Rhannu absenoldeb rhiant

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Lle mae plentyn yn cael ei eni i fam benthyg croth, gall y darpar rieni ddod yn rhieni cyfreithiol y plentyn drwy wneud cais am orchymyn rhiant. Rhaid i un o’r darpar rieni fod â chysylltiad genetig i’r plentyn a rhaid i’r plentyn fyw gyda’r darpar rieni.

Lle mae gan gwpwl orchymyn rhiant mewn cysylltiad â phlentyn, neu’n gwneud cais am un, gall un o’r rhieni fod yn gymwys am absenoldeb a chyflog mabwysiadu a’r llall yn gymwys am absenoldeb a chyflog tadolaeth. Rhaid i’r cwpwl ddewis pa un fydd yn cymryd yr absenoldeb mabwysiadu. Gall gweithiwr sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu yn yr amgylchiadau hyn gwtogi ei absenoldeb mabwysiadu a chymryd SPL gyda’r rhiant arall, ar yr amod bod y ddau riant yn cwrdd â’r gofynion cymhwyso perthnasol.

Mae absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth ac SPL ar gael i weithwyr sydd neu'n disgwyl bod yn rhieni i blentyn o dan orchymyn rhiant, lle mae wythnos geni ddisgwyliedig y plentyn yn dechrau ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015.

Dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell eich bod eisiau cymryd SPL drwy lenwi’r ffurflen gymhwyso.

Os chi yw mam / prif fabwysiadwr y plentyn, bydd hyn yn cynnwys rhoi rhybudd eich bod yn bwriadu cwtogi eich absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu.

Os eich partner yw mam / prif fabwysiadwr y plentyn, bydd angen i chi gadarnhau eu bod wedi rhoi rhybudd eu bod yn bwriadu cwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu.

Unwaith y bydd eich cymhwyster i gymryd SPL wedi’i gadarnhau, dylech chi a’ch partner drafod eich patrymau absenoldeb.

Gallwch chi a’ch partner ddewis cymryd SPL ar yr un pryd, neu ar wahanol adegau, cyn belled nad yw cyfanswm yr absenoldeb yn fwy na’r hyn sydd ar gael i’r ddau ohonynt.

Gallwch ddewis cymryd absenoldeb di-dor, sef bloc o absenoldeb parhaus gydag un dyddiad dechrau a dyddiad gorffen, neu absenoldeb ysbeidiol sy’n batrwm absenoldeb lle’r ydych yn dychwelyd i weithio rhwng dau gyfnod o SPL neu fwy.

Er enghraifft, os rhowch rybudd eich bod yn bwriadu gorffen eich absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu, gallwch drosi gweddill yr absenoldeb yn SPL i’w rannu rhyngoch chi a’ch partner.

Gallai eich partner yna ddewis cymryd cyfnod o SPL yn ystod eich absenoldeb mamolaeth, neu ar ôl i chi ddychwelyd i weithio. Gallech hefyd ddewis cymryd cyfnodau o SPL bob yn ail â chyfnodau gweithio, felly pan fyddech yn gweithio bod eich partner ar absenoldeb, neu fel arall.

Mae nifer o ofynion. Mae prawf mewn dau gam i fod yn gymwys am SPL.

Rhaid i chi fod yn gymwys eich hun, a rhaid i’ch partner hefyd gwrdd â gofynion cymhwyso penodol.

Fel y fam / prif fabwysiadwr, er mwyn cymryd SPL, rhaid i chi fod â hawl i dâl mamolaeth / mabwysiadu statudol, tâl mamolaeth statudol neu lwfans mamolaeth.

Rhaid i chi:

  • Fod wedi gweithio am gyfnod di-dor o 26 wythnos gyda’r Awdurdod yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Bod wedi gweithio’n ddi-dor gyda’r Awdurdod tan yr wythnos cyn unrhyw gyfnod SPL.
  • Bod yn bennaf gyfrifol (ar wahân i’ch partner) am ofalu am y plentyn.
  • Cydymffurfio â’r gofynion cwtogi mamolaeth / mabwysiadu perthnasol (sy’n dod â’ch absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu i ben) neu fod wedi dychwelyd i weithio cyn i’ch absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu statudol ddod i ben.
  • Darparu’r gofynion tystiolaeth a rhybudd o SPL.

Rhaid i’ch partner:

  • Fod wedi gweithio am gyfnod di-dor o 26 wythnos (neu’n hunangyflogedig) yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Bod wedi gweithio’n ddi-dor tan yr wythnos cyn unrhyw gyfnod SPL.
  • Bod wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig am 26 wythnos o’r 66 wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu ac wedi ennill o leiaf £30 yr wythnos ar gyfartaledd am 13 o'r wythnosau hynny.
  • Ar ddyddiad geni'r plentyn neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu, rhaid i chi fod y person gyda’r prif gyfrifoldeb (ar wahân i’r fam / prif fabwysiadwr) i ofalu am y plentyn.
  • Cydymffurfio â'r gofynion tystiolaeth a rhybudd SPL perthnasol.

