Absenoldeb sy'n gysylltiedig â COVID-19

Diweddarwyd y dudalen: 29/09/2023

Dylid rheoli holl heintiau anadlol gan gynnwys Covid-19 yn unol â'n gweithdrefnau Absenoldeb Salwch arferol ac Amser o'r Gwaith

Sylwch fod gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar wahân yn eu lle ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol a gweithlu ysgolion arbennig:

 

Y pethau allweddol y mae angen ichi eu gwybod fel rheolwr:

  • Nid oes gofyniad cyfreithiol i hunanynysu os yw rhywun wedi profi'n bositif am COVID-19, neu os oes gan rywun y prif symptomau .
  • Os oes gan weithiwr symptomau COVID-19 ac nad yw'n ddigon iach i weithio, yna bellach dylid cofnodi hyn fel absenoldeb salwch o dan godau galwedigaethol safonol ar gyfer haint anadlol. Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chofnodi absenoldeb ar ein tudalennau Absenoldeb Salwch ar y fewnrwyd.
  • Dylid cynnwys pob absenoldeb salwch, gan gynnwys Covid symptomatig, at ddibenion y pwyntiau trothwy ffurfiol o fewn y polisi a'r gweithdrefnau o ran Absenoldeb Salwch.
  • Os oes gan weithiwr haint anadlol a'i fod yn ddigon iach i weithio, dylid ystyried mesurau lliniaru priodol yn unol â Chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru megis:
  • Cyfarfod yn yr awyr agored lle bo'n bosibl a sicrhau bod yr ystafell wedi'i hawyru'n dda os ydych yn cwrdd dan do.
  • Cymryd gofal ychwanegol wrth ymweld â phobl sy'n agored i niwed ac osgoi cwrdd â nhw, os yw'n bosibl, os oes gennych symptomau haint anadlol.
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd, gorchuddio eich ceg a'ch trwyn wrth beswch a thisian, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau lle rydych yn dod i gysylltiad agos â phobl.
  • Gweithio gartref os oes modd gwneud y swydd gartref.
  • Ystyried dyletswyddau amgen lle bo hynny'n bosib.
  • Hefyd mae gweithwyr yn cael eu hannog i gael eu brechu ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu pigiadau atgyfnerthu COVID-19 a'u brechiad rhag y ffliw. Bydd unrhyw geisiadau am amser o'r gwaith ar gyfer unrhyw frechiad yn cael eu rheoli yn unol â'r polisi Amser o'r Gwaith.
  • Mae'n parhau i fod yn ddyletswydd gyfreithiol i gael asesiad risg unigol ar waith ar gyfer gweithwyr newydd a gweithwyr beichiog.
  • Mae ein Tîm Iechyd Galwedigaethol yn dal i dderbyn atgyfeiriadau newydd lle mae angen cyngor ynghylch bod yn ddigon iach i weithio a / neu lesiant fel y gall gweithwyr barhau i weithio neu ddychwelyd i'r gwaith.
  • Hoffem eich atgoffa fod y Cyngor wedi cytuno i ad-dalu'r gost o gael brechiad rhag y ffliw ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn gymwys i gael y brechiad am ddim. Gellir hawlio ad-daliad trwy gyfrif My View y gweithiwr, sydd bellach ar gael o unrhyw ddyfais, drwy ddewis yr adran treuliau - bydd angen derbynneb fel prawf.

 

Gofynnir i chi sicrhau bod eich holl dimau yn ymwybodol o'r wybodaeth hon.

 

 

 

Adnoddau Dynol