Cofnodi Absenoldeb

Diweddarwyd y dudalen: 13/03/2024

Mae rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod pob absenoldeb salwch yn cael eu cofnodi yn gywir mewn modd amserol trwy fewnbynnu'r wybodaeth absenoldeb salwch ar My View.

Pan fydd yr absenoldeb yn cael ei gofnodi'n electronig, bydd neges e-bost awtomatig sy'n cadarnhau manylion yr amser i ffwrdd oherwydd salwch yn cael ei hanfon i'r gweithiwr.

Bydd cofnodi a monitro cywir yn helpu i nodi unrhyw batrymau o absenoldeb a allai fod yn destun pryder, er enghraifft dydd Llun/dydd Gwener neu ddyddiau i ffwrdd ar ôl gwyliau/Gŵyl Banc. Os yw patrwm o absenoldeb yn digwydd yna bydd gofyn i'r Rheolwr Llinell gyfarfod â'r gweithiwr i esbonio neu gynnig sylwadau ar y patrwm.

Cofnodi Absenoldeb

Os rydych yn sal ac nid yn digon iach i weithio, dylir ffonio eich rheolwr llinell i roi gwybod. Bydd angen adel iddynt wybod rheswm y salwch a'r hyd disgwyledig yr absenoldeb.

Dylech gysylltu dros y ffôn, ac nid trwy neges destun.

Bydd eich rheolwr llinell yn cofnodi hyn ar ResourceLink.

Mae camau nesaf y broses yn dibynnu ar hyd eich absenoldeb.

Adnoddau Dynol