Buddiannau personol

Diweddarwyd y dudalen: 07/03/2022

Rhaid i chi ddatgan i'ch rheolwr llinell, gan ddefnyddio ein proses Datgan Buddiant ar-lein, unrhyw fuddiannau ariannol a buddiannau eraill a allai, yn eich barn chi, arwain at wrthdaro â buddiannau'r awdurdod.

Os byddai modd i unrhyw un dybio eich bod yn gwneud unrhyw beth yn eich rôl fel un o weithwyr y Cyngor a fyddai o fudd i chi eich hun neu unrhyw un rydych yn ei adnabod yn bersonol, yna mae angen i chi fod yn agored yn ei gylch a'i gofnodi. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i'ch rheolwr am gyngor.

Mae eich rheolwr llinell wrth gydlofnodi'r datganiad yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol o'r gwrthdaro buddiannau posibl yn ôl yr hyn a ddatganwyd gennych chi a bod un o'r canlynol yn berthnasol:

a) Nid yw'r rheolwr llinell o'r farn bod y buddiant yn cael effaith sylweddol o ran eich gwaith fel gweithiwr gyda'r Cyngor (h.y. mae'n bersonol ond nid yn rhagfarnol)

                                                         NEU   

b) Bydd y rheolwr llinell yn gweithio gyda chi i sicrhau na fydd gwrthdaro buddiannau gwirioneddol yn codi (gall hyn olygu ail-ddosbarthu gwaith pan fo angen er mwyn osgoi buddiant rhagfarnol).

Os na all eich rheolwr llinell nodi ffordd amlwg i chi osgoi'r gwrthdaro buddiannau, yna rhaid rhoi gwybod i'r Swyddog Monitro am y sefyllfa a chael cyngor.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr roi'r gorau i gyfrifoldebau neu fuddiannau penodol i barhau i weithio i'r Cyngor. Bydd y Swyddog Monitro yn cadw cofnod o'r cyngor a ddarperir ac unrhyw benderfyniadau a wneir yn hyn o beth.

Eich cyfrifoldeb chi yw datgan unrhyw fuddiannau ymlaen llaw pan fyddwch yn gwybod amdanynt ac wrth i fuddiannau newydd godi, a’u datgan cyn gynted â phosibl pan fyddwch yn dod yn ymwybodol o wrthdaro posibl.

Er mwyn helpu, byddwch yn derbyn nodyn blynyddol i'ch atgoffa. Yn ogystal, fel rhan o'ch arfarniad/cyfarfodydd goruchwylio, dylai eich rheolwr eich atgoffa o'r angen i ddatgan gwrthdaro buddiannau posibl neu, os ydych wedi gwneud datganiadau blaenorol, eich atgoffa o'r angen i'w hadolygu a'u diweddaru. Dylid cyflwyno datganiadau wedi'u diweddaru drwy ein proses ar-lein o ran Datgan Buddiannau.

Cofiwch - eich cyfrifoldeb chi yw datgan buddiant, nid cyfrifoldeb eich rheolwr llinell.

 

Aelodaeth o sefydliadau eraill

Rhaid i chi ddatgan i'ch Pennaeth Gwasanaeth neu'ch rheolwr llinell os ydych yn aelod o unrhyw sefydliad nad yw’n agored i’r cyhoedd heb ymaelodi’n ffurfiol ag ef ac sydd â llw teyrngarwch ac sy’n gyfrinachol o ran ei reolau aelodaeth neu ymddygiad.