Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol

Diweddarwyd y dudalen: 20/12/2023

Os yw cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnoch, gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod wedi ymrwymo i sicrhau gweithle diogel sy'n diogelu eich iechyd a'ch llesiant.

Mae'r rheiny yr effeithir arnynt yn cynnwys:

  • dioddefwyr/goroeswyr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.
  • ffrindiau, teulu neu gydweithwyr dioddefwyr/goroeswyr.
  • cyflawnwyr cam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Mae pob math o gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol yn annerbyniol; nid yw unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath ar fai ac nid yw ar ei ben/phen ei hun. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Nid oes esgus dros gam-drin.

Mae gennym bolisi dim goddefgarwch i drais a chamdriniaeth, gan gydnabod mai’r cyflawnydd sy’n gyfrifol am gam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Mae'r dudalen hon wedi'i chynllunio i ddarparu gwybodaeth i gefnogi unrhyw un a effeithir gan gam-drin domestig a/neu drais rhywiol.

Adnoddau Dynol