Dowch o hyd i’r dydd Sul cyn dyddiad geni disgwyliedig eich plentyn (neu’r dyddiad geni disgwyliedig os dydd Sul yw hwnnw) a chyfri’n ôl 15 dydd Sul oddi yno. Dyna ddechrau’r 15fed wythnos cyn wythnos geni ddisgwyliedig eich plentyn neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.

Ar gyfer mamau beichiog dylech ddefnyddio’r dyddiad geni disgwyliedig ar y dystysgrif MAT B1 a gawsoch gan eich bydwraig neu feddyg teulu pan oeddech yn feichiog o tua 20 wythnos.

Ydy, gall gweithiwr fod yn gymwys am SPL os yw ei bartner neu ei phartner yn hunangyflogedig, cyn belled ag y bo’r partner yn cwrdd â’r gofynion perthnasol o ran cyflogaeth ac enillion.

Rhaid i bartner y gweithiwr:

  • fod wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig am unrhyw ran o’r wythnos am o leiaf 26 allan o’r 66 wythnos yn union cyn wythnos geni ddisgwyliedig y plentyn (neu wythnos hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu); a
  • bod ag enillion wythnosol cyfartalog o £30 o leiaf mewn unrhyw 13 allan o’r 66 wythnos hynny.

Er enghraifft, os yw tad plentyn, neu bartner y fam / prif fabwysiadwr, yn hunangyflogedig ac yn bodloni’r prawf cyflogaeth ac enillion, gall y fam / prif fabwysiadwr gymryd SPL ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion cymhwyso.

Er na fydd y fam / prif fabwysiadwr yn gallu rhannu’r absenoldeb â’u partner os nad yw ef neu hi’n weithiwr, gall y fam / prif fabwysiadwr ddewis cwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / tadolaeth a chymryd SPL yn ei le, fel y gallant gymryd eu habsenoldeb mewn ffordd fwy hyblyg, h.y. mewn mwy nag un bloc.

Bydd, bydd gweithwyr cymwys dal yn gallu cymryd wythnos neu bythefnos o absenoldeb tadolaeth arferol yn ystod y 56 diwrnod cyntaf ar ôl geni plentyn. Ni fydd cyflwyno SPL yn effeithio ar hyn. Fodd bynnag, o dan Reoliad 4 Rheoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu (Diwygio) 2014 (SI 2014/2112) ni all gweithiwr gymryd absenoldeb tadolaeth arferol os yw ef neu hi eisoes wedi cymryd cyfnod o SPL yng nghyswllt yr un plentyn.

Felly gall gweithiwr ddewis cymryd absenoldeb tadolaeth arferol a SPL ond rhaid i’r cyfnod o absenoldeb tadolaeth arferol ddod yn gyntaf.

Gallwch rannu hyd at 50 wythnos. Rhaid i chi gymryd y pythefnos gyntaf ar ôl geni / lleoli’r plentyn fel absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu gorfodol.

Er enghraifft, rhaid i chi gymryd y pythefnos gyntaf ar ôl geni / lleoli’r plentyn ac os penderfynwch gymryd 18 wythnos o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu allan o’ch hawl o 52 wythnos, gallech drosi’r 34 wythnos arall yn SPL. Gallwch yna rannu’r absenoldeb hwn rhyngoch chi a’ch partner.

Byddwch, ac eithrio’r pythefnos cyntaf o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu ar ôl geni / lleoli’r plentyn, sy’n orfodol i'r fam / prif fabwysiadwr eu cymryd. Gallai eich partner fod yn gymwys am Absenoldeb Tadolaeth bryd hynny.

Gall y rhieni rannu 52 wythnos o SPL, llai faint o absenoldeb mamolaeth a gymerwyd gan y fam, neu’r absenoldeb mabwysiadu a gymerwyd gan y prif fabwysiadwr.

Rhaid cymryd pob absenoldeb cyn pen-blwydd y plentyn yn flwydd oed, neu ymhen blwyddyn o ddyddiad lleoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

Er enghraifft, gallai’r fam / prif fabwysiadwr gymryd pythefnos o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu gorfodol wedi’i ddilyn gan 40 wythnos o SPL. Byddai hyn yn gadael 10 wythnos o SPL i’r tad (neu bartner y fam / prif fabwysiadwr), i'w gymryd ar unrhyw adeg cyn pen-blwydd y plentyn yn flwydd oed, naill ai ar yr un pryd â’r fam / prif fabwysiadwr neu pan fydd hi / ef wedi dychwelyd i weithio.

