Ymddygiad personol

Diweddarwyd y dudalen: 07/03/2022

Fel cynrychiolydd y Cyngor, disgwylir i chi ymddwyn yn unol â'r safonau uchaf. Mae ein Canllawiau ar Safonau Ymddygiad yn y Gweithle yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr o ran ymddygiad derbyniol.

Rhaid i chi:

  • Gyflawni gofynion llawn eich rôl sy'n cyd-fynd â'ch contract cyflogaeth a pholisïau'r Cyngor
  • Ymddwyn yn gwrtais ac yn rhesymol
  • Cynnal safonau derbyniol o ran ymddangosiad a hylendid personol
  • Dangos eich ymrwymiad i werthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb
  • Mynychu'r gwaith yn unol â thelerau eich contract cyflogaeth a chydymffurfio â pholisïau salwch ac absenoldeb arall
  • Gwisgo eich cerdyn adnabod wrth gynrychioli'r Cyngor
  • Rhoi gwybod i'ch rheolwr llinell am unrhyw ddiffyg yn narpariaeth gwasanaethau'r Cyngor
  • Cadw perthynas broffesiynol ag Aelodau Etholedig, swyddogion, contractwyr neu bartneriaid, darpar gontractwyr, neu ddefnyddwyr gwasanaeth. Os oes gennych berthynas bersonol ag unrhyw un o'r grwpiau hyn o unigolion, rhaid i chi ddatgan hyn gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein, sydd i'w gweld ar eich Cyfrif MyView
  • Osgoi niwed i enw da neu wasanaethau'r Cyngor
  • Cofrestru unrhyw fuddiannau ariannol a buddiannau eraill gyda'ch rheolwr llinell gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein, sydd i'w gweld ar eich Cyfrif MyView

Ni ddylech:

  • Gymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad sy'n niweidiol i'r Cyngor neu ei fuddiannau, neu sy'n dod â chamau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor
  • Bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau nad ydynt ar bresgripsiwn. Mae ein Polisi Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau yn darparu rhagor o wybodaeth
  • Camddefnyddio eich swydd neu wybodaeth a gafwyd yn ystod eich gwaith, er budd personol neu er budd pobl eraill

 

Gadael y Cyngor

Ar ôl gadael y Cyngor:

  • Rhaid i chi ddychwelyd yr holl eiddo, gwybodaeth a deunyddiau a gaffaelwyd yn ystod eich cyflogaeth gan gynnwys eich cerdyn adnabod a'r holl gyfarpar TG.
  • Ni ddylech ddatgelu unrhyw ddata personol sy'n ymwneud ag eraill na gwybodaeth eithriedig / gyfrinachol yr ydych wedi'i chaffael yn ystod ein gwaith yn y Cyngor