Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Hyd a lled y Weithdrefn
- 3. Rolau a Chyfrifoldebau
- 4. Y Weithdrefn
- 5. Cyfarfod Cyntaf i Adolygu'r Cyfnod Prawf - Rhwng Pedair a Chwe Wythnos
- 6. Yr Ail Gyfarfod / Cyfarfod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Hwb Fod yn Hwyrach Na Thri Mis
- 7. Y Trydydd Cyfnod / Cyfnod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Heb Fod yn Hwyrach Na Phum Mis
4. Y Weithdrefn
Dylid esbonio'r polisi cyfnod prawf i'r gweithiwr newydd yn ystod rhaglen ymsefydlu'r maes gwasanaeth perthnasol.
Dylai'r rheolwr llinell esbonio cyfrifoldebau'r swydd, trefnu bod unrhyw hyfforddiant angenrheidiol yn digwydd a gosod amcanion i gael eu cyflawni o fewn y tri mis cyntaf yn y rôl.
Bydd yr amcanion hyn yn cael eu gosod a chytunir arnynt yn yr arfarniad cychwynnol a drefnir yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl dechrau cyflogaeth. Byddant yn briodol i'r rôl, a byddant wedi'u cynllunio i gynorthwyo'r gweithiwr i gyrraedd y lefel ofynnol o berfformiad er mwyn cael ei gadarnhau yn y rôl ar ôl tri mis.
Dylai'r rheolwr llinell roi gwybod i'r gweithiwr newydd y bydd yna o leiaf ddau gyfarfod adolygu cyfnod prawf yn ystod y cyfnod prawf o dri mis. Gellir trefnu mwy o gyfarfodydd adolygu yn ôl yr angen i gefnogi'r gweithiwr i gyrraedd cerrig milltir ei gyfnod prawf.
Dylid cytuno ar ddyddiadau'r cyfarfodydd adolygu yn y cyfnod prawf fel rhan o'r broses ymsefydlu.
Fel arfer da yn ystod y pedair i chwe wythnos gyntaf o gyflogaeth, argymhellir bod amser yn cael ei neilltuo bob wythnos i drafod:
Sut mae'r gweithiwr yn ymdopi â dyletswyddau'r swydd?
A oes unrhyw heriau wedi codi?
A oes unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu wedi'u nodi?
A oes unrhyw faterion sefydliadol sydd ddim yn glir?
A yw'r gweithiwr yn setlo i'r tîm?
A yw presenoldeb, ymddygiad a sgiliau rheoli amser y gweithiwr yn foddhaol?
Disgwylir y bydd rheolwyr yn delio ag unrhyw bryderon ynghylch perfformiad gwaith neu ymddygiad wrth iddynt godi a pheidio ag aros tan y cyfarfodydd adolygu cyfnod prawf. Mae delio â phroblemau'n gynnar yn golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu datrys yn llwyddiannus.
