Rheoli eraill a chyflogaeth eilaidd

Diweddarwyd y dudalen: 24/02/2023

Fel rheolwr, mae eich sgiliau arwain yn elfennau allweddol o'ch rôl.

Rhaid i chi:

  • Gynnal amgylchedd o barch, cydnabyddiaeth a chefnogaeth, a sefydlu pob gweithiwr newydd i'w rôl
  • Gwneud penodiadau ar sail teilyngdod a gallu i gyflawni'r rôl yn unig
  • Sicrhau bod cyfiawnhad gwrthrychol dros benderfyniadau sy'n ymwneud â disgyblu, dyrchafiad a thâl
  • Nodi ac asesu pob risg a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n briodol
  • Sicrhau bod trefniadau parhad busnes ar waith i alluogi gwasanaethau i barhau i gael eu darparu
  • Arfer dyletswydd gofal i weithwyr a chwsmeriaid, gan sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni

Ni ddylech:

  • Fod yn rhan o broses ddethol neu gyfweld os ydych yn perthyn i ymgeisydd neu mewn perthynas bersonol ag ef/hi neu aelod o deulu agos yr ymgeisydd

 

Cyflogaeth eilaidd

Mae cyflogaeth eilaidd yn golygu unrhyw waith â thâl neu waith di-dâl, gan gynnwys gwaith gwirfoddol, a wneir yn ychwanegol at eich gwaith yn y Cyngor.

Rhaid i chi:

  • Drafod unrhyw waith â thâl neu waith di-dâl arfaethedig gyda'ch rheolwr llinell cyn ei dderbyn a chofnodi gwaith o'r fath gan ddefnyddio ein ffurflen Datgan Buddiant ar-lein
  • Sicrhau nad yw'r gwaith yn gwrthdaro â'ch rôl chi a buddiannau'r Cyngor
  • Cydymffurfio â Rheoliadau Amser Gweithio, sy'n rheoli cyfanswm nifer yr oriau y gallwch eu gweithio'n ddiogel

Ni ddylech:

  • Gynnal eich cyflogaeth eilaidd yn ystod amser y Cyngor
  • Defnyddio adnoddau neu wybodaeth y Cyngor i ymgymryd â'ch cyflogaeth eilaidd