Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

8. Absenoldeb Salwch yn Ystod y Cyfnod Prawf

Bydd angen monitro a rheoli absenoldeb salwch yn ystod cyfnod prawf fel rhan o broses y cyfnod prawf. Pan fo'r absenoldeb yn aml a/neu'n hirdymor, gall hyn ei gwneud hi'n anodd i'r rheolwr llinell asesu perfformiad y gweithiwr ac i'r gweithiwr allu dangos ei alluoedd.

Dylai'r rheolwr llinell gynnal Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith a Chyfarfodydd Cefnogi Gweithwyr yn unol â'r gweithdrefnau rheoli absenoldeb salwch arferol ac ymgymryd ag unrhyw adolygiad ffurfiol o bresenoldeb fel rhan o'r cyfarfodydd adolygu'r cyfnod prawf a nodir uchod.

Bydd angen i'r rheolwr llinell ystyried a ddylid ymestyn y cyfnod prawf; cadarnhau penodiad y gweithiwr er gwaethaf yr absenoldeb; neu derfynu'r contract oherwydd methiant y gweithiwr i gwblhau'r cyfnod prawf yn foddhaol. Mae'n rhaid i'r rheolwr llinell geisio cyngor gan yr adran Adnoddau Dynol cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Dylai'r rheolwr llinell ymchwilio i'r rhesymau dros yr absenoldeb salwch gyda'r gweithiwr i gael gwybod a yw oherwydd anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os ydyw, dylai'r rheolwr llinell ystyried addasiadau rhesymol yn unol â chanllawiau'r Awdurdod. Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys newidiadau i'r rôl neu addasiadau yn y gweithle i helpu i wella lefelau presenoldeb. Gellir ystyried estyniad i'r cyfnod prawf i roi mwy o amser i'r gweithiwr ddangos ei alluoedd fel addasiad rhesymol.