Addasiadau Rhesymol: Canllaw i Reolwyr - Gorffennaf 2026

4. Y Gyfraith

Y diffiniad cyfreithiol o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw “anhwylder corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol”.

Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eich rhwystro fel rheolwr rhag gofyn am wybodaeth am iechyd neu anhwylder gweithiwr. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio’r wybodaeth hon i wahaniaethu. Hefyd, gall deall effeithiau negyddol anhwylder eich helpu i drin a thrafod gyda’r gweithiwr a oes angen gwneud addasiadau a beth allai’r rheiny fod. Mae’n rhaid ichi ofalu y ceir cyfathrebu cadarnhaol rhwng y gweithiwr yn eich tîm a chi, tra’n bod yn sensitif a pharchu cyfrinachedd drwy’r amser.

Mae angen gwneud addasiadau rhesymol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Pan mae rhywun wedi datgan neu wedi dweud wrthym fod ganddynt anabledd, salwch neu anaf ac wedi gofyn am addasiadau rhesymol.

  • Pan ellid disgwyl yn rhesymol y byddai rhywun angen addasiad.

  • Pan ellid disgwyl yn rhesymol fod rhywun yn anabl.

  • Pan fyddai gwneud addasiad rhesymol yn galluogi’r gweithiwr i wneud eu swydd yn fwy effeithiol, a ydynt yn cael eu cynnwys dan y ddeddfwriaeth ai peidio.

4.1 Darganfod a oes gan rywun anabledd

Nid ydych ond yn gorfod gwneud y newidiadau hyn pan ydych yn gwybod neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl ichi wybod fod gan weithiwr anabledd a’i fod yn debyg o ddioddef anfantais sylweddol o’r herwydd. Golyga hynny wneud popeth rhesymol i ddod i wybod. Nid yw er hynny’n golygu gofyn cwestiynau ymwthiol neu rai sy’n tarfu ar urddas person. Meddyliwch am breifatrwydd a chyfrinachedd yn yr hyn a ofynnwch a sut rydych yn gofyn.

Enghraifft

Mae perfformiad gweithiwr wedi dirywio’n ddiweddar, ac maent wedi dechrau cyrraedd y gwaith yn hwyr. Cyn hynny roedd ganddynt hanes da iawn o ran prydlondeb a pherfformiad. Yn hytrach na gwneud dim mwy na dweud wrthynt i wella, mae eu rheolwr yn siarad â nhw yn breifat. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r rheolwr ofyn a allai’r newid yn eu perfformiad fod am reswm yn ymwneud â’u hanabledd. Dywed y gweithiwr eu bod wedi dechrau teimlo’n isel eto ac nad ydynt yn cysgu’n dda, sy’n golygu eu bod yn hwyr.

Rhyngddynt, mae’r rheolwr a’r gweithiwr yn cytuno newid yr oriau gwaith rhyw gymaint tra’u bod yn y sefyllfa hon ac y gall y gweithiwr ofyn am help pryd bynnag y maent yn ei chael yn anodd i gychwyn neu gwblhau tasg. Mae hwn yn addasiad rhesymol.

4.2 Pryd ddylem ni fod yn gwneud addasiadau rhesymol?

Dylid gwneud addasiadau rhesymol pryd bynnag y mae eu hangen. Gall hyn gynnwys:

  • Recriwtio a phenodi: gall hyn ymwneud â’r ffordd y caiff y cais ei lenwi, sut gaiff cyfweliad neu brawf ei gynnal, neu unrhyw feini prawf eraill a ddefnyddiwyd.Trowch at Atodiad 1 i gael mwy o fanylion

  • Wrth gychwyn swydd: os yw gweithiwr newydd yn dechrau yn eich tîm efallai y bydd angen ichi wneud addasiadau rhesymol.

  • Ar unrhyw adeg yn ystod cyflogaeth gyda ni.

  • Wrth ymgymryd â dysgu a datblygu.

  • Adeg newid rôl neu drosglwyddiad neu amgylchedd neu amodau Gwaith.

Cyn ystyried/gwneud addasiad rhesymol mae angen rhoi ystyriaeth i nifer o faterion pwysig. Fel y rheolwr dylech ofalu eich bod yn llenwi’r Cynllun Gweithredu Addasiad Rhesymol gyda’r gweithiwr (Atodiad 2).

4.3 A oes fformat y gallaf ei ddefnyddio ar gyfer y drafodaeth gyda’r gweithiwr?

Trowch at Atodiad 2 – Cynllun Gweithredu.