Tîm Cwynion Corfforaethol

Diweddarwyd y dudalen: 02/07/2026

Mae'r Tîm Cwynion Corfforaethol yn darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth gorfforaethol ar gyfer y modd y caiff cwynion eu rheoli ar draws Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r dudalen fewnrwyd hon yn fan canolog i staff gael mynediad at ganllawiau, hyfforddiant, data perfformiad, a diweddariadau sy'n ymwneud â chwynion corfforaethol. Mae'n ategu dull cyson, teg a thryloyw o ymdrin â chwynion yn unol â Pholisi Cwynion y Cyngor a'r wybodaeth a gyhoeddir ar wefan y Cyngor.

 

Ein Rôl 

Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws y Cyngor i:

  • Gefnogi cydweithwyr i ddelio â chwynion yn effeithiol ac yn gyson
  • Sicrhau bod cwynion yn cael eu rheoli yn unol â'r Polisi Cwynion
  • Cydgysylltu a goruchwylio cwynion corfforaethol
  • Cefnogi cwynion Cam 1 (datrysiad anffurfiol) a Cham 2 (ymchwiliad ffurfiol
  • Monitro perfformiad cwynion a chydymffurfiad ag amserlenni
  • Nodi themâu a dysgu i helpu i wella gwasanaethau
  • Darparu sicrwydd trwy adrodd corfforaethol a statudol

Rydym yma i helpu gwasanaethau i ddelio â chwynion yn dda, nid cymryd y cyfrifoldeb hwn oddi wrthynt.

Dylech droi at y dudalen hon gyntaf wrth weithio gyda chwynion.

Gallwch ei defnyddio i wneud y canlynol:

  • Deall beth sydd yn gŵyn a beth nad yw'n gŵyn
  • Gwirio sut y dylid cofrestru cwynion a delio â hwy
  • Cyrchu deunyddiau hyfforddi, canllawiau, a thempledi
  • Gweld perfformiad cwynion corfforaethol a'r hyn a ddysgwyd ohonynt
  • Darganfod sut i gysylltu â'r Tîm Cwynion Corfforaethol am gyngor a chymorth

 

Angen cymorth?

Os nad ydych yn siŵr sut i ddelio â phryder, p'un a yw'n cyfri fel cwyn, neu beth i'w wneud nesaf, cysylltwch â'r Tîm Cwynion Corfforaethol cyn i chi ymateb.

E-bost: cwynion@sirgar.gov.uk (defnydd mewnol yn unig)

Ffôn: Microsoft Teams

Mae cysylltu'n gynnar yn helpu i sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn gywir ac yn gyson.

Mae'r Tîm Cwynion Corfforaethol yn helpu cydweithwyr ar draws Cyngor Sir Caerfyrddin i reoli cwynion yn deg, yn gyson, ac yn unol â Pholisi Cwynion y Cyngor.

Rydym yn cydweithio â gwasanaethau i helpu i ddatrys cwynion cyn gynted ag sy'n bosibl, cefnogi ymchwiliadau ffurfiol lle bo angen, a sicrhau ein bod yn dysgu o gŵynion ac yn defnyddio hyn i wella gwasanaethau.

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw gam o'r broses gwyno i gael cyngor neu arweiniad.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae'r Tîm Cwynion Corfforaethol:

  • Yn gweithredu fel pwynt cydgysylltu canolog ar gyfer cwynion corfforaethol
  • Yn darparu cyngor ac arweiniad i wasanaethau sy'n delio â chwynion
  • Yn cefnogi ymatebion i gŵynion Cam 1 a Cham 2
  • Yn sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn gyson ar draws y Cyngor
  • Yn monitro perfformiad ac amserlenni
  • Yn nodi themâu, tueddiadau, a'r hyn a ddysgwyd
  • Yn llunio adroddiadau cwynion corfforaethol, gan gynnwys yr Adroddiad Cwynion Blynyddol

 

