Ymddeoliad oherwydd Iechyd Gwael - Athrawon

Diweddarwyd y dudalen: 08/08/2022

Mae athrawon sy'n cael eu diswyddo oherwydd iechyd gwael yn gyfrifol am wneud cais ar gyfer ymddeoliad iechyd gwaith i Bensiynau Athrawon. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i athrawon feddu ar ddwy flynedd o wasanaeth. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais ar gyfer ymddeoliad iechyd gwaith o wefan Pensiynau Athrawon.

Bydd angen i athrawon lenwi ffurflen gais ymddeoliad iechyd gwael a dylai'r Awdurdod a Chynghorydd Iechyd Galwedigaethol lenwi'r ffurflen wybodaeth feddygol i ddarparu tystiolaeth o'r iechyd gwael. Os yw Iechyd Galwedigaethol yn ystyried nad yw'r cais yn cynnwys digon o wybodaeth feddygol i alluogi'r cais i gael ei ystyried yn llawn, byddant yn darparu'r cyfle i'r ymgeisydd ystyried a oes gwybodaeth ychwanegol y gellir ei darparu.

Dylid anfon y ffurflenni i Bensiynau Athrawon ynghyd ag unrhyw dystiolaeth feddygol ychwanegol mae'r aelod eisiau ei chynnwys. Bydd Pensiynau Athrawon yn ystyried y cais a rhoddir gwybod i'r Awdurdod a'r athro o'r penderfyniad.

Os rhoddir iechyd gwael ac mae'r athro yn parhau i fod wrthi'n addysgu, mae'n rhaid gwneud trefniadau i hyn ddod i ben ar unwaith. Bydd yr Awdurdod yn darparu manylion cyflog a gwasanaeth pensiynadwy'r aelod o ddyddiad ei gyflwyniad diwethaf i Bensiynau Athrawon, hyd at ddiwrnod olaf ei wasanaeth pensiynadwy.

Os derbynnir y cais, yna ceir dwy lefel o fuddion iechyd gwael y gellir eu rhoi. Mae'r lefelau'n dibynnu ar ba rai o'r amodau canlynol sy'n cael eu bodloni:

  • methu addysgu yn barhaol ond yn gallu gwneud gwaith arall - Yn yr amgylchiadau hyn galli ymgeiswyr dderbyn taliad uniongyrchol o'u buddion cronedig neu
  • methu addysgu yn barhaol a methu â gwneud unrhyw waith arall - Yn yr amgylchiadau hyn byddai ymgeiswyr yn derbyn gwelliant ar sail hanner y gwasanaeth byddent wedi'i gwblhau cyn cyrraedd eu Hoedran Pensiwn Arferol (NPA) a'u cyflog ar ymddeoliad.

Pan fydd cyflwr aelod yn ddifrifol a'i ddisgwyliad oes yn llai na blwyddyn, gellir talu ei bensiwn fel cyfandaliad untro o oddeutu pum gwaith y pensiwn cychwynnol. Mae angen i'r aelod wneud cais am hyn wrth wneud ei gais am ymddeoliad iechyd gwael i sicrhau bod ei gais yn cael ei ystyried yn gywir.

O 1af Ebrill 2015 os bydd athro'n gwneud cais am ymddeoliad iechyd gwael o fewn dwy flynedd o adael cyflogaeth bensiynadwy a cheir tystiolaeth ei fod wedi gadael am yr un rhesymau meddygol â'i gais gwreiddiol, bydd yn cael ei drin fel petai'n parhau i fod yn y gwasanaeth. Nod hyn yw sicrhau nad yw aelodau o dan anfantais os oes ganddynt gyflwr sy'n datblygu'n araf neu'n anodd gwneud diagnosis ohono.

Adnoddau Dynol