Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Atgyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol

Dylai'r rheswm dros atgyfeirio a'r broses gael eu trafod yn llawn â'r gweithiwr cyn gwneud atgyfeiriad. Ewch i adran OH y fewnrwyd i gael mwy o wybodaeth am Ffioedd OH a'r broses wrth wneud atgyfeiriad.

Costau i'r Gweithiwr

O 1af Ionawr 2015 cyflwynodd y Llywodraeth eithriad treth o hyd at £500 (fesul blwyddyn, fesul gweithiwr) ar gyfer triniaethau meddygol a argymhellir i helpu gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith. Bydd yr eithriad hwn yn berthnasol i driniaethau a argymhellwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yn y gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.

Os yw gweithiwr wedi bod yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu anaf am gyfnod o bedair wythnos o leiaf, neu'n debygol o fod yn absennol, ac argymhellir triniaeth feddygol, fel ffisiotherapi, i gynorthwyo'r gweithiwr i ddychwelyd i'r gwaith, gall yr Awdurdod dalu costau meddygol hyd at £500 fesul blwyddyn dreth heb arwain at fudd trethadwy i'r gweithiwr.

Bydd unrhyw daliad dros y terfyn £500 yn agored i dreth a chyfraniadau yswiriant gwladol ar y swm dros ben.

Pryd i atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol

Gall rheolwr wneud atgyfeiriadau at Iechyd Galwedigaethol ar unrhyw adeg yn ystod gwasanaeth gweithiwr. Yn fwyaf tebygol bydd hyn yn ystod cyfnod absenoldeb salwch gweithiwr neu'n dilyn cyfnod o achlysuron o absenoldeb. Nid oes angen i weithwyr fod yn absennol oherwydd salwch i atgyfeiriad gael ei ystyried. Ar adegau bydd gweithwyr yn cael eu hatgyfeirio i gael cymorth ychwanegol trwy'r Uned Iechyd Galwedigaethol er mwyn gallu osgoi absenoldeb yn y dyfodol.

Gellir ystyried atgyfeiriad ar gyfer gweithiwr yn yr amgylchiadau canlynol:

  • mae gweithwyr wedi cyrraedd sbardun ffurfiol
  • mae gweithwyr wedi cyflwyno 'Nodyn Ffitrwydd' sy'n rhoi gwybod am absenoldeb parhaus am dros 28 diwrnod calendr
  • mae gweithwyr yn profi iechyd seicolegol gwael
  • mae gan weithwyr anaf neu gyflwr cyhyrysgerbydol
  • yn dilyn anaf sy'n gysylltiedig â'r gwaith
  • nodi/adolygu addasiad rhesymol

Pam fod angen atgyfeiriad?

Diben cyfeiriad yw sicrhau asesiad meddygol gwrthrychol o iechyd gweithiwr yng nghyd-destun ei gyflogaeth. Bydd y wybodaeth hon yn cynorthwyo'r Awdurdod wrth ddarparu'r gefnogaeth fwyaf priodol yn ystod cyfnod o absenoldeb i hwyluso dychwelyd i'r gwaith.

Sut i wneud atgyfeiriad

Mae angen i'r rheolwr lenwi atgyfeirio ar-lein Iechyd Galwedigaethol.

Adnoddau Dynol