Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

10. Apêl yn Erbyn Diswyddo

Os yw'r gweithiwr yn dymuno apelio, rhaid iddo wneud hynny yn ysgrifenedig at y Cyfarwyddwr Adrannol o fewn un wythnos galendr. Bydd cyfarfod apêl ffurfiol yn cael ei drefnu lle mae gan y gweithiwr yr hawl i fod yng nghwmni Swyddog Undeb Llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr. Bydd y Cyfarwyddwr neu ei gynrychiolydd enwebedig ynghyd â Phartner Busnes Adnoddau Dynol yn gwrando ar yr apêl ac yn hysbysu'r gweithiwr yn ysgrifenedig o'r penderfyniad. Nid oes rhaid trefnu'r cyfarfod hwn cyn i'r diswyddiad ddod i rym. Mae'r cyfarfod apêl a'r penderfyniad yn derfynol ac nid oes hawl i apelio ymhellach o fewn yr Awdurdod.