Dyfarnu a Rheoli Contractau

Diweddarwyd y dudalen: 29/06/2021

Lle mae eich rôl yn cynnwys caffael, rheoli neu ddefnyddio contractau'r Cyngor:

  • Rhaid i chi gydymffurfio â'r rheolau caffael a'r rheoliadau ariannol ar ddyfarnu gorchmynion a chontractau
  • Ni ddylech wahaniaethu yn erbyn unrhyw ran o'r gymuned leol yn y broses dendro a chontractio.

 

Arferion llwgr

Ni ddylech:

  • Dderbyn neu roi, mewn modd llwgr, unrhyw rodd, benthyciad, ffi, gwobr neu fantais am wneud neu beidio â gwneud rhywbeth, neu ddangos ffafriaeth neu anffafriaeth i unrhyw berson yn rhinwedd eich swydd. Mae hyn yn drosedd ddifrifol. 

Yn ogystal, mae Adran 2 o Ddeddf Atal Llygredigaeth 1916 yn nodi, pan brofir bod unrhyw un sy'n dal neu'n ceisio contract gyda chorff cyhoeddus wedi gwneud taliad i weithiwr i'r corff hwnnw, y bernir bod y taliad yn llwgr oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Cymerir camau yn unol â gweithdrefn ddisgyblu'r Cyngor i ddelio â honiadau o'r math hwn neu i ymchwilio iddynt.