Cyflwyniad

Diweddarwyd y dudalen: 02/02/2024

Mae'r dudalen hon yn tynnu sylw at offer a fydd o gymorth yn y gwahanol gyfnodau o gynllunio'r gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Fe'i datblygwyd ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth a'u timau rheoli i helpu i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer eu gwasanaeth i ymateb i risgiau o ran y gweithlu yn y dyfodol.

Rydym yn sôn am gynllunio'r gweithlu a chynllunio gweithlu strategol yn gyfnewidiol. Y gwahaniaeth rhwng cynllunio'r gweithlu a chynllunio gweithlu strategol yw eu bod yn cael eu cynnal dros wahanol gyfnodau o amser.

Mae cynllunio'r gweithlu yn canolbwyntio ar eich adnoddau presennol o ran pobl a'ch cynlluniau gweithredol ar gyfer y flwyddyn gyllidebol sydd i ddod.

  • Mae cynllunio gweithlu strategol yn edrych ar gyfnod o dair i bum mlynedd.
  • Dylech bob amser ystyried pa gyfnod sydd fwyaf perthnasol i chi, gan y bydd yn caniatáu i chi gymhwyso'r offer ar y dudalen hon yn well.

Mae cynllunio'r gweithlu yn broses barhaus sy'n cael ei harwain gan bob Pennaeth Gwasanaeth, yn eiddo i'r sefydliad cyfan, ac yn cael ei galluogi gan Reoli Pobl. Drwy ddadansoddi eich gweithlu presennol a phenderfynu ar eich anghenion o ran y gweithlu yn y dyfodol, rydych yn nodi'r bwlch rhwng y gweithlu sydd gennych nawr a'ch anghenion yn y dyfodol. Yna gallwch roi'r atebion cywir ar waith fel y gall eich is-adran a'ch adran gyflawni eu cynlluniau strategol.

Dylid alinio ac integreiddio cynllunio gweithlu strategol gyda gweithgareddau cynllunio allweddol eraill, h.y. cynllunio busnes a chynllunio ariannol. Disgwylir i Benaethiaid Gwasanaeth fanylu ar yr hyn y bydd newid yn y gwasanaethau yn ei olygu i'r gweithlu yn ystod y cyfnod cynllunio hwnnw a'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r rhain.

Byddai'r gweithgareddau cynllunio allweddol hyn yn dechrau fel rheol o amgylch Ebrill i Fehefin, er mwyn paratoi ar gyfer y cylch cynllunio busnes sy'n dechrau ym mis Medi, ac yn cael eu cwblhau a'u hadolygu yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn gyllidebol.

Mae cynllunio gweithlu strategol yn weithgaredd parhaus a deinamig ac mae'n hollbwysig sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith o fewn y meysydd gwasanaeth i fonitro'r cynllun gweithredu a'i ddiwygio mor aml ag y bydd angen.

 

Sut mae cynllunio'r gweithlu o gymorth?

Mae cynllunio'r gweithlu yn eich helpu i nodi problemau busnes a’r goblygiadau o ran y gweithlu a'u troi'n atebion. Nid yw'n ymwneud â chreu cynlluniau na llenwi templedi. Mae'n ymwneud â nodi a datblygu'r gweithlu cywir i gyflawni eich nodau o ran darparu gwasanaethau.

Bydd manteision dull cynlluniedig o gynllunio'r gweithlu yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod talent ar gael pan fydd ei hangen arnoch.
  • paratoi ar gyfer y dyfodol drwy ragweld a chynllunio ar gyfer newid.
  • bod yn fwy ystwyth ac alinio â'ch blaenoriaethau strategol.
  • lleihau risgiau sy'n gysylltiedig â’r gweithlu nawr ac yn y dyfodol.

 

Strategic Workforce Planning Cycle Cymraeg.pdf

 

 

 

Adnoddau Dynol