Cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith

Diweddarwyd y dudalen: 01/06/2023

Rhaid i'r rheolwr llinell gynnal cyfweliad dychwelyd i'r gwaith (CDIG) pan fydd aelod o staff yn dychwelyd o gyfnod o absenoldeb a'i gofnodi ar y ffurflen cyfweliad dychwelyd i'r gwaith. Gwneir hyn beth bynnag bo hyd yr absenoldeb. Rhaid cynnal y cyfarfod yn breifat a rhaid ei drin mewn modd sensitif, proffesiynol a chymwys. Mae canllawiau ar gael i’ch helpu I gwblhau’r ffurflen CDIG - Sut i lenwi’r Ffurflen Cyfweliad Dychwelyd i’r Gwaith.

Dylai'r cyfweliadau Dychwelyd i'r Gwaith gael eu hystyried yn gyfle i drafod unrhyw broblemau iechyd a phroblemau cysylltiedig eraill yn agored mewn ffordd gefnogol gyda'r bwriad o fynd i'r afael â materion yn gynnar a gwella presenoldeb yn y gwaith.

Dyddiad Cyfweld Dychwelyd i'r Gwaith

Cyfrifoldeb y Rheolwr Llinell yw cofnodi'r dyddiad cyfweliad dychwelyd i'r gwaith (CDIG) fel a ganlyn:
Ar gyfer rheolwyr sy’n mewnbynnu salwch trwy ‘My View’:
  • Gellir mewnbynnu’r dyddiad ar y sgrin salwch berthnasol ar yr amod nad yw’r cofnod salwch ar gyfer y cyfnod hwnnw wedi’i gyflwyno.
  • Os yw'r salwch eisoes wedi'i brosesu, bydd angen i'r rheolwr llinell gysylltu â'r Tîm Absenoldeb trwy e-bost gan ddarparu dyddiad y cyfweliad a gofyn am ddiweddaru cofnod y gweithiwr.
Ar gyfer rheolwyr sy'n cyflwyno absenoldeb salwch, dychwelwch i'r Tîm Absenoldeb:
  • Rhaid nodi'r dyddiad RTWI ar y ffurflen (adran 6) ar gyfer prosesu.

Dylai'r rheolwr llinell gynnal cyfarfod dychwelyd i'r gwaith er mwyn:

  • Croesawu'r aelod o staff yn ôl i'r gwaith
  • Sicrhau bod yr aelod o staff yn hollol ffit i ddychwelyd i'r gwaith
  • Nodi rheswm yr absenoldeb
  • Darganfod a oes ganddo Anabledd ac a yw darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol
  • Nodi unrhyw broblem (yn gysylltiedig â'r gwaith neu fel arall) a allai fod yn achosi'r absenoldebau neu'n cyfrannu atynt, a mynd i'r afael â hyn
  • Cadarnhau manylion dychwelyd i'r gwaith y cytunwyd arno ar sail cyngor oddi wrth Iechyd Galwedigaethol
  • Cadarnhau unrhyw addasiadau i'r gweithle/oriau/dyletswyddau
  • Diweddaru gweithwyr am unrhyw newyddion tra roeddent i ffwrdd
  • Sicrhewch fod gennych y wybodaeth gywir
  • Gwiriwch absenoldebau presennol a blaenorol, a yw'r gweithiwr wedi cyrraedd pwynt sbardun neu'n agosáu at un
  • Pennwch unrhyw dueddiadau neu batrymau o absenoldeb
  • Meddyliwch am sut y byddech yn ymateb i unrhyw geisiadau e.e., gweithio hyblyg
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â pholisïau
  • Byddwch yn barod i drafod absenoldeb y gweithiwr yn fanwl

Mae'n rhaid cynnal y drafodaeth hon ar y diwrnod cyntaf ar ôl i'r gweithiwr ddychwelyd i'r gwaith neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Cynhelir y drafodaeth yn anffurfio a bydd y rheolwr llinell yn cwblhau ffurflen Cyfweliad dychwelyd i'r gwaith y bydd y rheolwr a'r gweithiwr yn ei llofnodi. Bydd cynnwys y drafodaeth dychwelyd i'r gwaith yn amrywio yn ôl yr unigolyn, ond gall gynnwys y canlynol:

  • Esbonio diben y cyfarfod dychwelyd i'r gwaith
  • Ceisio pennu rheswm yr absenoldeb os nad yw eisoes yn amlwg
  • Pennu a yw ei salwch yn gysylltiedig â'r gwaith a ph'un a oes unrhyw faterion iechyd a diogelwch y mae angen i chi fynd i'r afael â hwy
  • Os yw'r unigolyn yn agosáu at bwynt sbardun, neu wedi cyrraedd un, esboniwch hyn a beth fydd y camau nesaf
  • A ellir rhoi unrhyw addasiad a argymhellwyd gan Iechyd Galwedigaethol ar waith er mwyn lleihau absenoldeb neu ei ddileu
  • A oes unrhyw broblemau eraill sy'n cyfrannu at yr absenoldeb
  • Cytuno ar gynllun gweithredu a rennir

Adnoddau Dynol