Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

7. Y Trydydd Cyfnod / Cyfnod Terfynol i Adolygu'r Cyfnod Prawf i'w Gynnal Heb Fod yn Hwyrach Na Phum Mis

Pan fo'r cyfnod prawf wedi'i ymestyn, rhaid i'r cyfarfod terfynol i adolygu'r cyfnod prawf gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd y pumed mis o gyflogaeth. Pwrpas y cyfarfod yw adolygu perfformiad yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch a lefelau presenoldeb. Dylid rhoi adborth adeiladol i'r gweithiwr gan dynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd yn ogystal ag unrhyw feysydd lle nad yw'n perfformio i'r safon ofynnol. Rhaid rhoi enghreifftiau bob amser.

Os yw'n amlwg yn y cyfarfod hwn bod perfformiad y gweithiwr yn erbyn y targedau/amcanion a osodwyd, ymddygiad, rheoli amser, absenoldeb salwch neu lefelau presenoldeb yn parhau i beri pryder, gall y rheolwr llinell benderfynu dod â'r cyfnod prawf i ben ar ôl ceisio cyngor gan yr adran Adnoddau Dynol. Os nad yw'r cam gweithredu hwn yn briodol yn dilyn cyngor gan yr adran Adnoddau Dynol, rhaid i'r rheolwr roi gwybod i'r gweithiwr y bydd yn cael ei wahodd i fynd i gyfarfod terfynol i drafod terfynu ei gyflogaeth cyn iddo gwblhau chwe mis o gyflogaeth.

Bydd unrhyw gefnogaeth neu gymorth a nodwyd yn parhau i gael ei gynnig yn ystod y cyfnod prawf cyfan hyd at ddyddiad cadarnhau'r swydd neu'r penderfyniad i ddiswyddo.

Os yw perfformiad ac ymddygiad yn cyrraedd y safon ofynnol ar y pwynt hwn yna gellir cadarnhau'r penodiad.