Rheoliadau

Diweddarwyd y dudalen: 07/12/2023

Safon 47: Llunio dogfen ar gyfer y cyhoedd

Os ydych yn paratoi dogfennau ar gyfer y cyhoedd, ac os nad oes safon arall eisoes yn gosod dyletswydd i gorff lunio’r ddogfen yn Gymraeg (e.e. os nad oes rhaid i gorff lunio dogfen yn Gymraeg yn unol â safonau 40–46), rhaid i ni asesu:

  • a yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei llunio yn Gymraeg, neu 
  • a yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’i disgwyliadau, yn awgrymu y dylid llunio’r ddogfen yn Gymraeg. 

Yn dilyn hynny, rhaid i’r corff lunio’r ddogfen yn Gymraeg (neu beidio) yn unol â chanlyniad yr asesiad hwnnw.

Gall yr asesiad hwnnw gynnwys ystyried y materion canlynol:

  • A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â mater sy’n berthnasol i nifer fawr o bersonau?
  • A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â mater sy’n effeithio ar, neu o bwys i, nifer fawr o bersonau? 
  • A yw pwnc y ddogfen yn ymdrin â materion ynghylch yr iaith Gymraeg (e.e. addysg cyfrwng Cymraeg)? 
  • A yw pwnc y ddogfen yn ymwneud â maes sydd o ddiddordeb arbennig o ran y Gymraeg (e.e. addysg / tai / gofal iechyd / celfyddydau / economi)?
  • A yw’r ddogfen yn un fydd yn cael ei harddangos yn gyhoeddus? 
  • A yw pwnc y ddogfen yn debygol o fod o ddiddordeb cyffredinol i bersonau sy’n siarad Cymraeg? 
  • A ydych yn gwybod bod canran neu nifer fawr o’r gynulleidfa a ragwelir yn siaradwyr Cymraeg? 
  • A oes mwy nag un person wedi gofyn bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg? 
  • A yw’r ddogfen yn un sy’n debygol o ennyn ymateb a sylw cyhoeddus (e.e. ar y cyfryngau cymdeithasol)? A yw’r ddogfen yn un y mae gofyn i bersonau ymateb iddi? 
  • A yw’r gynulleidfa darged yn cynnwys personau (fel grwpiau a sefydliadau) y mae’r Gymraeg yn ystyriaeth bwysig iddynt neu sy’n gweithredu yn Gymraeg? 
  • A yw’r gynulleidfa darged o fewn ardal sydd â chanran neu nifer fawr o siaradwyr Cymraeg?