Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor

Diweddarwyd y dudalen: 21/12/2023

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cyhoeddus ac ni ddylai fyth fod yn llwyfan er budd personol. Mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf gan holl swyddogion y Cyngor. Eich rôl chi yw gwasanaethu'r Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor) wrth ddarparu gwasanaethau i'r gymuned leol, darparu cyngor, a gweithredu ei bolisïau. Wrth gyflawni eich dyletswyddau, rhaid i chi weithredu mewn modd agored, gydag uniondeb a gonestrwydd, a chan fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae Côd Ymddygiad Swyddogion y Cyngor, sydd wedi'i gynnwys yn Rhan 5.4 ein Cyfansoddiad, yn diffinio'r cyfrifoldebau a'r safonau sy'n ofynnol gan bawb sy'n gweithio i Gyngor.

Lluniwyd y tudalen hyn i roi eglurder mewn perthynas â'n cyfrifoldebau fel gweithwyr y Cyngor ac mae'n berthnasol i holl weithwyr y Cyngor gan gynnwys gweithwyr dros dro, gweithwyr achlysurol, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr y Cyngor sydd wedi'u secondio i sefydliadau eraill ac oddi yno.