Gallai, os yw’r fam / prif fabwysiadwr wedi rhoi rhybudd cwtogi absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu i’w chyflogwr, a bodlonir yr holl feini prawf cymhwyso a’r gofynion rhybudd, gall partner y fam / prif fabwysiadwr ddechrau cyfnod o SPL pan fydd y fam / prif fabwysiadwr yn dal i fod ar absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu.

Er enghraifft, gallai’r fam / prif fabwysiadwr roi rhybudd cwtogi absenoldeb a nodi y bydd ei habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu’n dod i ben dri mis o ddyddiad y rhybudd. Gall partner y fam / prif fabwysiadwr gymryd SPL (drwy roi rhybudd o wyth wythnos o leiaf) ar unrhyw adeg ar ôl i’r fam / prif fabwysiadwr gyflwyno eu rhybudd cwtogi absenoldeb; nid oes raid iddo / iddi aros tan fydd y tri mis hwn wedi mynd heibio.

Gallant. Gall gweithiwr gymryd SPL gyda’i briod, partner sifil neu bartner. Diffinnir partner fel rhywun (p’un ai o wahanol ryw neu’r un rhyw) sy’n byw gyda’r gweithiwr mewn perthynas deuluol barhaus (ond lle nad yw’n rhiant, ŵyr neu wyres, taid neu nain, brawd neu chwaer, modryb neu ewythr, nith neu nai i’r plentyn).

Rhaid i chi rhybudd o wyth wythnos o leiaf i ni eich bod am gymryd SPL.

Mae nifer o wahanol rybuddion y mae’n rhaid i chi eu rhoi cyn y gallwch gymryd SPL.

Cyn y gall y naill riant neu’r llall gymryd SPL, rhaid i’r fam / prif fabwysiadwr roi rhybudd cwtogi absenoldeb i’w cyflogwr gan nodi’r dyddiad pryd y maen nhw am ddod â'u habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu i ben. Rhaid rhoi’r rhybudd dim hwyrach nag wyth wythnos cyn dechrau’r cyfnod cyntaf o SPL a gymerir gan y naill riant neu’r llall.

Ar yr un pryd ag y bydd y fam / prif fabwysiadwr yn rhoi rhybudd cwtogi absenoldeb, rhaid iddynt roi i’w cyflogwr:

  • rhybudd o hawl a bwriad i gymryd SPL gan roi gwybodaeth i’r cyflogwr sy’n cynnwys faint o SPL y bydd y rhieni’n bwriadu ei gymryd ynghyd â syniad o bryd y bydd y fam yn bwriadu cymryd yr absenoldeb (ni fyddant wedi eu clymu i hyn); neu
  • datganiad yn nodi bod eu partner wedi rhoi rhybudd o hawl a bwriad i gymryd SPL i’w cyflogwr hwythau a’u bod yn cytuno i’w partner gymryd y cyfnod hwnnw o absenoldeb.

Rhaid i’r gweithiwr, p’un ai’n fam / prif fabwysiadwr neu'n bartner, roi rhybudd o hawl a bwriad i gymryd SPL i’w cyflogwr dim hwyrach nag wyth wythnos cyn dechrau eu cyfnod cyntaf o SPL.

Dim hwyrach nag wyth wythnos cyn pob cyfnod o SPL, rhaid i’r gweithiwr sy’n cymryd yr absenoldeb hefyd roi rhybudd o gyfnod absenoldeb i’w cyflogwr yn nodi dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod(au) o absenoldeb y gofynnwyd amdano.

Pan ofynnwch am SPL, gallwch ofyn am floc di-dor neu gyfnodau ysbeidiol o ddim llai nag wythnos yr un. Fodd bynnag gallwn wrthod cais am absenoldeb ysbeidiol, ac os felly bydd gennych hawl i gyfnod di-dor o SPL.

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a’r holl ofynion eraill, gan gynnwys y gofynion rhybudd a thystiolaeth, os gwnewch gais am gyfnod di-dor o SPL byddwn yn cytuno iddo. Os gwnewch gais am gyfnodau ysbeidiol o SPL, efallai y gwrthodwn eich cais. Wele’r cwestiwn blaenorol os gwelwch yn dda.

Bydd pob cais yn cael ei hystyried ar ei haeddiant. Bydd anghenion y busnes yn un o’r prif ystyriaethau.

Pan dderbyniwn rybudd gennych eich bod yn bwriadu cymryd SPL, gallwn ofyn am gopi o dystysgrif geni / tystysgrif paru’r plentyn ac enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner. Rhaid i chi roi hyn i ni o fewn 14 diwrnod i ni ofyn amdano.

Os gofynnwn am gopi o’r dystysgrif geni cyn i’r plentyn gael ei eni, rhaid i chi roi'r dystysgrif i ni o fewn 14 diwrnod i’r enedigaeth.

Ni fydd y wybodaeth yma’n ddigon i ni fod yn gallu cadarnhau bod gennych hawl i SPL. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn dibynnu ar y datganiadau a gawsom gennych chi a’ch partner eich bod yn bodloni’r amrywiol ofynion cymhwyso. Ni ddisgwylir i ni wirio, er enghraifft, beth yw enillion a hanes cyflogaeth eich partner.

Gallwn gysylltu â chyflogwr eich partner i wirio a oes gan eich partner hawl i SPL neu beidio ond ni fyddai cyflogwr eich partner yn gallu rhoi’r wybodaeth am eu gweithiwr i ni heb ei ganiatâd ef neu hi.

Dylech fod yn ymwybodol y bydd cyflwyno datganiad ffug bod gennych hawl i SPL a / neu dâl yn cael ei drin fel mater disgyblu.

Gallwch gyflwyno hyd at dri rhybudd SPL gan roi dim llai nag wyth wythnos o rybudd.

Gallwch ganslo neu amrywio rhybudd gan roi dim llai nag wyth wythnos o rybudd ysgrifenedig. Bydd y diwygiad hwn yn cyfrif fel un o’r tri rhybudd SPL.

Os byddwch yn gymwys am SPL gallwch ofyn i gael cymryd cyfnodau ysbeidiol o absenoldeb, h.y. cymryd cyfnod o SPL, yna dychwelyd i weithio, yna cymryd cyfnod pellach o SPL.

Rhaid cymryd pob SPL mewn bloc o wythnos o leiaf. Rhaid cymryd pob absenoldeb cyn pen-blwydd y plentyn yn flwydd oed, neu ymhen blwyddyn o ddyddiad lleoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

Pan rowch rybudd o gyfnod o absenoldeb i ni, gallwch ofyn naill ai am un bloc o absenoldeb neu gyfnodau ysbeidiol o absenoldeb. Os gofynnwch am absenoldeb ysbeidiol, gallwn wrthod y cais a gofyn i chi dynnu’r cais yn ôl neu gymryd yr absenoldeb mewn un bloc di-dor. Fodd bynnag, os gofynnwch am gyfnod di-dor o absenoldeb, rhaid i ni gytuno iddo.

Gallwch gyflwyno hyd at dri rhybudd absenoldeb ar wahân. Felly gallwch gymryd tri bloc ar wahân o absenoldeb ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd gwahanol i ni o bob cyfnod absenoldeb, o leiaf wyth wythnos cyn iddo ddechrau.

Gallwch, mae’n bosib i chi newid eich meddwl ynghylch pryd y bwriadwch gymryd SPL ar wahanol adegau yn y weithdrefn.

Gallwch amrywio neu ganslo eich dyddiadau SPL arfaethedig ar ôl rhoi rhybudd o hawl a bwriad, sy’n rhoi syniad o’r patrwm absenoldeb y bwriadwch ei gymryd, ond ni fyddwch wedi eich clymu i’r patrwm hwn tan i chi roi rhybudd o gyfnod absenoldeb ar gyfer y cyfnod absenoldeb dan sylw. Ni chyfyngir ar faint o amrywiadau o rybudd o hawl a bwriad y gallwch eu gwneud.

Unwaith y byddwch wedi rhoi rhybudd o gyfnod absenoldeb, gallwch amrywio neu ganslo’r dyddiadau SPL drwy roi rhybudd ysgrifenedig o wyth wythnos o leiaf i ni. Gallwch gyflwyno hyd at dri rhybudd o gyfnod o absenoldeb gwahanol ac mae rhybudd amrywio’n cyfrif fel un o’r tri hwn.

Lle'r ydych wedi cyflwyno rhybudd o gyfnod absenoldeb yn gofyn am absenoldeb ysbeidiol a ninnau wedi gwrthod y cais neu heb ddod i gytundeb o fewn pythefnos ynghylch pryd y gellir cymryd yr absenoldeb, gallwch dynnu’r rhybudd o gyfnod absenoldeb yn ôl. Nid yw rhybudd o absenoldeb ysbeidiol a dynnwyd yn ôl cyn cytuno iddo’n cyfrif fel un o’r tri chais am absenoldeb y gallwch eu gwneud.

