Recriwtio

Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2023

Sgiliau Iaith a Recriwtio

Mae'r Safonau'n berthnasol i'n gweithlu o ran sgiliau iaith, o ran cyfleoedd dysgu a datblygu ac o ran recriwtio. Cymeradwyom Strategaeth Sgiliau Cymraeg ar 13eg Ionawr 2016. Bydd y strategaeth hon yn ategu gweithredu'r Safonau ac yn sicrhau bod y sgiliau a'r cyfleoedd datblygu cywir ar gael er mwyn darparu gwasanaethau cwsmeriaid o'r radd flaenaf. Dros yr wythnosau nesaf gofynnir i'n holl weithwyr ymateb i arolwg. Diben yr arolwg fydd darparu gwybodaeth am y sgiliau Cymraeg a Saesneg sydd ar gael ledled y Cyngor, ac fe'i defnyddir yn sail i drefnu cyfleoedd datblygu.

Rydym wedi mabwysiadu Fframwaith Sgiliau Iaith sy'n pennu'r lefelau sgiliau y mae'n bosibl y gall gweithwyr eu harddel, ymgyrraedd atynt neu a allai fod yn ofynnol ar gyfer swydd.

Datblygwyd canllawiau er mwyn helpu rheolwyr â'r ystyriaethau sgiliau iaith y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt wrth adolygu swydd newydd neu swydd wag ar gyfer recriwtio, ac wrth gynllunio'r gweithlu.

Dros gyfnod bydd angen asesu pob swydd, ac yn achos pob swydd a hysbysebir ar ôl 1af Ebrill 2016 gofynnir am Lefel 1 neu lefel uwch yn unol â gofynion y swydd. Mae lefel 1 y fframwaith newydd yn cyfateb i gwrteisi sylfaenol o ran yr iaith, hynny yw bod yn gallu ynganu enwau pobl a lleoedd yn gywir. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn gallu cyrraedd y lefel honno neu ymrwymo i gyrraedd y lefel honno drwy gael hyfforddiant ar ôl cychwyn yn y swydd.

Beth y mae angen imi ei wneud os wyf yn recriwtio staff?

  • Adolygu'r disgrifiad swydd/manyleb person presennol neu lunio un newydd gan gyfeirio at y Fframwaith Sgiliau Iaith a'r nodiadau cyfarwyddyd wrth gwblhau'r templed newydd.
  • Cwblhewch a chofnodi'r Asesiad Sgiliau Iaith Gymraeg ar gyfer y swydd (mae hyn yn ofynnol gan y Safonau Gymraeg ac mae'n rhaid cadw copi fel rhan o'r broses recriwtio).
  • Sicrhewch fod gennych ganiatâd i recriwtio (Adroddiad Swyddog Dirprwyedig/caniatâd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol/Cyfarwyddwr) a chyflwynwch y manylion angenrheidiol ar gyfer yr hysbyseb gan ddewis y testun perthnasol o ran sgiliau iaith.
  • Gwnwech drefniadau i asesu'r sgiliau iaith yn ystod y broses ddewis. Bydd swyddogion Polisi Corfforaethol a Rheoli Pobl yn darparu rhagor o gyfarwyddyd ynghylch hyn.
  • Gofynnwch am gyngor gan swyddog Rheoli Pobl os ydych yn cynnig swydd yn amodol a hynny ar sail bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cytuno i gyrraedd y lefel iaith ofynnol o fewn cyfnod penodedig. Bydd angen cynnig y rhaglen briodol o ran dysgu a datblygu i'r unigolyn i'w helpu i gyrraedd y lefel ofynnol.

Gwybodaeth bellach: