Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

5. Cyfarfod Cyntaf i Adolygu'r Cyfnod Prawf - Rhwng Pedair a Chwe Wythnos

Os yw cyfnod prawf yn mynd i fod o unrhyw werth, rhaid iddo gael ei reoli'n iawn. Rhaid cynnal y cyfarfod cyntaf i adolygu'r cyfnod prawf rhwng y bedwaredd a'r chweched wythnos o gyflogaeth. Pwrpas y cyfarfod yw adolygu perfformiad yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch a phresenoldeb. Dylid rhoi adborth adeiladol i'r gweithiwr gan dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd yn ogystal ag unrhyw feysydd lle nad yw'n perfformio i'r safon ofynnol. Rhaid rhoi enghreifftiau bob amser.

Os yw pob agwedd yn foddhaol, dylai'r rheolwr llinell roi gwybod i'r gweithiwr am hyn a chadarnhau dyddiad yr ail gyfarfod i adolygu'r cyfnod prawf a ddylai gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na thri mis.

Lle ceir pryderon ynghylch unrhyw agwedd ar berfformiad yn erbyn targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch neu bresenoldeb, rhaid i'r rheolwr llinell:

  • Trafod y meysydd perfformiad, presenoldeb a/neu ymddygiad sydd angen eu gwella.

  • Egluro'r safonau sy'n ofynnol.

  • Llunio cynllun datblygu perfformiad sy'n gosod amcanion a thargedau ac sy'n nodi unrhyw gefnogaeth, hyfforddiant neu arweiniad ychwanegol sydd eu hangen.

  • Pennu'r cyfarfod terfynol i adolygu'r cyfnod prawf heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl dyddiad dechrau'r gweithiwr.

  • Rhoi gwybod i'r gweithiwr y gall methu â chyrraedd y safonau gofynnol arwain at ymestyn y cyfnod prawf a/neu derfynu cyflogaeth.

Dylid cadarnhau hyn yn ysgrifenedig i'r gweithiwr cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Sylwer, gyda golwg ar absenoldeb salwch yn ystod y cyfnod prawf. Bydd hyn yn cael ei reoli fel rhan o broses y cyfnod prawf ac nid y polisi absenoldeb salwch. Bydd cyfarfodydd adolygu ychwanegol yn ystod y cyfnod prawf yn cael eu trefnu i gefnogi gweithiwr yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch fel y bo'n briodol.