Felly os cyflwynwch gais am gyfnod ysbeidiol o absenoldeb, ar ôl cynllunio patrwm o absenoldeb gyda’ch partner, os bydd angen i chi newid eich cynlluniau oherwydd nad yw cyflogwr eich partner yn cytuno i'r patrwm absenoldeb, byddwch naill ai’n gallu tynnu’r rhybudd yn ôl a chyflwyno cais diwygiedig, neu os ydyn ni eisoes wedi cytuno i’r cais, gallwch gyflwyno rhybudd amrywio ar yr amod nad ydych eisoes wedi cyflwyno'r uchafswm o dri rhybudd absenoldeb neu amrywio.

Os cyflwynwch dri rhybudd absenoldeb ar wahân yn gofyn am dri chyfnod ar wahân o SPL, h.y. un cyfnod o absenoldeb di-dor i bob rhybudd, ni allwn wrthod y ceisiadau. Rhaid i ni adael i chi gymryd cyfnod o absenoldeb ar y dyddiadau a ofynnir gennych lle mae’r rhybudd o gyfnod absenoldeb yn gofyn am gyfnod di-dor o absenoldeb a lle rhoddwyd y rhybudd o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad dechrau’r absenoldeb.

Gallwch gyflwyno hyd at dri ‘rhybudd o gyfnod absenoldeb’ ar wahân.

Fodd bynnag, os cyflwynwch un rhybudd o gyfnod absenoldeb yn gofyn am absenoldeb ysbeidiol dros dri chyfnod, e.e. pythefnos o absenoldeb yn dechrau ar 1 Mai, pedair wythnos o absenoldeb yn dechrau ar 1 Gorffennaf a phythefnos o absenoldeb yn dechrau ar 1 Tachwedd, gallwn wrthod eich cais.

Byddwch, mae hyd at 37 wythnos o dâl rhiant statudol a rennir ar gael i rieni ei rannu rhyngddynt tra byddwch ar SPL.

Gall mam / prif fabwysiadwr plentyn ddewis cwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu a’u tâl mamolaeth statudol (SMP) / tâl mabwysiadu statudol (SAP) a chymryd SPL a thâl rhiant statudol a rennir â’u partner, neu dad y plentyn. Mae 39 wythnos o dâl rhiant statudol a rennir ar gael i’r rhieni ei rannu, llai faint o SMP/SAP neu lwfans mamolaeth sydd eisoes wedi’i gymryd gan y fam / prif fabwysiadwr. Ni all y fam / prif fabwysiadwr gwtogi eu habsenoldeb a thâl mamolaeth / mabwysiadu tan ddiwedd y cyfnod gorfodol o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu (pythefnos), felly 37 wythnos yw uchafswm y tâl rhiant a rennir sydd ar gael.

Er enghraifft, os yw’r fam yn cymryd absenoldeb mamolaeth o 30 wythnos a’r tad wedyn yn cymryd 12 wythnos o SPL, yna’r fam yn cymryd 10 wythnos o SPL; byddai tâl mamolaeth statudol o 30 wythnos yn cael ei dalu i’r fam a thâl rhiant statudol a rennir yn cael ei dalu i'r partner am naw wythnos gyntaf ei absenoldeb (ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion cymhwyso perthnasol).

Telir tâl rhiant statudol a rennir ar y gyfradd safonol, £156.66 ar hyn o bryd, neu 90% o enillion arferol y gweithiwr os yw hyn yn llai). Yn wahanol i SMP/SAP, nid oes darpariaeth i dalu 90% o enillion gweithwyr am chwe wythnos gyntaf eu cyfnod tâl rhiant statudol a rennir lle mae hyn yn uwch na’r gyfradd statudol. Felly os yw gweithiwr sy’n derbyn SMP/SAP ar y gyfradd uwch o 90% o’i henillion yn newid drosodd i’r tâl rhiant statudol a rennir yn ystod chwe wythnos gyntaf ei chyfnod SMP/SAP, bydd yn symud i’r gyfradd is yn syth.

Bydd gweithiwr (p’un ai mam / prif fabwysiadwr y plentyn, partner y fam / prif fabwysiadwr neu dad y plentyn) yn gymwys i dderbyn tâl rhiant statudol a rennir os ydynt:

  • Wedi gweithio am gyfnod di-dor o 26 wythnos yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eich hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Yn parhau i fod mewn cyflogaeth ddi-dor gyda’r cyflogwr hwnnw tan yr wythnos cyn yr wythnos gyntaf y gellir talu’r tâl rhiant a rennir.
  • Gydag enillion wythnosol arferol ar y trothwy enillion isaf o leiaf i bwrpas cyfraniadau yswiriant gwladol ac am gyfnod o wyth wythnos yn diweddu gyda’r 15fed wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu'r wythnos y cawsant eu hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Yn bennaf gyfrifol (ar wahân i gyfrifoldeb y rhiant arall) am ofalu am y plentyn ar ddyddiad ei eni neu'r wythnos y cawsant eu hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Wedi cydymffurfio â'r gofynion tystiolaeth a rhybudd perthnasol.

