Sefydlu Staff
Bydd angen i bob gweithiwr sy'n dechrau swydd newydd (llawn amser neu ran amser) fynd drwy broses sefydlu yn y gweithle, beth bynnag yw gradd y swydd neu gefndir yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n cael eu dyrchafu'n fewnol ac yn gorfod cael eu cyflwyno i'w swydd newydd, ni waeth pa mor gyfarwydd ydynt â'r Cyngor neu'r Adran.
Os ydych yn weithiwr newydd, byddwch eisoes wedi cael ychydig o wybodaeth gyda'ch cynnig swydd ynghyd â chopi o'r Canllaw i Weithwyr. Darllenwch y wybodaeth hon gan ei bod cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am eich hawliau a'ch manteision fel gweithiwr y Cyngor.
Gall y misoedd cyntaf mewn swydd newydd fod yn gyffrous ac ychydig yn frawychus ar yr un pryd. Mae llawer o weithdrefnau, systemau a sgiliau newydd i'w dysgu a bydd angen ichi ddod yn gyfarwydd ag wynebau newydd ac amgylchedd newydd.
Cafodd y Sefydlu gweithiwr yn y gweithle hwn ei lunio i'ch arwain drwy'r cyfnod hwn a'i wneud yn haws i chi. Bydd eich rheolwr llinell yn esbonio'r broses i chi ac yn eich arwain drwy'r ddogfen.
Bydd copi wedi'i lofnodi o'ch Proffil Sefydlu yn cael ei gadw ar ffeil yn eich is-adran, i fod yn rhan o'ch cofnod rheoli perfformiad. Byddwch hefyd yn cael copi i'w gadw.
Rhaglen Sefydlu
Caiff y rhaglen sefydlu ei rhannu yn bedwar cyfnod, a cheir dyddiadau targed ar gyfer eu cwblhau:
Macro alias: GenerateFAQPageContent
Os cewch eich cyflogi ar gontract cyfnod penodol neu secondiad am lai na 24 wythnos, bydd eich rheolwr yn amrywio eich Rhaglen Sefydlu yn ôl yr amserlen honno.
Mae rhestr wirio ar gyfer pob un o'r cyfnodau hyn wedi'i chynnwys yn y ddogfen. Maent yn ymdrin â gwybodaeth graidd sy'n berthnasol i bob gweithiwr. Rhoddir rhagor o wybodaeth i chi sy'n fwy penodol i'ch adran a/neu'ch swydd yn ystod eich rhaglen sefydlu er mwyn ategu hyn.
Rhaid cwblhau'r rhestr wirio berthnasol yn ystod pob cyfnod er mwyn cadarnhau bod y wybodaeth a'r dogfennau wedi cael eu hesbonio i chi a'ch bod wedi'u deall. Rhaid i chi a'ch rheolwr llinell gwblhau a llofnodi pob rhestr wirio
Diweddarwyd y dudalen: 28/03/2019 11:03:20