Gweithio'n ddwyieithog

Diweddarwyd y dudalen: 07/12/2023

Mae 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011. Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg o holl awdurdodau unedol Cymru.

Mae 43.9% o drigolion Sir Gâr yn gallu siarad Cymraeg. Mae 56% o blant Sir Gaerfyrddin yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae gan Sir Gâr ased unigryw yn ei phoblogaeth ddwyieithog a chyfraniad sylweddol i’w wneud wrth greu Cymru gwirioneddol ddwyieithog.

Ein rôl yn darparu gwasanaeth dwyieithog

Mae’r iaith Gymraeg yn allwedd i hunaniaeth a diwylliant nifer o’n poblogaeth, gall llawer o bobl fynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf. Mae yna garfanau o siaradwyr Cymraeg sydd wirioneddol angen cael gwasanaeth yn eu hiaith gyntaf er mwyn cael eu trin yn effeithiol. Mae’n ddyletswydd arnon ni i hwyluso dewis iaith i’n defnyddwyr.

Yn ôl arolwg, mae 66% yn meddwl y dylid gwneud mwy i hyrwyddo’r Gymraeg – nid dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n meddwl hynny.

Rydyn wedi creu canllawiau i’ch cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yn y gweithle beth bynnag fo lefel eich sgiliau iaith chi.

Safonau’r Iaith Gymraeg

Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn gofyn i ni ‘sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg’, ac yn nodi’n benodol y ‘Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny’.

Yr Uned Gyfieithu

Mae gennym dîm o gyfieithwyr proffesiynol sydd yma i'ch helpu chi i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog (Cymraeg - Saesneg / Saesneg - Cymraeg). Gall ein Tîm Cyfieithu un ai prawf-ddarllen eich gwaith neu ddarparu gwasanaeth cyfieithu llawn. Peidiwch â defnyddio offer ar-lein megis Google Translate oherwydd yn aml, maent yn gallu darparu cyfieithiadau anghywir. Pan fyddwch yn cyflwyno gwaith i'w gyfieithu, cofiwch nodi nifer cywir y geiriau (am waith sydd dros 100 o eiriau) a chofiwch gynnwys unrhyw wybodaeth ategol all fod o gymorth i'n tîm. Cyflwyno eich gwaith i'w gyfieithu neu ddilyn hynt cais presennol.