Yn ogystal, er mwyn i fam / prif fabwysiadwr plentyn gymhwyso am dâl rhiant statudol a rennir:

  • Rhaid iddi / iddo fod â hawl i dâl mamolaeth / mabwysiadu statudol yng nghyswllt y plentyn a bod wedi cwtogi'r cyfnod o dâl mamolaeth / mabwysiadu.

Rhaid i’r partner, neu dad y plentyn, fod:

  • Wedi bod yn gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig am o leiaf 26 allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eu hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Gydag enillion wythnosol cyfartalog o £30 o leiaf mewn unrhyw 13 allan o’r 66 wythnos hynny
  • Yn bennaf gyfrifol (ar wahân i gyfrifoldeb y fam / prif fabwysiadwr) am ofalu am y plentyn ar ddyddiad ei eni neu'r wythnos y cawsant eu hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.

Er mwyn i bartner y fam / prif fabwysiadwr, neu dad y plentyn, gymhwyso am dâl rhiant statudol a rennir, rhaid i fam / prif fabwysiadwr y plentyn fod:

  • Wedi bod yn gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig am o leiaf 26 allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig neu wythnos eu hysbysu o baru ar gyfer mabwysiadu.
  • Gydag enillion wythnosol cyfartalog o £30 o leiaf mewn unrhyw 13 allan o’r 66 wythnos hynny
  • Gyda hawl i dâl mamolaeth / mabwysiadu statudol neu lwfans mamolaeth / mabwysiadu yng nghyswllt y plentyn a bod wedi cwtogi'r cyfnod tâl.
  • Yn bennaf gyfrifol am y plentyn (ar wahân i gyfrifoldeb y partner neu’r tad) ar ddyddiad ei eni / lleoli.

Nid oes rheolau o ran sut y dylid rhannu’r hawl i dâl rhiant statudol a rennir rhwng rhieni. Mater i’r rhieni gytuno arno yw hyn.

Cyfanswm y tâl rhiant statudol a rennir sydd ar gael i rieni cymwys ei rannu yw 39 wythnos, llai faint o dâl mamolaeth statudol neu lwfans mamolaeth sydd eisoes wedi’i dalu i’r fam (neu llai faint o dâl mabwysiadu statudol sydd wedi’i dalu i’r prif fabwysiadwr). Gall rhieni fod ar SPL ar yr un pryd a derbyn tâl rhiant statudol a rennir ar yr un pryd.

Mae’n ofynnol i’r rhieni roi gwybod i’w cyflogwyr faint o dâl rhiant a rennir y mae ganddynt hawl i’w gael a sut y byddant yn ei rannu rhyngddynt.

Na, rhaid cymryd SPL mewn bloc o wythnos o leiaf ar y tro. Felli ni allech gymryd SPL mewn blociau o ddiwrnod neu ddau ar y tro i leihau eich oriau gweithio.

Fodd bynnag, gall pob rhiant gytuno â’u cyflogwr i ddefnyddio hyd at 20 o ddiwrnodau “cadw-mewn-cysylltiad absenoldeb rhiant a rennir” (SPLIT) i wneud gwaith heb ddod â’r cyfnod o SPL i ben. Os yw’r gweithiwr a’r cyflogwr yn cytuno, gellir defnyddio diwrnodau SPLIT fel bo’r gweithiwr yn gallu mynychu’r gwaith yn rheolaidd dros gyfnod o SPL. Er enghraifft, gallai'r gweithiwr gymryd SPL am 10 wythnos a defnyddio dau ddiwrnod SPLIT yr wythnos i ddod i’r gwaith.

Ni fydd gweithio diwrnod SPLIT yn effeithio ar eich hawl i dâl rhiant statudol a rennir. Byddwn yn talu eich tâl contractiol llawn i chi am y diwrnod, gan wrthbwyso unrhyw hawl i dâl statudol.

Os cymerwch SPL gyda’ch partner, cyflogwr eich partner sy’n gyfrifol am eu talu.

Nid oes gan weithiwr hawl i drosglwyddo hawl i dâl uwch i’w bartner ef neu i’w phartner hi. Er enghraifft os yw mam yn gweithio i gwmni sy’n talu tâl contractiol uwch i weithwyr ar SPL ac mae’n cymryd SPL gyda thad y plentyn, sy’n gweithio i gwmni nad yw’n talu tâl rhiant a rennir uwch, bydd y fam yn cael ei thalu gan ei chyflogwr yn unol â pholisi’r cyflogwr ond ni fydd y tad yn derbyn tâl uwch am unrhyw gyfnod o SPL y bydd yn ei gymryd. Os oes gan y tad hawl i dâl rhiant statudol a rennir am unrhyw gyfnod o SPL (h.y. os nad yw’r hawl i dâl statudol a rennir yn cael ei ddefnyddio gan y fam), bydd hwn yn cael ei dalu gan ei gyflogwr.

Ydy, fodd bynnag daeth absenoldeb tadolaeth ychwanegol i ben ar 5 Ebrill 2015.

Gallwch, rhyngom gallwn gytuno ar hyd at 20 o ddiwrnodau “cadw-mewn-cysylltiad a rennir” (SPLIT) yn ystod SPL heb ddod â’r absenoldeb i ben. Gellir eu cymryd naill ai i wneud gwaith neu, er enghraifft, i fynychu cyfarfodydd, digwyddiadau tîm neu hyfforddiant. Mae gan y ddau riant hyd at 20 diwrnod SPLIT yr un, i'w cymryd fel diwrnodau unigol neu flociau o ddiwrnodau. Mae hyn ar ben y 10 diwrnod cadw-mewn-cysylltiad sydd ar gael i’r fam neu’r prif fabwysiadwr yn ystod yr absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu.

Oes, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ar ôl cyfnod o SPL os yw’r cyfnod o absenoldeb, o’i ychwanegu at unrhyw gyfnod o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu statudol a gymerwch yng nghyswllt yr un plentyn, yn 26 wythnos neu lai.

Yn yr amgylchiadau hyn mae gennych hawl i ddychwelyd i’r swydd y cawsoch eich cyflogi ynddi’n union cyn yr absenoldeb (rhaid i’r swydd fod yr un fath o ran natur y gwaith, ym mha gapasiti y cawsoch eich cyflogi a’r man gwaith).

Mae gennych hawl i delerau ac amodau dim llai ffafriol, gyda statws swydd, hawliau pensiwn a hawliau tebyg fel pe na fyddech wedi bod yn absennol o gwbl.

Os yw eich absenoldeb yn dilyn cyfnod o SPL:

  • yn fwy na 26 wythnos o’i ychwanegu at unrhyw gyfnod o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu statudol a gymerwch yng nghyswllt yr un plentyn; neu
  • yr olaf o ddau gyfnod dilynol o absenoldeb statudol oedd yn cynnwys cyfnod o absenoldeb rhiant arferol o fwy na phedair wythnos, cyfnod o absenoldeb mamolaeth ychwanegol neu gyfnod o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol;

Yna mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol i ni ganiatáu i hynny ac, os felly, mae gennych hawl i ddychwelyd i swydd arall sy’n addas i chi a phriodol i chi ei chyflawni yn yr amgylchiadau.

Gallai, ar yr amod bod eu partner yn bodloni’r gofynion enillion a chyflogaeth, gall mam / prif fabwysiadwr gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu a chymryd SPL yn ei le. Nid oes raid i'r partner gymryd cyfnod o SPL.

Gallai mam / prif fabwysiadwr ddewis gwneud hyn er mwyn gallu cymryd eu habsenoldeb mewn ffordd fwy hyblyg na phe baent yn aros ar absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu. Er enghraifft, efallai y byddent eisiau cymryd tri chyfnod ar wahân o SPL, gydag ysbeidiau o fynd yn ôl i’r gwaith.

Byddwch yn parhau i gronni gwyliau blynyddol yn ystod eich SPL. Anogir chi i gytuno â’ch rheolwr llinell, cyn dechrau eich SPL, pryd y bwriadwch gymryd eich gwyliau blynyddol a gallwch gymryd eich gwyliau cyn, ar ôl neu rhwng cyfnodau o SPL.

Os yw bloc o SPL yn croesi dwy flwyddyn wyliau, gallwch gario gwyliau blynyddol a gronnwyd yn y flwyddyn wyliau gyntaf drosodd ond rhaid cymryd y diwrnodau hyn o fewn tri mis i’r dyddiad y daw eich SPL i ben.

Gall y ddau riant fod yn ôl yn gweithio ar yr un pryd ond eto cadw eu hawl i SPL.

Pwrpas SPL yw rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni ynghylch sut i rannu gofal plant rhyngddynt yn ystod blwyddyn gyntaf eu plentyn. Nid oes raid cymryd yr absenoldeb mewn un bloc di-dor; gall un neu’r ddau riant fynd yn ôl i weithio ac yna cymryd cyfnod pellach o SPL, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion rhybudd. Gallai’r rhieni benderfynu ar drefniant gofal plant arall, gyda’r ddau’n dychwelyd i weithio am gyfnod ar yr un pryd.

Gallwch, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion cymhwyso ac yn rhoi’r rhybudd cywir, gallwch ddewis pryd i gymryd SPL. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun sy'n gweithio mewn ysgol, ac na fyddai angen iddynt fynychu’r gwaith yn ystod gwyliau’r ysgol, gymryd cyfnodau o SPL yn ystod y tymor yn unig, gan adael mwy o absenoldeb i’w partner ei gymryd.  Gall rhieni rannu hyd at 50 wythnos o SPL rhyngddynt yn y flwyddyn gyntaf ar ôl geni neu leoli’r plentyn i'w fabwysiadu, a chymryd absenoldeb ar yr un pryd.

Nag oes, nid oes unrhyw newid i absenoldeb rhiant di-dâl arferol o ganlyniad i gyflwyno SPL.

Fodd bynnag ers 5 Ebrill 2015, o dan ddarpariaethau ar wahân i'r rhai sy’n cyflwyno SPL, cynyddir y cyfyngiad amser ar gyfer cymryd absenoldeb rhiant arferol i ben-blwydd y plentyn yn 18 oed bob tro.

Gall pob gweithiwr cymwys gymryd hyd at 18 wythnos o absenoldeb rhiant arferol yng nghyswllt plentyn ar unrhyw adeg cyn eu pen-blwydd yn 18 oed.

Mae absenoldeb rhiant arferol yn ddi-dâl. Nid yw penderfyniad gweithiwr i gymryd SPL neu beidio’n effeithio ar eu hawl i absenoldeb rhiant arferol.

Nid yw marwolaeth partner gweithiwr yn atal y gweithiwr rhag bod yn gymwys am SPL, cyn belled ag y bo’r cwpwl yn bodloni’r gofynion cymhwyso cyn i'r partner farw.

Yn achos marwolaeth mam / prif fabwysiadwr y plentyn, nid yw’n ofynnol i’r fam / prif fabwysiadwr fod wedi rhoi rhybudd i gwtogi eu habsenoldeb mamolaeth / mabwysiadu neu “rybudd o hawl a bwriad” cyn iddi farw i'w phartner, neu i dad y plentyn, fod yn gymwys am SPL. Gall y partner gyflwyno rhybudd o hawl a bwriad i gymryd SPL ar ôl marwolaeth y fam / prif fabwysiadwr, os na wnaethant hynny’n barod. Rhaid i’r rhybudd hwn gynnwys dyddiad marwolaeth y fam / prif fabwysiadwr. Os na chymrodd y fam / prif fabwysiadwr unrhyw absenoldeb mamolaeth cyn eu marwolaeth, gall eu partner gymryd hyd at 52 wythnos o SPL.

Gallai gweithiwr (p’un ai’n fam / prif fabwysiadwr neu’n bartner y fam) fod eisiau newid eu cynlluniau o ran faint o SPL a phatrwm y SPL y maent am ei gymryd yn dilyn marwolaeth eu partner. Er enghraifft, gallent benderfynu cymryd cyfnod o absenoldeb yn gynt nag a gynlluniwyd, neu gymryd un cyfnod hir o absenoldeb yn hytrach na nifer o gyfnodau byr. Mae’r rheolau ar roi rhybudd ac amrywio cyfnodau absenoldeb yn cael eu haddasu i ganiatáu hyn. Nid oes angen i’r gweithiwr roi wyth wythnos o rybudd o absenoldeb os nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, ond rhaid rhoi’r rhybudd perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y farwolaeth a chyn y cyfnod absenoldeb. Gwneir yr addasiad hwn i’r gofynion rhybudd ar gyfer y rhybudd o hawl a bwriad, y rhybudd o’r cyfnod cyntaf o absenoldeb yn dilyn y farwolaeth a hefyd y rhybudd cyntaf i amrywio cyfnod o absenoldeb sydd eisoes wedi’i archebu.

Os yw’r gweithiwr eisoes wedi defnyddio ei uchafswm o dri chyfnod o absenoldeb neu rybuddion amrywio cyn i’w partner farw, caiff yr uchafswm ei ymestyn i bedwar rhybudd fel y gall amrywio’r patrwm o absenoldeb yng ngoleuni’r amgylchiadau newydd.

Nid yw hawl y cyflogwr i ofyn am gopi o dystysgrif geni’r plentyn a manylion am gyflogwr y gweithiwr mwyach yn berthnasol os yw’r partner yn marw; nid yw’n ofynnol ychwaith i’r gweithiwr gynnwys datganiad gan ei bartner ef neu hi gydag unrhyw rybudd y bydd yn ei gyflwyno.

Bydd darpariaethau cyfwerth yn berthnasol lle bydd rhiant mabwysiadol yn marw.

Llwythwch mwy

 

 

Adnoddau Dynol