Rheoli Gweithwyr sydd ar Gyfnod Prawf - Tachwedd 2026

1. Cyflwyniad

Mae'r gwaith o gynllunio ar gyfer gweithiwr newydd yn dechrau cyn iddo ddechrau gweithio i'r Awdurdod, yn ystod y cam recriwtio. Dylai rheolwyr recriwtio sicrhau bod proffiliau swydd yn adlewyrchu dyletswyddau'r rôl yn gywir, bod meini prawf dethol clir a mesuradwy ar waith a bod proses recriwtio a dethol gadarn yn cael ei dilyn i sicrhau bod ymgeiswyr yn addas ac yn abl.

Dylai rheolwyr llinell hefyd sicrhau bod gweithdrefnau ymsefydlu a chynefino lleol yn addas i'r diben a'u bod ar waith cyn bod y gweithiwr newydd yn dechrau gweithio.

Mae'r polisi hwn yn esbonio proses yr Awdurdod ar gyfer rheoli cyfnodau prawf ar ôl i weithiwr newydd ddechrau gweithio i'r Awdurdod. Mae pob gweithiwr newydd i'r Awdurdod yn cael cyfnod prawf o hyd at dri mis cyn i'w penodiad gael ei gadarnhau oni bai y nodir fel arall yn y contract cyflogaeth.

Mae cyfnodau prawf yn rhoi cyfle i'r Awdurdod asesu addasrwydd gweithiwr newydd yn y rôl y mae wedi'i benodi iddi ac i'r gweithiwr ddangos ei allu i gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol, cael cyfle i ddod yn gyfarwydd â phrif ddyletswyddau a thasgau ei swydd a dangos y safon perfformiad, ymddygiad, presenoldeb ac ymarweddiad a ddisgwylir ganddo/ganddi.

Bydd gweithwyr newydd yn cael arfarniad cychwynnol yn ystod wythnos gyntaf dechrau eu cyflogaeth a byddant yn cael amcanion a thargedau gosod sy'n briodol i'r rôl, i'w cynorthwyo i gyrraedd y lefel ofynnol o berfformiad ac ymddygiadau er mwyn iddynt gael eu cadarnhau yn y rôl ar ôl tri mis.

Os yw gweithiwr newydd yn gweithio mewn rôl sy'n addas ar gyfer gweithio hybrid, cynghorir yn gryf ei fod yn mynychu'r gweithle'n amlach yn ystod ei gyfnod prawf, o dan oruchwyliaeth a rheolaeth reolaidd ei reolwr llinell, er mwyn cefnogi ei ddatblygiad a'i ddealltwriaeth o'i rôl a'r broses o'i integreiddio i'r tîm.

Bydd angen cynllun ymsefydlu a chymorth hefyd ar weithwyr sy'n gweithio yn y gymuned sy'n cefnogi arferion diogel, yn ogystal â goruchwyliaeth a rheolaeth reolaidd gan reolwr llinell wrth gyflawni ei ddyletswyddau yn y gymuned.