Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Hyd a lled y Weithdrefn
- 3. Rolau a Chyfrifoldebau
- 4. Y Weithdrefn
- 5. Cyfarfod Cyntaf i Adolygu'r Cyfnod Prawf - Rhwng Pedair a Chwe Wythnos
- 6. Yr Ail Gyfarfod / Cyfarfod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Hwb Fod yn Hwyrach Na Thri Mis
- 7. Y Trydydd Cyfnod / Cyfnod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Heb Fod yn Hwyrach Na Phum Mis
- 8. Absenoldeb Salwch yn Ystod y Cyfnod Prawf
- 9. Canlyniadau Posibl ar Ddiwedd y Cyfnod Prawf
- 10. Apêl yn Erbyn Diswyddo
- 11. Cyfnodau Rhybudd
- 12. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Asesiad o'r Cyfnod Prawf
9. Canlyniadau Posibl ar Ddiwedd y Cyfnod Prawf
Ar ddiwedd y cyfnod prawf o dri mis, neu ar ddiwedd unrhyw gyfnod prawf estynedig o hyd at bum mis, mae dau ganlyniad posibl:
Cadarnhau'r penodiad.
Diswyddo'r gweithiwr.
CADARNHAU'R PENODIAD
Os yw'r gweithiwr yn dangos bod pob agwedd ar ei berfformiad a'i ymddygiad yn foddhaol, dylai'r rheolwr llinell ysgrifennu i gadarnhau ei benodiad cyn y chweched mis ar ôl ei benodiad.
DISWYDDO'R GWEITHIWR
Os nad yw perfformiad y gweithiwr yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch neu lefelau presenoldeb yn foddhaol ac mae'r rheolwr llinell eisoes wedi ymestyn y cyfnod prawf gwreiddiol o dri mis, dylid gwahodd y gweithiwr i gyfarfod gyda'r Pennaeth Gwasanaeth Adrannol neu gynrychiolydd enwebedig, i drafod terfynu ei gyflogaeth.
Dylid rhoi gwybod i'r gweithiwr y gall cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur cydnabyddedig ddod gydag ef/hi. Pwrpas y cyfarfod fydd egluro'r rhesymau dros y bwriad i'w ddiswyddo (h.y. perfformiad anfoddhaol) a bydd y gweithiwr yn cael cyfle i ymateb os yw'n dymuno. Bydd y Partner Busnes Adnoddau Dynol hefyd yn bresennol yn y cyfarfod hwn.
Rhaid i'r penderfyniad i ddiswyddo gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y rheolwr llinell o fewn saith niwrnod calendr. Os nad yw hyn yn ymarferol, gellir ymestyn y terfyn amser hwn trwy gytundeb ar y cyd a dylid rhoi rhybudd o un wythnos galendr i'r gweithiwr.
Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod prawf o chwe mis.