Enw: Robert Davies
Rôl: Swyddog Rheoli Cwynion
Lleoliad y Swyddfa: Neuadd y Sir, Caerfyrddin
E-bost: rordavies@sirgar.gov.uk
Ffôn/Sgwrsio: MS Teams

Enw: Hywel Phillips
Rôl: Swyddog Cwynion Corfforaethol
Lleoliad y Swyddfa: Neuadd y Sir, Caerfyrddin
E-bost: hwphillips@sirgar.gov.uk
Ffôn/Sgwrsio: MS Teams

 

Cysylltu â'r tîm

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch gyda chŵyn, gallwch gysylltu â'r Tîm Cwynion Corfforaethol:

Rydym yn hapus i roi cyngor cyn cyhoeddi ymateb, yn ystod ymchwiliad, neu lle nad ydych yn siŵr sut y dylid delio â phryder.

Deall y Broses Gwyno

Mae'r adran hon yn esbonio sut y mae'r Cyngor yn delio â chwynion a sut y dylai cydweithwyr gofrestru a rheoli cwynion er mwyn sicrhau bod yna ddull cyson ar draws pob gwasanaeth.

Rhaid delio â phob cwyn yn unol â Pholisi Cwynion y Cyngor a'r wybodaeth a gyhoeddir ar wefan y Cyngor.

 

Beth yw Cwyn?

Mae cwyn yn fynegiant o anfodlonrwydd am wasanaeth a ddarperir gan y Cyngor, lle mae cwsmer yn credu ein bod wedi methu â bodloni safon ddisgwyliedig.

Gall hyn gynnwys anfodlonrwydd ynglŷn â'r canlynol:

  • Ansawdd gwasanaeth
  • Oedi neu fethu â darparu gwasanaeth
  • Cyfathrebu gwael
  • Methu â dilyn polisi neu weithdrefn

 

Beth nad yw'n gŵyn?

Mae rhai materion yn dod y tu allan i'r broses gwyno gorfforaethol a rhaid delio â hwy trwy lwybrau eraill.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ceisiadau am wasanaeth (e.e. rhoi gwybod am ddiffyg)
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth neu Geisiadau gan Wrthrychau'r Data  
  • Hawliadau yswiriant
  • Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Materion cyflogaeth neu Adnoddau Dynol
  • Cwynion am Aelodau etholedig neu ysgolion 
  • Apeliadau statudol (e.e. penderfyniadau cynllunio neu ddirwyon parcio)

Os nad ydych yn siŵr a yw mater yn gŵyn, cysylltwch â'r Tîm Cwynion Corfforaethol am gyngor cyn symud ymlaen.

 

Y Camau Cwynion

Cam 1: Datrysiad Anffurfiol

Nod Cam 1 yw datrys cwynion yn gyflym ac yn lleol.

  • Dylid cydnabod cwynion yn brydlon
  • Dylai gwasanaethau geisio datrys problemau lle bynnag y bo modd
  • Yr amserlen darged yw 10 diwrnod gwaith
  • Caiff y Tîm Cwynion Corfforaethol ei hysbysu o bob cwyn a gall ddarparu cyngor a chymorth

 

Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol

Mae Cam 2 yn cynnwys ymchwiliad ffurfiol i'r gŵyn.

  • Cytunir ar ddealltwriaeth glir o'r gŵyn
  • Penodir swyddog ymchwilio
  • Caiff y dystiolaeth ei hadolygu a gellir ymgynghori â staff perthnasol
  • Yr amserlen darged yw 20 diwrnod gwaith, a chaiff diweddariadau eu rhoi os oes angen rhagor o amser 

Cyhoeddir ymateb ysgrifenedig sy'n esbonio'r canfyddiadau, y casgliadau, ac unrhyw gamau gweithredu a nodwyd.

