Defnyddio adnoddau a gwybodaeth y Cyngor

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Rydym ni i gyd yn gyfrifol am wneud defnydd effeithlon o adnoddau'r Cyngor gan gynnwys adnoddau ariannol, cyfarpar a thrin gwybodaeth.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am wneud defnydd effeithlon o'r adnoddau cyhoeddus y mae'n eu rheoli gan gynnwys adnoddau ariannol, cyfarpar a'i staff.

Rhaid i chi:

  • Weithredu o fewn y safonau cyfrifyddu gofynnol
  • Cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ôl y gofyn
  • Gofalu am eiddo neu gyfarpar y Cyngor, ei gadw'n ddiogel a rhoi gwybod am unrhyw achosion o dorri eiddo neu dorri amodau diogelwch
  • Defnyddio cyfarpar a chyfleusterau at ddibenion awdurdodedig yn unig
  • Sicrhau bod archwilydd ac archwilwyr allanol y Cyngor yn cael mynediad ar bob adeg resymol i safleoedd, personél, dogfennau ac asedau y mae'r archwilwyr o'r farn eu bod yn angenrheidiol at ddibenion eu gwaith
  • Rhoi i'r archwilwyr unrhyw wybodaeth ac esboniadau y maent yn eu ceisio yn ystod eu gwaith

Ni ddylech:

  • Ddefnyddio safleoedd, eiddo, cerbydau neu gyfleusterau eraill y Cyngor oni bai eich bod wedi eich awdurdodi i wneud hynny
  • Gwneud gwaith nad yw'n waith y Cyngor ar safleoedd y Cyngor neu drwy ddefnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau'r Cyngor, neu yn ystod amser y Cyngor

 

Mae'r Cyngor yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac felly rhaid i chi fod yn gyfarwydd â Rheoliadau Ariannol y Cyngor.

Rhaid i chi:

  • Ddefnyddio arian y Cyngor mewn ffordd gyfrifol, atebol a chyfreithlon
  • Cydymffurfio â rheoliadau ariannol y Cyngor a chymryd cyngor cyfreithiol ac ariannol lle bo hynny'n briodol
  • Ceisio gwerth am arian. Gall ein tîm Caffael Corfforaethol gynnig cyngor pellach
  • Cydymffurfio â'r polisi a gyhoeddwyd gan eich Adran os yw eich rôl yn cynnwys ymdrin ag arian cwsmeriaid
  • Gwneud yn siŵr bod unrhyw nawdd a dderbynnir yn gysylltiedig â busnes y Cyngor
  • Os ydych yn amau unrhyw anghysondeb ariannol, llygredd neu dwyll, cysylltwch â'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol
  • Gwneud yn siŵr nad ydych yn elwa o unrhyw gontract neu nawdd y gall y Cyngor ei dderbyn, neu ddangos unrhyw ffafriaeth i bartner, priod, perthynas, ffrind neu gydymaith

Mae cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn hanfodol.

Rhaid i chi:

  • Gydymffurfio â'n polisïau mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth gan sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddiogelu
  • Rhoi gwybod am unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch gwybodaeth
  • Labelu a storio dogfennau gwybodaeth i ganiatáu mynediad i ddefnyddwyr awdurdodedig a rhwystro defnyddwyr anawdurdodedig
  • Cyfeirio unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau neu'r wasg at y Tîm Marchnata a'r Cyfryngau ar unwaith
  • Cadw rheolaeth dda ar gyfrineiriau a bod yn ymwybodol o negeseuon e-bost gwe-rwydo

Ni ddylech:

  • Beryglu diogelwch gwybodaeth y Cyngor drwy anfon gwybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn allanol drwy e-bost safonol
  • Datgelu eich cyfrinair (neu'ch cyfrineiriau) i neb
  • Gadael eich dyfeisiau heb gadw llygad arnynt
  • Defnyddio gwybodaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y Cyngor at ddefnydd personol anawdurdodedig, enillion amhriodol neu fasnachol, neu ar gyfer gweithgareddau twyllodrus neu faleisus

Gelwir y gwaith a wnewch ar ran y Cyngor yn eiddo deallusol.

  • Rhaid i chi ofyn am ganiatâd eich rheolwr llinell neu Bennaeth y Gwasanaeth cyn i chi ddatgelu unrhyw ddyluniad neu ddyfais a grëwyd yn ystod eich gwaith