Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

3. Rolau a Chyfrifoldebau

Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei gweithredu'n effeithiol gan eu rheolwyr pobl a'u bod yn ymwybodol ohoni.

Y Rheolwyr llinell/Goruchwylwyr sy'n gyfrifol am reoli perfformiad eu holl weithwyr, gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyfnod prawf. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod rhaglen ymsefydlu lawn i'r swydd yn cael ei dilyn a bod adolygiadau rheolaidd o berfformiad yn cael eu cynnal ar y cyfnodau a argymhellir (fan lleiaf). Mae hefyd yn cynnwys gweithredu'n gyflym pan nodir pryderon ynghylch perfformiad, presenoldeb a/neu ymddygiad a cheisio cyngor gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol yn brydlon. Y rheolwyr sy'n gyfrifol hefyd am gadw cofnodion priodol ac am hysbysu'r gweithwyr pan fydd cyfnod prawf boddhaol wedi dod i ben.

Y gweithwyr sy'n gyfrifol am gydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod, codau ymddygiad ac ati yn ogystal â mynd i'r gwaith yn rheolaidd a lleisio unrhyw bryderon ynghylch eu gwaith neu amodau gweithio, gyda'u rheolwr cyn gynted ag y bo modd.

Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor a chymorth yn ystod y cyfnod prawf ac yn monitro'r modd y caiff y polisi hwn ei gymhwyso.

Mae'r tîm Dysgu a Datblygu yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen ymsefydlu gorfforaethol a datblygu rheolwyr.