 

Cofrestru Cwyn

Er mwyn sicrhau cysondeb a thryloywder, rhaid cofrestru pob cwyn drwy'r broses Cwynion Corfforaethol.
Gellir cofrestru cwynion drwy'r ffyrdd canlynol:

  • Y ffurflen gŵynion ar-lein ar wefan y Cyngor
  • Dros y ffôn
  • Yn ysgrifenedig

Ni ddylai cydweithwyr ymchwilio i gŵynion y tu allan i'r broses hon neu gynnal cwynion yn anffurfiol heb gofrestru.

 

Dysgu o gŵynion

Mae cwynion yn ffordd bwysig o ddysgu a gwella gwasanaethau.

  • Caiff canlyniadau a themâu eu hadolygu'n gorfforaethol
  • Caiff yr hyn a ddysgwyd ei rannu â gwasanaethau
  • Caiff y camau gweithredu eu monitro a'u hadrodd
  • Mae data cwynion yn llywio hyfforddiant, canllawiau, a gwelliannau

Hyfforddiant a Chanllawiau ar Gŵynion

Mae'r adran hon yn cynnwys deunyddiau hyfforddi cymeradwy, dogfennau canllaw, a thempledi i helpu cydweithwyr i reoli cwynion yn effeithiol ac yn gyson.

Caiff yr holl ddogfennau yn yr adran hon eu cynnal gan y Tîm Cwynion Corfforaethol.

 

Llyfrgell Ddogfennau

Perfformiad Cwynion Corfforaethol

Mae'r adran hon yn dangos pa mor dda y mae'r Cyngor yn delio â chwynion ac yn helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddysgu ac o wella gwasanaethau.

Caiff y data ei ddiweddaru bob chwarter ac mae'n adlewyrchu perfformiad ar draws y flwyddyn ariannol.

 

Trosolwg o Berfformiad Chwarterol

Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb cyffredinol o:

  • Gyfanswm y cwynion a ddaeth i law
  • Nifer y cwynion o dan Gam 1 a Cham 2
  • A wnaeth y Cyngor ymateb o fewn yr amserlenni
  • Canlyniadau'r cwynion

Defnyddir y data i helpu i wella gwasanaethau a'u cadw'n gyson.

 

Cwynion a Gaewyd fesul Adran 1 Ebrill 2026 – 30 Mehefin 2026

 

% o Gwynion Cam 1 a Gwblhawyd o Fewn y Terfyn Amser Statudol 

 

Adran Nifer o Gwynion
Wedi'u Cau o Fewn yr Amserlenni Statudol
(10 diwrnod gwaith)
% a Gaewyd o Fewn yr Amserlenni Statudol
(10 diwrnod gwaith)
Prif Weithredwyr 8 4 50.0
Gwasanaethau Corfforaethol 13 10 76.9
Addysg a Hamdden 24 22 91.7
Tai 58 40 69.0
Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd 119 106 89.1
Trawsadrannol 0 0 N/A
Cyfanswm 222 182 82.0

 

 

% o Gwynion Cam 2 a Gwblhawyd o Fewn y Terfyn Amser Statudol

 

Adran Nifer o Gwynion Wedi'u Cau o Fewn yr Amserlenni Statudol
(20 diwrnod gwaith)
% a Gaewyd o Fewn yr Amserlenni Statudol
(20 diwrnod gwaith)
Prif Weithredwyr 1 1 100.0
Gwasanaethau Corfforaethol 1 1 100.0
Addysg a Hamdden 2 2 100.0
Tai 8 7 87.5
Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd 7 6 85.7
Trawsadrannol 0 0 N/A
Cyfanswm 19 17 89.5

 

Adroddiad Blynyddol Cwynion

Mae'r Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cwynion, sy'n rhoi crynodeb cynhwysfawr o'r modd y mae wedi delio â chwynion, themâu, yr hyn a ddysgwyd, a pherfformiad.

 

Sut mae'r data hwn yn cael ei ddefnyddio

Defnyddir data cwynion i:

  • Nodi tueddiadau a materion sy'n codi dro ar ôl tro
  • Helpu i wella gwasanaethau
  • Helpu i greu adroddiadau i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a Chraffu
  • Helpu i ddatblygu hyfforddiant, canllawiau, a pholisïau