ymddygiad bygythiol a brofwyd tuag at un o weithwyr eraill y Cyngor gennych chi fel partner, cyn-bartner neu berthynas yr unigolyn, tra’ch bod hefyd yn gweithio i’r Cyngor, yn cael ei ystyried o ddifrif a gallai arwain at gymryd camau disgyblu.

Gall ymddygiad y tu allan i’r gwaith (p’un a yw’n arwain at euogfarn droseddol ai peidio) arwain at gamau disgyblu yn eich erbyn os ydych yn cyflawni cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol. Cyn belled ag y bo modd, bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r ffeithiau ac ystyrir a yw eich ymddygiad yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau disgyblu fesul achos. Dylid cyfeirio at Camau disgyblu a Chôd Ymddygiad y Cyngor sy'n nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weithwyr bob amser.

Ymhlith y ffactorau y dylid eu hystyried y mae:

  • natur yr ymddygiad;
  • natur a math y gwaith yr ydych yn ei wneud;
  • i ba raddau y mae'n cynnwys cyswllt â gweithwyr eraill, defnyddwyr gwasanaeth, plant ac oedolion agored i niwed; ac
  • eich statws fel gweithiwr.

Yn ogystal, gall ymddygiad o'r fath olygu bod rhai dyletswyddau yn y swydd yn amhriodol i'w cyflawni ac yn cyfiawnhau diswyddo neu adleoli. Ni fydd yn briodol i chi, fel un sy'n euog o gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol, ddarparu gwasanaethau i blant neu oedolion agored i niwed. Gallai camau disgyblu arwain at gael eich diswyddo neu gyfiawnhau newid mewn dyletswyddau neu adleoli yn unol â Bholisi Adleoli y Cyngor.

Os ydych yn pryderu am eich ymddygiad camdriniol, gallwch ddatgelu eich pryderon yn gyfrinachol naill ai i'ch rheolwr llinell, Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor neu i asiantaethau cymorth arbenigol lleol neu genedlaethol a restrir ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.

Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i chi a bydd y Cyngor yn eich helpu i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, os ydych yn dymuno.

 

Mewn achosion pan fydd y dioddefwr a'r cyflawnwr yn cael eu cyflogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin, bydd camau priodol yn cael eu cymryd. Diogelwch y dioddefwr fydd ein blaenoriaeth bob amser a dylid cymryd camau i leihau'r risg gymaint â phosibl. Mae'n bosibl y bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn eich erbyn, fel yr unigolyn sy’n cam-drin. Mae’n bosibl y bydd camau’n cael eu cymryd hefyd i leihau’r potensial i chi, fel y cyflawnwr, ddefnyddio eich safle neu adnoddau’r Cyngor i gam-drin ymhellach neu i ddod o hyd i’r dioddefwr. Dylid gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch cynnal diogelwch mewn partneriaeth â'r dioddefwr/goroeswr.

Nid yw cwnsela na chyfryngu i gyplau byth yn cael ei argymell lle bo cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn digwydd.

Os byddwch yn datgelu eich bod yn cyflawni cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol gallwch ddisgwyl, lle bo modd, bod unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu yn gyfrinachol ac na chaiff ei rhannu ag aelodau eraill o staff heb eich caniatâd.

Mewn amgylchiadau pan fydd pryderon am blant neu oedolion agored i niwed, ni ellir sicrhau y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw'n gyfrinachol. Fodd bynnag, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ar sail angen gwybod yn unig, cyn belled ag y bo modd.

Bydd achosion o dorri cyfrinachedd gan unrhyw aelod o staff yn cael eu hystyried yn ddifrifol.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu cymorth a chwnsela cyfrinachol i chi trwy'r Uned Iechyd Galwedigaethol. Cyfeiriwch at ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth i gael rhagor o wybodaeth.

 

Adnoddau Dynol