Cyfnod prawf

Diweddarwyd y dudalen: 22/03/2024

Gweithiwr ar gyfnod prawf yw rhywun (dros dro neu barhaol) sydd wedi ymuno â'r Awdurdod yn ddiweddar ac sy'n gwasanaethu eu cyfnod prawf yn ôl yr hyn a ganiateir yn y contract cyflogaeth, er enghraifft, chwe mis cyntaf y gyflogaeth hyd at uchafswm o 12 mis (oni bai y caiff ei ymestyn mewn amgylchiadau eithriadol).

Mae'r cyfnod prawf yn caniatáu i chi a'ch rheolwr llinell asesu eich addasrwydd i'r swydd y cawsoch eich recriwtio iddi. Mae'n gyfle i'ch rheolwyr roi'r arweiniad, y cymorth a'r anogaeth sy'n angenrheidiol er mwyn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer gwneud y gwaith gan gadw at safon dderbyniol.

Byddwch yn dilyn rhaglen sefydlu adrannol lawn a thrylwyr ac yn cael gwahoddiad i ddigwyddiad Croeso Corfforaethol yn ystod eich pedwar mis cyntaf yn eich swydd.

Dylech wybod beth yw eich amcanion a'r safonau perfformiad ac ymddygiad sy'n ofynnol (drwy'r weithdrefn sefydlu ac arfarniadau ar wahân).

Disgwylir ichi gyflawni'r safonau gofynnol a rhoddir gwybod ichi os oes unrhyw ddiffyg a chewch gyfle i wella yn ystod y cyfnod prawf.

Os byddwch yn methu â bodloni'r safonau gofynnol yn ystod eich cyfnod prawf er bod y cymorth neu'r camau priodol wedi cael eu rhoi ar waith, gallwch gael eich diswyddo, gyda rhybudd, o fewn y cyfnod prawf (ac eithrio mewn achosion o gamymddwyn difrifol a allai arwain at ddiswyddo heb rybudd).

Fe'ch hysbysir yn ysgrifenedig pan fydd y cyfnod prawf wedi dod i ben yn foddhaol. 

Rheoli Pobl

Bydd y tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl yn rhoi cyngor a chymorth yn ystod y cyfnod prawf, yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod cyfnod prawf boddhaol wedi dod i ben ac yn monitro'r defnydd o'r polisi a'r weithdrefn ynghylch rheoli gweithwyr sydd ar gyfnod prawf.

Rheolwyr llinell/goruchwylwyr

Y rheolwyr llinell/goruchwylwyr sy'n gyfrifol am reoli perfformiad eu holl weithwyr, gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyfnod prawf. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod rhaglen sefydlu lawn i'r swydd yn cael ei dilyn a bod arfarniadau rheolaidd o berfformiad yn cael eu cynnal ar y cyfnodau a argymhellir (fan lleiaf). Hefyd mae'n cynnwys gweithredu'n gyflym pan nodir problemau o ran perfformiad neu ymddygiad. Y rheolwyr sy'n gyfrifol hefyd am gadw cofnodion priodol ac am hysbysu'r tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl pan fydd cyfnod prawf boddhaol wedi dod i ben.

Gweithwyr

Chi sy'n gyfrifol am gydymffurfio â gweithdrefnau, codau ymddygiad, ac ati yr Awdurdod yn ogystal â mynd i'r gwaith yn rheolaidd a lleisio unrhyw bryderon ynghylch eich gwaith neu amodau gweithio, gyda'ch rheolwr llinell cyn gynted ag y bo modd.

Rhaid i'ch Rheolwr Llinell bennu amcanion clir ar eich cyfer ar ddechrau eich cyflogaeth a darparu unrhyw gymorth a gytunir bryd hynny.

  • Cyfnodau prawf o 6 mis: Dylid cynnal arfarniadau ffurfiol o berfformiad yn rheolaidd ac adolygu'r amcanion erbyn diwedd misoedd 2 a 5.
  • Cyfnodau prawf o hyd at 12 mis: dylid cynnal adolygiadau ychwanegol ym misoedd 9 ac 11.

Efallai bydd yn briodol cwrdd â chi yn fwy rheolaidd na hyn.

Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o bob cyfarfod arfarnu a chytuno arno, dylech chi gael copi a dylai copi gael ei roi yn eich ffeil bersonol. Bydd hwn fel arfer yn cynnwys amcanion a gytunwyd, problemau a nodwyd, cymorth (e.e. hyfforddiant) ac amserlenni a gytunwyd.

Os nodir problemau (e.e. o ran presenoldeb, perfformiad neu ymddygiad) dylid rhoi'r camau adfer ar waith a dylid eich rhybuddio, os na fyddwch wedi gwella o fewn yr amserlen ofynnol, y gallai hynny arwain at gamau pellach a allai gynnwys diswyddo.

Os nad yw'r perfformiad neu'r ymddygiad yn gwella er bod cymorth priodol wedi cael ei roi, neu mewn achosion a ystyrir yn gamymddygiad difrifol, dylai eich rheolwr gydgysylltu â'r tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl ynghylch y camau priodol sydd i'w cymryd.

Yn yr holl achosion lle mae parhad eich cyflogaeth mewn perygl, lle bwriedir cymryd camau megis dal cynyddrannau cyflog yn ôl, neu lle dylech gael cyfle i ymateb yn ffurfiol i'r materion sy'n cael eu codi yn eich erbyn, dylid dilyn y weithdrefn ganlynol:

Cam 1: Byddwn yn ysgrifennu atoch gan eich hysbysu am y materion sy'n peri pryder a'ch gwahodd i ddod i gyfarfod ffurfiol i drafod y mater. Byddwch yn cael cyfle rhesymol i ystyried eich ymateb cyn y cyfarfod (awgrymir o leiaf 14 diwrnod calendr o rybudd) a rhoddir gwybod ichi fod hawl gennych i gael cwmni swyddog undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr.

Cam 2: Cynnal cyfarfod i drafod y materion. Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Bennaeth Gwasanaeth yr Adran neu ei gynrychiolydd / chynrychiolydd a bydd swyddog priodol yn bresennol (e.e. o'r tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl). Dylech gymryd pob cam rhesymol i ddod i'r cyfarfod. Os na allwch fod yn bresennol, rhaid ichi roi'r rhesymau cyn gynted â phosibl. Os oedd y rheswm y tu hwnt i'ch rheolaeth ac os nad oedd modd ei ragweld pan drefnwyd y cyfarfod (e.e. salwch), bydd cyfarfod arall yn cael ei drefnu. Os  nad yw'r swyddog undeb llafur neu'r cydweithiwr yn gallu bod yn bresennol, gellir trefnu dyddiad arall, ar yr amod nad yw'n fwy na 14 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad gwreiddiol. Gall peidio â mynd i gyfarfod heb reswm da arwain at wneud penderfyniad yn eich absenoldeb a dod â'r weithdrefn i ben.

Ar ôl y cyfarfod, rhoddir gwybod ichi am y penderfyniad yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod calendr a chewch wybod am eich hawl i apelio.

Cam 3: Os ydych yn dymuno apelio, rhaid ichi wneud hynny'n ysgrifenedig at Gyfarwyddwr yr Adran o fewn 14 diwrnod calendr, a fydd yn trefnu cyfarfod apêl ffurfiol lle bydd gennych hawl i gael cwmni swyddog undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr. Bydd y Cyfarwyddwr neu ei gynrychiolydd / chynrychiolydd enwebedig, ynghyd â swyddog priodol (e.e. o'r tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl, ond nid yr un swyddog a oedd yn ymwneud â chyfarfod Cam 2) yn gwrando'r apêl ac yn rhoi gwybod ichi yn ysgrifenedig am eu penderfyniad. Nid oes rhaid trefnu'r cyfarfod hwn cyn i'r diswyddo neu'r camau disgyblu ddod i rym. Mae'r Cyfarfod Apêl a'r penderfyniad yn derfynol ac nid oes hawl i apelio ymhellach o fewn y Cyngor.

Dylid cynnig ichi yr hawl i gael cwmni swyddog undeb llafur neu gydweithiwr mewn unrhyw gyfarfod lle mae rhybudd yn debygol o gael ei roi neu lle mae ymestyn y cyfnod prawf yn cael ei drafod.

Os ydych yn dymuno cyflwyno achwyniad yn ystod eich cyfnod prawf, dylech ddarllen Gweithdrefn Achwyniadau'r Awdurdod.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gan weithwyr newydd a rheolwyr amser digonol o fewn y cyfnod prawf i asesu addasrwydd y swydd.

Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod prawf mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys:

  • Os ydych wedi gwella a bod gennych y potensial i gyrraedd y safon ofynnol ond bod y cyfnod adolygu'n ymestyn y tu hwnt i ddyddiad diwedd y cyfnod prawf. Os yw'r estyniad yn mynd â chi y tu hwnt i ddyddiad eich cynyddran gyflog, gellir ystyried oedi neu ddal yn ôl talu'r gynyddran (dylid dilyn y weithdrefn a nodir ym mharagraffau 16 ac 17).
  • Os bydd problemau ond yn dod i'r amlwg yn nes ymlaen yn y cyfnod prawf ac ni ellir cwblhau'r broses adolygu o fewn yr amserlen wreiddiol.
  • Os ydych wedi bod yn absennol am ran helaeth o'r cyfnod prawf (er enghraifft, oherwydd cyfnod mamolaeth, damwain, salwch tymor hir neu anabledd) ac ni chafwyd cyfle i wneud asesiad teg. Sylwer: Mae presenoldeb yn ffactor y dylid ei ystyried yn ystod y cyfnod prawf.
  • Rhesymau eraill o bwys neu weithredol, er enghraifft, mae'r swydd wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i ailstrwythuro, ac ati.

Dylid gofyn am gyngor gan y tîm Adnoddau Dynol, Rheoli Pobl cyn cytuno i ymestyn y cyfnod prawf.

Adnoddau Dynol