Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

6. Yr Ail Gyfarfod / Cyfarfod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Hwb Fod yn Hwyrach Na Thri Mis

Rhaid cynnal yr ail gyfarfod/cyfarfod terfynol i adolygu'r cyfnod prawf yn ystod y trydydd mis o gyflogaeth. Pwrpas y cyfarfod yw adolygu perfformiad yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch a lefelau presenoldeb. Dylid rhoi adborth adeiladol i'r gweithiwr gan dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd yn ogystal ag unrhyw feysydd lle nad yw'n perfformio i'r safon ofynnol. Rhaid rhoi enghreifftiau bob amser.

Os yw'n amlwg yn y cyfarfod hwn bod perfformiad y gweithiwr yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch neu lefelau presenoldeb yn peri pryder, gall y rheolwr llinell benderfynu ymestyn y cyfnod prawf hyd at bum mis o ddyddiad dechrau'r gweithiwr (yn dilyn cyngor gan yr adran Adnoddau Dynol). Os nad yw'r cam gweithredu hwn yn briodol yn dilyn cyngor gan yr adran Adnoddau Dynol, rhaid i'r rheolwr llinell roi gwybod i'r gweithiwr y bydd yn cael ei wahodd i fynd i gyfarfod terfynol i adolygu'r cyfnod prawf i drafod terfynu ei gyflogaeth.

Bydd unrhyw gefnogaeth neu gymorth a nodwyd yn parhau i gael ei gynnig yn ystod y cyfnod prawf cyfan hyd at ddyddiad cadarnhau'r swydd neu'r penderfyniad i ddiswyddo.

Os yw perfformiad ac ymddygiad yn cyrraedd y safon ofynnol ar y pwynt hwn yna gellir cadarnhau'r penodiad.

YMESTYN Y CYFNOD PRAWF

Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen ymestyn y cyfnod prawf y tu hwnt i'r cyfnod o dri mis. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys:

  • Nid yw wedi bod yn bosibl asesu perfformiad yn llawn oherwydd salwch y gweithiwr neu absenoldeb awdurdodedig arall.

  • Mae pryderon wedi bod ynghylch perfformiad, ond mae gan y rheolwr dystiolaeth i awgrymu bod perfformiad yn debygol o wella o ymestyn y cyfnod prawf.

Fel arfer gellir ymestyn cyfnodau prawf am hyd at 2 fis y tu hwnt i'r cyfnod prawf cyntaf o dri mis. Dylai unrhyw benderfyniad i ymestyn y cyfnod prawf gael ei wneud gan y rheolwr llinell yn yr ail gyfarfod i adolygu'r cyfnod prawf. Bydd y rheolwr llinell yn gofyn am gyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol yn gyntaf a bydd yn rhoi gwybod i Bennaeth y Gwasanaeth am y penderfyniad.

Os bydd yn amlwg yn ystod yr ail gyfarfod i adolygu'r cyfnod prawf fod gweithiwr wedi bod yn absennol am ran sylweddol o'i gyfnod prawf, er enghraifft oherwydd salwch, gall y rheolwr llinell ystyried ymestyn y cyfnod prawf am hyd at 2 fis a pharhau i reoli'r absenoldeb drwy'r Polisi Cyfnod Prawf (nid y Polisi Absenoldeb Salwch). Bydd hyn yn golygu bod modd asesu perfformiad gwaith gwirioneddol y gweithiwr yn y swydd dros gyfnod rhesymol o amser. Dylid ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod lle mae'r gweithiwr wedi bod yn absennol am amser hir yn ystod y cyfnod prawf. Gall absenoldebau hir atal asesiad teg ynghylch a yw gweithiwr yn gallu perfformio'n gyson i'r safon ofynnol.

Mewn amgylchiadau lle caiff y cyfnod prawf ei ymestyn rhaid rhoi gwybod i'r gweithiwr yn ystod y cyfarfod hwn, os nad yw ei berfformiad neu ei bresenoldeb yn cyrraedd y safon ofynnol ar ddiwedd y cyfnod hwn, y bydd ei gyflogaeth yn cael ei therfynu. Rhaid i hyn gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig.