Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026
Yn yr adran hon
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gael gwared â rhwystrau strwythurol, trefniadol, ffisegol ac agwedd y gall pobl anabl eu hwynebu.
Pwrpas y canllawiau hyn yw cynghori unrhyw reolwr gyda Chyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am gyflwyno addasiad rhesymol yn y gweithle neu gefnogi gweithiwr anabl.
Mae’r canllawiau’n cynnig cyngor cyffredinol ar addasiadau rhesymol.
Mae dros 7 miliwn o bobl oed gwaith yn y DU yn byw gydag anabledd. Fodd bynnag, nid yw pob anabledd yn amlwg na gweladwy; mewn gwirionedd, mae gan 70% o bobl anabledd sydd ddim yn weladwy. Mae’n bwysig felly fel rheolwr peidio gwneud rhagdybiaethau wrth reoli perfformiad eich gweithwyr.
Fel rheolwr rydych yn gyfrifol am greu amgylchedd agored a chefnogol lle y mae pob gweithiwr rydych yn eu rheoli yn cyflawni eu hamcanion a’u targedau perfformiad tra’n eu galluogi i gyflawni eu llawn botensial yn eu rôl.
Mae hyn yn cynnwys gweithwyr anabl allai weithiau fod angen ichi wneud newidiadau neu “addasiadau rhesymol” i’w galluogi i wneud hynny.
Er yr anelir y canllawiau hyn yn bennaf at gefnogi gweithwyr sy’n byw ag anabledd, gall egwyddorion y canllawiau hyn fod yn berthnasol i bob gweithiwr lle y gall addasiadau rhesymol fod yn briodol.
Mae'r canllawiau hyn yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae canllawiau ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn niffyg canllawiau y cytunwyd arnynt yn lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y canllawiau hyn.
