Mabwysiadu / Benthyg Croth

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Gallwch roi gwybod iddynt ar lafar neu yn ysgrifenedig i ddechrau, ond bydd angen cyflwyno ffurflen gais o fewn 7 diwrnod o gael eich hysbysu gan yr Asiantaeth Fabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu.

Bydd absenoldeb mabwysiadu yn cychwyn ar y dyddiad pan leolir y plentyn (boed hyn yn gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl) neu ar ddyddiad penodol a all fod hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig.

Rhaid i chi roi ffurflen absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg wedi’i llenwi i’r Tîm Absenoldeb (gan anfon copi hefyd i’ch rheolwr llinell) o fewn 7 diwrnod o gael eich hysbysu gan yr asiantaeth fabwysiadu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn i’w fabwysiadu neu, yn achos trefniant mam fenthyg, rhaid i chi wneud cais am orchymyn rhiant dan drefniant mam fenthyg. Mae’n bosibl newid y dyddiad pryd y bydd yr absenoldeb yn cychwyn, ar yr amod eich bod yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o 28 diwrnod neu, os nad yw hynny’n bosibl, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Byddwch yn dal i gronni gwyliau blynyddol yn ystod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Dylech gymryd unrhyw wyliau blynyddol sydd gennych yn weddill, os oes modd, cyn dechrau’r absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Mewn achosion lle nad yw hyn yn bosibl, bydd y gwyliau blynyddol sy’n weddill yn cael eu cario ymlaen i’r flwyddyn wyliau newydd.

(Efallai y byddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol ichi gymryd yr holl wyliau a gariwyd ymlaen i flwyddyn wyliau newydd, neu rai ohonynt, ar ddyddiau penodol a bennir gan eich rheolwr llinell a gofynion gwasanaeth, neu dylid defnyddio’r gwyliau blynyddol o fewn 3 mis i chi ddychwelyd i’r gwaith.)

Ar gyfer staff sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig, bydd unrhyw addasiadau sy’n ofynnol yn cael eu gwneud ar ddiwedd cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Dylid defnyddio’r gwyliau naill ai cyn neu ar ôl cyfnod yr absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg yn ystod adegau pan fydd yr ysgolion ar gau. Wrth ddychwelyd o absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg dylech gael defnyddio unrhyw wyliau sy’n weddill yn ystod y tymor yn y flwyddyn wyliau honno os nad oes digon o adegau pan fydd yr ysgolion ar gau i allu defnyddio’r gwyliau yn y flwyddyn honno.

Bydd y prif fabwysiadwr yn gallu cymryd amser o’r gwaith â thâl ar gyfer hyd at bum apwyntiad mabwysiadu. Bydd y mabwysiadwr eilaidd yn cael cymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl ar gyfer hyd at ddau apwyntiad. Mae apwyntiadau mabwysiadu yn apwyntiadau a wneir gan asiantaeth fabwysiadu ynghylch plentyn sy’n cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu neu ei faethu ar gyfer lleoliad mabwysiadu.

Bydd gan staff a gweithwyr asiantaeth a chanddynt berthynas gymwys â menyw feichiog neu blentyn a ddisgwylir yr hawl i gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl i fynd yn gwmni i’r fenyw feichiog honno i hyd at ddau apwyntiad cynenedigol.

Bydd gan staff yr hawl hwn o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth. Bydd gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar ôl 12 wythnos yn yr un penodiad. Mae’r hawl i amser o’r gwaith yn gyfyngedig i uchafswm o chwe awr a hanner ar bob achlysur, a all gynnwys amser teithio, amser aros a phresenoldeb yn yr apwyntiad.

Ni fyddwch yn cael tâl salwch tra byddwch ar absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ond byddwch yn parhau i dderbyn tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg am y cyfnod y mae gennych hawl iddo.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i absenoldeb/tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ond gan eich bod wedi eich cyflogi ar gontract cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddechrau neu yn ystod eich absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg bydd unrhyw daliadau (os ydych yn gymwys) yn dod i ben ar eich dyddiad terfynu. Bydd unrhyw Dâl Mabwysiadu Statudol sy’n weddill (os ydych yn gymwys) yn cael ei dalu fel un taliad.

Fodd bynnag, os yw eich contract yn cael ei ymestyn neu os ydych yn canfod cyflogaeth arall dylech drafod â Swyddog AD eich adran a’r Tîm Absenoldeb oherwydd fe allech fod yn gymwys i gael absenoldeb/tâl mabwysiadu/trefniant mam fenthyg ychwanegol.

Cymerir yn ganiataol y byddwch yn dychwelyd ar ddiwedd y cyfnod absenoldeb mabwysiadu/trefniant mam fenthyg. Os dymunwch ddychwelyd i’r gwaith yn gynharach na hynny, rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch rheolwr llinell a’r Tîm Absenoldeb eich bod yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith yn gynnar; bydd hyn yn gymwys yn ystod Absenoldeb Mabwysiadu Arferol ac Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol.

Rydym yn ymroddedig i gefnogi amgylchedd sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae polisïau wedi cael eu datblygu er mwyn cynorthwyo hyn. Ymhlith yr opsiynau eraill y gellir eu hystyried mae gwneud cais i weithio’n hyblyg, rhannu swydd neu weithio’n rhan-amser. Gweler y polisi Gweithio’n Hyblyg am ragor o wybodaeth.

Os byddwch, wedi i chi gadarnhau eich bwriad i ddychwelyd i’r gwaith, yn penderfynu peidio dychwelyd am o leiaf 13 wythnos mae’n bosibl y gofynnir ichi ad-dalu rhywfaint o’r tâl yr ydych wedi’i dderbyn. Gweler y polisi Absenoldeb Mabwysiadu/Trefniant Mam Fenthyg am ragor o fanylion.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol